Coch a Gwyrdd!!!!!!!!
Mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o fewn y dim i gytuno ar Glymblaid. Dw i'n cael ar ddeall bod grwp Plaid Cymru bron yn sicr o gytuno i drafodaethau pellach a Llafur mewn cyfarfod heno.
Deallaf fod Llafur wedi cynnig o leiaf tair sedd cabinet i Blaid Cymru ac addewidion pendant o refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad, comisiwn ar fformiwla Barnett a mesur iaith.
DIWEDDARIAD; Mae ffynonellau o fewn Llafur a Phlaid Cymru yn gwadu bod nifer seddi cabinet Plaid Cymru wedi ei drafod ond dydyn nhw ddim yn gwadu byrdwn y stori.
Mae dwy blaid arall yr enfys yn disgwyl i aelodau grŵp Blaid Cymru bleidleisio o blaid parhau a thrafodaethau a Llafur yn eu cyfarfod heno ond yn parhau'n obeithiol mai'r "enfys" fydd y dewis ar ddiwedd y dydd.
SylwadauAnfon sylw
Wel, os felly, Hwrê!!! (Trueni mawr nad oes modd italeiddio yma!) O'r diwedd, bydd gennym lywodraeth gonsensws. Pe bai Plaid Cymru wedi rhoi modfedd i blaid arall (un a fu ar adegau'n gwbl elyniaethus tuag at Gymru), byddai wedi'i bradychu ei hun.
Codi canu amdani, felly!
Mae'r saga yma yn fwy troellog na'r 'Sopranos'..
Ydw i'n gywir i ddweud bod maniffesto'r Blaid Lafur yn cynnwys ymrwymiad i beidio a chyflwyno mesur iaith newydd. Tybed siwd bydd eu cefnogwyr selog yn gweld hyn? A thybed pa fath o fesur bydd yn ddigon gwan iddynt ei dderbyn...
Digon gwir BeddG. Does ond gobeithio bod 'na ddiwedd go iawn i'r stori yma.
Dwi yn gweld hwn yn llawer fwy debygol erbyn hyn na'r enfys- mae'r logic wleidyddol yn glir. Cam mawr i'r ddwy blaid ac wrth gwrs y fanteision strategol i PC o
a)fedru dangos bod hwn yn unol gydai amcanion dros Gymru h.y refferendwm
b)osgoi gormod o fflac am fod yn rhy agos i'r Toriaid
c)cadw HMJ ac eraill ar ford y llong-tybiaf bod lawer yn PC wedi cael traed oer ynglyn ar enfys.
Hwb sylweddol i'r garfan cenedlatholgar yn y Blaid Lafur ac ar nodyn personol gobaith i fi fedru aros yn y BL ar ol cefnogi Wiggley!
Mi fyddai PC yn hynod ffol a naif i gredu addewidion Llafur ynghylch refferendwm.Does dim modd i RM roi unrhyw sicrwydd o gwbl y byddai holl aelodau Llafur yn cefnogi refferendwm, ac o feddwl ei fod o'n ymddeol mewn dwy flynedd beth bynnag onid arweinydd cloff fydd o hyd at y dyddiad hwn beth bynnag(yn debyg iawn i Tony Blair unwaith y cyhoeddodd o na fyddai'n cwblhau ei dymor seneddol)gyda llai a llai o afael ar ei blaid.Os aiff Plaid i glymblaid efo Llafur, dyna ddiwedd ar unrhyw obeithion o weld Llafur allan o lywodraeth yng Nghymru am genhedlaeth arall.Ta Ta democratiaeth a phliwralistiaeth felly.
Mi fyddai Clymblaid Llafur - Plaid yn newyddio drwg i Gymru ac i'r Blaid.
Mae'r enfys yn dangos fod modd i BLaid Cymru arwain llywodraeth ac yn tynnu miloedd o bobl newydd i'r prosiect genedlaethol.
Os ydi Morgan a Llafur yn bygwth na allwn ni gael referendwm heb gefnogaeth Llafur wel iawn, gawn ni weld. Petai Plaid Cymru yn herio llafur ar hyn yna dwi'n amau mai Llafur fydd yn colli fots, aelodau ac hygrededd.
Mae cytundeb Coch-Gwyrdd yn rhoi hygrededd newydd i Lafur - mae Plaid Cymru ar fin achub y Blaid Lafur. Fel cenedlaetholwr - diolch am ddim Plaid. Man a man bod yn aelod 'genedlaetholgar' o fewn Lalfur fel Gareth Thomas - sdim angen PC arnom.
Roeddwn i'n edrych ymlaen i weld penawdau ar draws Ewrop fod Cymru'n cael ei harwain gan blaid genedlaetholgar. Gyda hynny fyddai statws a sylw newydd i Gymru. Ond na, for Wales see Labour fydd hi.
Camgymeriad mawr a phenderfyniad trist i ddemocratiaeth Cymru.