Cri o'r cwm
Mae llais Ken Hopkins yn un pwysig- ac mae fe'n gwybod hynny.
鈥淜en pwy?鈥 meddech chi. Wel, os nad ydych chi'n aelod o'r Blaid Lafur dydych chi ddim yn debyg o wybod ond ers degawdau Ken yw 鈥淢r Fix-it鈥 Llafur Cymru - y gwr sy'n ceisio sortio pethau allan os oes 'na broblem. Yn wir fel y gwr oedd yn gyfrifol am lunio polisi datganoli y gallai'r blaid gyfan ei gefnogi yn y nawdegau mae hawl gan Ken i fynnu mai ef, a nid Ron Davies, yw gwir bensaer y cynulliad.
Hyd y gwn i dyw Ken erioed wedi cael ei ethol i unrhyw swydd ac eithrio sedd ar bwyllgor gwaith ei blaid ac am ran helaeth o'i fywyd roedd yn gweithio ym myd addysg. Fel cyfarwyddwr addysg yr hen Forgannwg Ganol Ken oedd yn gyfrifol am lunio polisi 鈥渃wrdd a'r galw鈥 ynghylch addysg Gymraeg. O'r herwydd cafwyd ffrwydriaid mewn addysg Gymraeg yn y sir yn ystod oes y cyngor gyda degau o Ysgolion Cymraeg newydd yn agor. Yn ystod yr un cyfnod ni agorwyd yr un Ysgol Gymraeg yng Ngorllewin Morgannwg, sir a chanran llawer yn uwch o Gymry Cymraeg.
Nid bod Ken yn rhyw fath o 鈥渘ashi鈥. Fel aelod o blaid y Rhondda mae e wedi yfed droeon o'r ffynnon rhyfedd honno sy'n gwneud gwleidyddiaeth y ddau gwm mor chwerw a llwythol. Does na'r un man yng Nghymru lle mae Llafur a Phlaid Cymru yn casau ei gilydd cweit cymaint ac yn y Rhondda.
Pam s么n am Ken heddiw? Wel, yng ngholofn llythyrau'r Western Mail mae na lythyr byr gan Ken, llythyr a allai fod yn fawr ei ddylanwad. Ynddo mae'n dadlau'n gryf nid yn unig dros lywodraeth coch-gwyrdd ond, o ddarllen rhwng y llinellau, rhywbeth mwy na hynny. Dyma flas o'r hyn sydd ganddo i ddweud.
鈥淎 second sensible development... is a logical and radical left alliance between Labour and Plaid... such an alliance would be so appropriate to Wales given its recent history... delivering to the Welsh people an effective and caring administration whether you live in Wrexham or Anglesey the Vale of Glamorgan or Tonypandy鈥
I bob pwrpas mae Ken yn dweud mai dim ond Llafur a Phlaid Cymru sydd yn gallu ffurfio 鈥淟lywodraeth Cymru Gyfan鈥 go iawn. Ond os ydy hynny'n gywir onid yw rhesymeg ei ddadl yn awgrymu y dylai'r berthynas rhwng y ddwy blaid fod yn rhywbeth mwy na chytundeb llywodraethol yn y cynulliad? Ydy platiau tectonig ein pleidiau yn dechrau symud?
SylwadauAnfon sylw
Croseo i Ken ymuno a'r Blaid - dim cweit yn deall pam dyw e heb yn barod.
Nos Wener 22/6/07, roedd Ieuan Wyn Jones yn s么n am y 'shifft' hanesyddol sydd wedi bod, yn ystod amser hynod o fyr, mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru o ran safiad y prif bleidiau Prydeinig, ac am y r么l a fu gan y Blaid yn hynny o beth, felly mae'r hyn y mae K. Hopkins yn ei ddweud yn gwneud synnwyr .....