Llanast llythyrau
Am y tro cyntaf fe ddyfynnwyd o'r blog yma ar lawr y cynulliad heddiw! Dyfynnodd Ieuan Wyn Jones o'r post blaenorol (Rhaglen Rhodri) i geisio profi bod y llywodraeth wedi rhyddhau cynnwys llythyrau Rhodri Morgan iddo ef a Mike German i'r wasg cyn i arweinwyr y gwrthbleidiau eu derbyn. Dw i'n dweud dim ond gan fod y post hwnnw wedi sgwennu am ddau o'r gloch dwy awr ar ol i'r ddadl gychwyn dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth wedi ei brofi!
Serch hynny mae cynnwys y llythyrau yn ddiddorol.
Yn ei lythyr i Mike German mae Rhodri Morgan yn cynnig cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid i'r Democratiaid Rhyddfrydol gan awgrymu y gallai'r pwyllgor hwnnw gynnal ymchwiliad i fformiwla Barnett.
Yn ei lythyr i Ieuan Wyn Jones mae Rhodri yn awgrymu sefydlu pwyllgor o bedwar aelod seneddol a chynulliad o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru i baratoi ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad. Mae e hefyd yn cynnig cynnal cyfarfod wythnosol ffurfiol ac arweinydd y Blaid i drafod busnes y cynulliad.
Mae'r ddau lythyr hefyd yn cynnwys addewid i rewi, i bob pwrpas, y broses o adrefnu ysbytai Cymru ac i ail-feddwl ynglŷn â'r cynlluniau.
Mae llythyrau Mike ac Ieuan yn dri thudalen o hyd. Fe dderbyniodd Nick Bourne lythyr hefyd. Llythyr deg llinell oedd honno yn addo llais iddo mewn penodiadau cyhoeddus.