Melding yn myfyrio
Un o aelodau mwyaf meddylgar y cynulliad yw'r Ceidwadwr David Melding. Dw i ddim yn meddwl bod hi'n annheg i'r naill ddyn na'r llall i'w ddisgrifio fel egin Gwynfor Evans y Ceidwadwyr. Fel Gwynfor mae David yn hoff o ddefnyddio hanes i liwio ei weledigaeth wleidyddol ac fel Gwynfor mae e wedi meddwl yn hir am natur cenedligrwydd a'r gwahaniaethau rhwng cenedl a gwladwriaeth.
Heddiw cyhoeddodd David lyfryn "Wales and the idea of Britain" sef arolwg o hanes Cymru rhwng cyfnod y Rhufeiniaid ac oes y Tuduriaid o bersbectif Ceidwadol ,Catholig. Craidd dadl David yw bod y "syniad o Brydain" yn rhan allweddol o hanes a chymeriad y Cymry. Mae'n dyfynnu hanesion yr hen Ogledd, y Mabinogi a chwedloniaeth Arthur fel prawf o hynny.
Yn ôl David mewn un ystyr dim ond y Cymry sy'n "wir-Brydeinwyr" gan fod y Saeson yn tueddu gweld Prydain fel "Lloegr fawr" a'r Albanwyr wedi priodi er mwyn cyfleustra. Mae'n dadlau bod y syniad o'r Cymry fel gwir etifedd y Brydain Rufeinig yn rhannol gyfrifol am wytnwch eu diwylliant a'u hiaith a dadeni cenedlaetholdeb diwylliannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nid bwriad David yw cyrraedd unrhyw gasgliadau mawr ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Cymru ond ceisio sicrhâi bod y dyfodol hwnnw yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'n hanes a'n cymeriad cenedlaethol. Mae'n ymdrech nobl ac er y byddai Gwynfor yn anghytuno a dadansoddiad David dw i'n sicr y byddai'n edmygu'r ymdrech.
SylwadauAnfon sylw
O darllen 'Barn' y mis yma, mae'n debyg fod dadansoddiad David ynglyn a Cymru a natur Prydeiniaeth yn debyg iawn i un Enoch Powell! Ond ni ellir dychmygu dau Tori mor wahanol a Melding a Powell.