´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhowch i mi hedd....

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Sul, 17 Mehefin 2007

Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r penwythnos yma yn rhoi terfyn ar y saga! Mae gen i lwyth o eitemau a rhaglenni i'w gwneud ynghylch ymadawiad Tony Blair a dyrchafiad Gordon Brown a fawr ddim wedi ei recordio hyd yma. Fe fydd yn rhaid i mi rwygo fy hun o'r bae yr wythnos yma a heglu hi am San Steffan.

Dw i 'n mwynhau mynd i Westminster ond dw i'n paratoi fy hun yn barod am y cwynion gan Aelodau Seneddol am "blwyfoldeb" newyddiduraeth wleidyddol Gymreig. Yr hyn sy'n eu gwenud yn anhapus, wrth gwrs, yw bod aelodau'r cynulliad yn tueddu cael llawer mwy o sylw na nhw. Mae na rhyw beth eitha eironig ynglyn a gwrando ar drigolion y "Westminster Village" yn cyhuddo eraill o "blwyfoldeb".

Serch hynny, mae'n ffaith wrth gwrs mai San Steffan sydd a'r gair olaf ar rhai o'r pynciau mwyaf sy'n effeithio'n bywydau- rhyfel a heddwch, trethi a chyllid, yr economi a phensiynnau i enwi ond ychydig. Ond cyn i'n haelodau seneddol gwyno gormod rhaid gofyn i ba raddau y mae'r penderfynniadau hynny yn benderfynniadau seneddol erbyn hyn ac i ba raddau mae'r dadleuon seneddol ond yn addurn mewn system sy'n gynyddol arlywyddol.

Unbennaeth etholedig oedd disgrifiad Quentin Hogg o system lywodraethol Prydain ac yn sicr mae hi wedi ymddangos felly ar adegau yn ystod cyfnod Tony Blair. Efallai y gwnaeth pethau newid o dan Gordon. Fe gawn weld.

Un peth fyddai'n sicr o drawsnewid pethau fyddai senedd grog ac mae'n ddigon posib mai dyna fydd yn bodoli wedi'r etholiad nesaf. Pe bai hynny'n digwydd mae'n debyg y byddai Gordon yn troi at "bartneriaid naturiol" Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna'r rheswm, mae'n bosib, am ddiddordeb cynyddol yr arweinyddiaeth yn y sefyllfa yng Nghaerdydd.

Fe fyddai "enfys" yn gosod cynsail peryglus gyda phlaid y canol yn clymbleidio a'r Ceidwadwyr yn hytrach na'u partneriaid "naturiol" ar y meinciau Llafur.

Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf mae seneddau crog yn debyg o fod yn gyffredin yn y dyfodol hyd yn oed o dan y drefn bleidleisio fel ac y mae hi. Mae'r canran sydd yn pleidleisio dros y ddwy blaid fawr wedi bod yn gostwng ers degawdau ac rydym yn agoshau at drothwy lle fydd hi'n anodd i naill ai'r Toriaid na Llafur sicrhai mwyafrif clir.

Yn 1966 enillodd y ddwy brif blaid 87% o'r bleidlais a 95% o'r seddi yn NhÅ·'r Cyffredin. Erbyn 2005 roedd y canrannau wedi gostwng i 68% o'r bleidlais a 85% o'r seddi. Nid Bae Caerdydd yw'r unig le fydd y pleidiau yn gorfod dysgu sut mae cydweithio!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:45 ar 18 Mehefin 2007, ysgrifennodd Daran:

    "Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf mae seneddau crog yn debyg o fod yn gyffredin yn y dyfodol hyd yn oed o dan y drefn bleidleisio fel ac y mae hi."

    Yn 2001 ennillodd y Blaid Lafur 50 o seddi gyda mwyafrif llai na 4000 o bleidleisiau; ac 18 ohonynt gyda mwyafrif o lai na 2000.

    Yn 2005 ennillodd y Blaid Lafur 83 o seddi gyda mwyafrif llai na 4000 o bleidleisiau; ac o rhain roedd 37 o rhain yn llai na 2000 of fwyafrif.

    Gyda mwyafrif seneddol o ychydig dros 60, ond rhaid i Lafur golli rhyw 30 sedd a bydd y mwyafrif wedi mynd. Mae newid ffiniau yn Lloegr yn ol y son yn barod wedi ail-ddosbarthu rhyw dwsin sedd i elynion Llafur ar gyfer yr etholiad Prydeinig nesa.

    Os nad yw Llafur yn ennill tir yn ol, y tebygrwydd felly yw senedd crog. Dim rhyfedd bod ods y bwcis mor wael ar yr opsiwn yna.

  • 2. Am 15:59 ar 18 Mehefin 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    "Rhowch i mi hedd...."

    Dyna oedd cri fy narlithwyr yn Aber digwydd bod... ;-)

  • 3. Am 00:45 ar 19 Mehefin 2007, ysgrifennodd Hedd:

    Da iawn Vaughan.

    Mae'r blogia chi igyd yn wych...ond y boi bach yn Brussels...gwallt coch...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.