Tactegau Rhodri
Roeddwn yn hanner cellwair ddoe pan ddisgrifiais swydd newydd Carwyn Jones fel "gweinidog plesio Plaid Cymru" ond mae 'na elfen o wirionedd yn y peth. Wrth graffu'n fwy manwl ar benodiadau Rhodri a'r hyn sydd i'w glywed o gwmpas y senedd mae'n bosib synhwyro'r strategaeth wleidyddol y mae Llafur yn ei dilyn i geisio aros mewn grym.
Er bod Rhodri wedi datgan ei fod yn bwriadu ceisio estyn allan i bobol flaengar o fewn Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'n amlwg mae o rengoedd y Cenedlaetholwyr y mae'n gobeithio cael ei gynhaliaeth am y misoedd cyntaf o leiaf.
Gadewch i ni edrych ar y tymor byr i ddechrau. Wrth i'r i'r gwrthbleidiau chwilio am reswm/esgus i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder mae 'na dri phwnc amlwg yn cynnig eu hun sef mesur iaith, ad-drefnu gwasanaethau ysbyty a llunio cyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae'r tri gweinidog fydd yn gofalu am y pynciau hynny Carwyn Jones, Edwina Hart a Jane Hutt i gyd yn weinidogion sydd ar delerau da a Phlaid Cymru ac ymhlith yr aelodau Llafur oedd yn fwyaf agored i ddelio a 'r Blaid yn hytrach na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil yr etholiad.
Fe fydd mesur iaith, yn enwedig un sy'n ymwneud a'r sector breifat yn peri problemau i Lafur. Does 'na ddim sicrwydd y byddai'r adran diwydiant yn Llundain yn cyd-synio a mesur o'r fath. Y broblem yw hyn. Tra bod yr Iaith fel pwnc yn ddatganoledig dyw'r rhan fwyaf o reoliadau busnes ddim. Mae'n gwestiwn cyfansoddiadol a chyfreithiol agored p’un ai oes gan San Steffan yr hawl i drosglwyddo pwerau yn y maes o dan Fesur Llywodraeth Cymru.
Ond beth pe bai Carwyn wrth wisgo ei het ddiwylliant yn cynnig mesur iaith cyfyngedig ond hefyd yn cynnig strategaeth addysg Cymraeg cenedlaethol wrth wisgo ei het addysg? A fyddai hynny'n prynu amser i'r llywodraeth?
Fe fydd Edwina a Jane hefyd yn ceisio cyrraedd consensws a Phlaid Cymru. Ac eithrio mewn ambell ardal megis Gwent dw i'n rhagweld y bydd y llywodraeth yn cychwyn o'r cychwyn cyn belled ac mae'r ysbytai yn y cwestiwn ac fe ddylai cytundeb ar y gyllideb fod yn bosib os (ac mae'n "os" fawr) ydy Plaid Cymru'n dymuno hynny.
Byw o law i geg ac o ddydd i ddydd fydd y llywodraeth wrth ddelio a Phlaid Cymru. Yn y tymor hir fe fydd Llafur yn gobeithio adfywio'r syniad o glymblaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y seddi gweigion wrth fwrdd y cabinet. Ond fe fydd hi'n flwyddyn o leiaf cyn i'r posibilrwydd hwnnw ail-ymddangos.
SylwadauAnfon sylw
Ar ôl yr holl gwynion am absenoldeb cynrychiolaeth o'r Gogledd a'r Canolbarth yng nghabinet Rhodri M, dyma fwy fyth o reswm dros greu clymblaid Llafur/PC!!! Ymddengys fod hen ddigon o dir cyffredin rhyngddynt i greu llywodraeth sefydlog, ac nid fi yw'r unig un sy'n meddwl fel hyn - roeddwn yn digwydd gwrando ar Radio Cymru yn y car pwy ddiwrnod, a phwy oedd yn digwydd rhoi ei safbwynt ar y mater ond yr Arglwydd Elystan (cyn-genedlaetholwr dadrithiedig, mi wn!), ond, y tro hwn beth bynnag, roeddwn yn cytuno ag ef 100%.
Pwy sy'n cwyno am ddiffyg cynrychiolaeth o'r gogledd, does run aelod Llafur yn y gogledd yn ffit i fod yn y llywodraeth...faint mor hir ddaru Karen Sinclair aros? Rhowch i mi Caerwyn Jones a Jane Davidson unryw ddiwrnod.