大象传媒

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Y ddinas fawr ddrwg

Vaughan Roderick | 20:06, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2007

San Steffan heddiw, trip am ddiwrnod i'n prifddinas arall. Cant a deugain o bunnau am docyn rheilffordd. Oedd y tren yr oeddwn i eisiau yn rhedeg? Nac oedd. Nid yw geiriau yn gallu cyfleu maint fy nghariad tuag at Network Rail a First Great Western!

Mae'n rhatach ac yn haws y dyddiau hyn i deithio o Gaerdydd i Prague neu Barcelona nac yw hi i Lundain ac efallai bod hynny'n rannol esbonio'r ymbellhau rhwng y sefydliadau gwleidyddol yn y ddwy ddinas.

Ta beth, cafwyd dau ddatblygiad hynod ddiddorol heddiw. Yn gyntaf, wrth gwrs cafwyd pleidlais unfrydol annisgwyl yn y cynulliad i sefydlu comisiwn i edrych ar fformiwla Barnett a phwerau trethi i'r cynulliad. Roedd comisiwn o'r fath bron yn sicr o ddigwydd o ganlyniad i ba bynnag cytundeb clymblaid sy'n enill y dydd ond mae penderfynniad unfrydol ar yr union foment hon yn arwyddocaol.

Mae'n anodd i mi gyfleu i chi cymaint oedd y dirmyg gan rai yn San Steffan wrth ymateb i'r newyddion. 鈥淏lydi nonsens...does dim byd yn mynd i ddod o hwn鈥 oedd un o'r ymatebion mwy poleit. Wrth gwrs cafwyd ymatebion tebyg gan yr un bobol pan sefydlwyd Comisiwn Richard.

Wrth i mi adael San Steffan roedd Rhodri mewn cyfarfod o'r aelodau seneddol Llafur a phan drodd Arglwydd Kinnock i fyny roedd hi'n weddol amlwg ei fod yn wynebu dipyn o job i ddarbwyllo'r aelodau o rinweddau clymblaid coch/gwyrdd. Mae rhai aelodau yno'n deisyfu arno i fynd yn 么l i drafod da'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Rhodri'n amharod i wneud hynny gan synhwyro efallai y gallai'r cam hwnnw adfywio'r enfys.

Mewn un ystyr roedd heddiw yn fy atgoffa o wleidyddiaeth oes y Tuduriaid a'r Stiwardiaid ond y tro hwn yn lle 鈥淧laid y Senedd鈥 a 鈥淧hlaid y Brenin鈥 mae gennym 鈥淧laid y Senedd鈥 a 鈥淧hlaid y Cynulliad鈥. Mae Rhodri druan yn y canol.

DIWEDDARIAD: Mae'r aelodau seneddol Llafur newydd ofyn yn swyddogol i Rhodri drafod a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd yr ASau weld y cytundeb arfaethedig rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Y refferendwm, mae'n debyg, yw asgwrn y gynnen.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:00 ar 20 Mehefin 2007, ysgrifennodd monwynsyn:

    Da ni yn mynd rownd mewn cylchoedd a bron yn ol i'r lle oeddwn wythnos ar ol yr etholiad. Dwi yn siwr fod y Libs yn cicio ei hunain rwan.

    Rhodri yw Rhodri mae yn tueddu i wneud beth mae Rhodri eisiau ei wneud er mae angen cefnogaeth Llafur yn y Senedd i wireddu'r refferendwm.

    Beth Vaughan fyddai'r amserlen debygol i gael deddfwriaeth yn awdurdodi refferendwm drwy'r senedd cyn yr etholiad cyffredinol nesaf ?Gan fod clymbleidio i weld yn fwy tebygol yn Llundain o dan Brown. Ydan ni am gael clymblaid oren yno ?Os felly ydi hi yn haws fwy derbyniol mynd i'r gwely efo'r un partner mewn dwy wlad wahanol. (ma siwr fod rhywun yn fwy tebygol o wybod beth i ddisgwyl er gall fod yn llai ddiddorol) Sylw gwleidyddol nid personol !!

    Dwi o'r farn y byddai canlyniad anffafriol yn gwneud mwy o niwed i'r Cynulliad gan y byddai yn tanseilio y sefydliad ac yn fy marn mae blaenoriaethau pwysicach.

  • 2. Am 11:58 ar 21 Mehefin 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Kinnock yno ? ....ym mha union swydd / rol ????

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.