Manion
Un ergyd olaf dros yr enfys
"Mae cael sefydlogrwydd yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos nad yw Rhodri Morgan hyd yn oed gallu sicrhâi sefydlogrwydd o fewn y Blaid Lafur." - Nick Bourne
Ateb y Cwis
Doedd neb yn gwbwl cywir er bod nifer yn iawn am y prif ateb. I'ch atgoffa hwn oedd y cwestiwn.
1.Mab Gwilym, seren Llanddewi a chyfaill Carlo.
2.Meddyg yn Walford, llofrudd yn Efrog Newydd a chwyrnwr yn Harlech.
3.Apostol amheus, tad Iago a stemar Sodor.
Rhowch y tri at ei gilydd a phwy sy 'da chi?
Dyma'r atebion
1. Dafydd ap Gwilym, Dafydd o "Little Britain" a Dafydd Iwan.
2. Tom Ellis (Dr. Cousins yn "Eastenders"), Brett Easton Ellis (awdur "American Psycho") ac Ellis Wynne (y bardd cwsg).
3. Yr Apostol Thomas, R.S Thomas a Tomos y Tanc.
Dafydd Elis Thomas
SylwadauAnfon sylw
Vaughan,
Sori i ddefnyddio y fforwm yma i ofyn cwestiwn amherthnasol, ond sut mae cael deiseb o flaen pwyllgor y cynulliad? oes na wefan/ebost neu fformat electroneg? Welai ddim i helpu ar wefan y Cynulliad.
Diolch,
Arfon.
Cwestiwn da, Arfon.
Gellir trefnu cyflwyno deiseb trwy unrhyw aelod cynulliad. Os am gyngor pellach clerc y pwyllgor yw Steve George sy'n Gymro Cymraeg ac yn foi hynod o ffein. Os oeddet ti'n cysylltu a fe dw i'n siwr y byddai fe'n helpu. Fe wnai dynnu ei sylw at y diffyg ar y wefan.
Mae unrhyw un sydd yn credu fod y ´óÏó´«Ã½ yn euog o 'dumbing down' ddim yn darllen cwis Mr Roderick, mae'n siwr..