Mwydro ar Ddydd Mawrth
Pethau rhyfedd yw iaith ac ymwybyddiaeth genedlaethol. Gall y ddau beth fod yn gyfystyr a'i gilydd fel yn achos y Boeriaid neu'n bethau cyfan gwbwl digyswllt fel yn y Swistir. Mae Cymru, am wn i, rhywle yn y canol gyda'r Gymraeg yn hanfod cenedligrwydd i rai ac yn ffactor ymylol i eraill.
Dyma i chi stori ryfedd y des i ar ei draws yn y. Mae llywodraeth Dwyrain Timor wedi mabwysiadu Portwgeeg fel iaith swyddogol er nad yw'r rhan fwyaf o bobol yn gallu ei siarad ac er mai hi oedd iaith y pŵer trefedigaethol.
Dewis o bedair iaith oedd gan y llywodraeth. Yn gyntaf rhoddwyd ystyriaeth i'r iaith frodorol, Tetum. Ym marn y llywodraeth doedd yr iaith honno ddim yn gymwys i'w defnyddio ar gyfer busnes swyddogol. Dw i'n ei chael hi'n anodd credu na ellid gwneud unrhyw iaith yn gymwys at unrhyw bwrpas trwy fathu termau ac yn y blaen ond dyna ni, dyna oedd barn y llywodraeth. Gwrthodwyd y syniad o ddefnyddio Saesneg gan fod y wlad yn ofni dod o dan fawd Awstralia ac wrth reswm, roedd defnyddio Bahaseg, iaith concwerwyr gwaedlyd Indonesia, yn gwbwl wrthun.
Roedd hynny'n gadael Portwgeeg- yr iaith a wnaed yn anghyfreithlon gan lywodraeth Jakarta nad yw'n cael ei siarad gan fawr o neb o dan ddeugain! Wrth gwrs efallai bod yr addewidion o gymorth ariannol ac addysgiadol o Bortiwgal ei hun yn gwneud gwahaniaeth!
Dyw'r bydd dim wedi talu llawer o sylw i Dde-ddwyrain Asia ers diwedd rhyfel Fietnam. Dy'n ni'n clywed fawr ddim, er enghraifft, am yr ormes waedlyd sydd wedi parhau am ddegawdau bellach yng Ngorllewin Papua. Dim ond pam y mae twristiaid yn cael eu lladd yn Bali y mae unrhyw sylw yn cael ei rhoi.
Mae hynny'n gamgymeriad. Mae 'na fwy o Fwslemiaid yn byw yn Indonesia nac mewn unrhyw wlad arall. Yn draddodiadol mae eu ffydd yn un gymedrol ond ers blynyddoedd bellach bu cenhadon eithafol y Wahabi yn ceisio estyn eu dylanwad a'u credo i'r wlad. Dyma un o'r gwledydd lle mae'r frwydr am galon ac enaid Islam yn cael ei hymladd- un o frwydrau allweddol y ganrif hon.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan, gan ein bod yng nghanol y "tymor twp" gwleidyddol, ac hefyd, am fod gennyf, trwy fy ngwaith, cysylltiadau â'r iaith gwledydd Portiwgal a Brasil, hoffwn ddechrau ymgyrch i gyrraedd consensws ar sut i sillafu enw'r iaith yn y Gymraeg.
Mae hwn yn bwnc llosg sydd wedi fy nghorddi am flynyddoedd, felly gweler islaw fy mlaenoriaethau:-
Gwlad: Portiwgal neu Portwgal
Iaith: Portiwgaleg new Portwgaleg
Ond Portwgeeg?
Puxa vida Vaughan da um tempo!
Brian, Desculpe-me !
Fe ddylwn i wedi chwilota'n fwy ofalus. Fe wnes i sgwennu Portwgeeg off top fy mhen a chan fod cysill wedi caniatau'r gair fe wnes i adael i'r peth fynd. I fod yn deg mae Google yn dangos llond dwrn o engreifftiau eraill o'r ffurf felly dw i'n cymryd ei bod yn anghyffredin yn hytrach na'n gwbwl anghywir! Ar y llaw arall mae'n gythreulig o hyll!