Plu ar wal
Does dim clem gen i pryd na pham y cychwynnodd y busnes rhyfedd o newid enwau tafarndai ond mae wedi bod yn bla ers blynyddoedd bellach gyda enwau hanesyddol yn diflannu er mwyn i rhiw 鈥渟lug & lettuce鈥 neu 鈥淲alkabout bar鈥 gymryd eu lle.
Y tafarn sydd wedi dioddef waethaf yn hyn oll yw'r un gyferbyn ac Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd . Pan agorwyd y tafarn nol yn 1731 y 鈥淭ennis Courts鈥 oedd enw'r lle ac fe barodd yr enw hwnnw tan chwedegau'r ganrif ddiwethaf. Yna gyda pherchnogion newydd yn cynnig bwydydd soffistigedig y cyfnod (鈥減rawn cocktails鈥, 鈥淏lack Forest gateaux鈥 a'u tebyg) fe newidiwyd yr enw i'r 鈥淏ucanneer鈥. Yn ddiweddarach yr 鈥淥wain Glynd诺r鈥 oedd enw'r lle, yna'r RSVP ac yna'r 鈥淥wain Glynd诺r鈥 eto.
Heddiw sylwais fod y lle newydd ei rannu'n ddau. Mae un hanner yn dwyn enw Glynd诺r o hyd a'r hanner arall yn dafarn o'r enw 鈥淵 Tair Pluen鈥 - arwydd y Tywysog Du a'n Tywysogion Normanaidd a Seisnig wrth gwrs.
Yr eironi enfawr yw bod y tafarn newydd yn amlwg wedi ei anelu at ddenu Cymry Cymraeg. Tra bod arwyddion a bwydlenni yr Owain Glynd诺r i gyd yn uniaith Saesneg mae arwyddion a bwydlenni y 鈥淭air Pluen鈥 yn uniaith Gymraeg.
Hwn yw'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghaerdydd hyd y gwn i. Mae na 鈥渄afarnau Cymraeg鈥 wedi bodoli ers degawdau wrth gwrs, naill ai rhai answyddogol fel y Conway a'r Cornwall neu rhai mwy bwriadol fel y Mochyn Du a'r Cayo ond hwn yw'r cyntaf, i mi wybod, sy'n hepgor unrhyw ddefnydd o'r Saesneg.
Pob lwc i bwy bynnag sy'n bia'r lle ond mae angen ail-feddwl ynghylch yr enw!
SylwadauAnfon sylw
Soniodd ffrind i mi am hwn neithiwr ond ddalltais i ddim mai yng Nghymraeg yn unig oedd popeth - penderfyniad dewr! Ond ie, dewis cwbwl hurt am enw os mai Cymry Cymraeg mae'n drio denu. Roeddwn arfer mynd i'r lle pan alwyd Y Gasgen pan oedd y lle'n arbennigo mewn cwrw 'go iawn'.
Cofiaf drychineb yr hen Flingwyr (Skinners' Arms) yn Aberystwyth pan newidiodd ddwylo tua chanol y 70au. Tan hynny, roedd y dafarn yn reit boblogaidd ymysg y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a'r awyrgylch yno'n gynnes a chyfeillgar. Ond yn sydyn, megis dros nos, dyma weddnewid ar y sefyllfa, a'r Tavern in the Town fel pe bai'n anelu at ben ucha'r farchnad, felly dyma'r Cymry'n canolbwyntio'n bennaf ar y Llew a'r Cwps o hynny ymlaen!
O ran tafarnau Caerdydd, mae ffasiynau fel pe baent yn mynd a dod; pan oeddwn i lawr yn ninas fy ieuenctid dros gyfnod hir yr haf diwethaf, holais ym mha dafarnau y byddwn debycaf o glywed y Gymraeg pe bawn am fynd am beint gyda'r nos, a'r Mochyn Du a enwyd wrthyf, felly bant 芒 fi i'r dafarn honno a chael siom ar yr ochr orau, gan weld nifer o hen ffrindiau a chydnabod, a chael fy nhynnu i mewn i wahanol weithgareddau! Tua'r un adeg, clywais fod yr hen New Ely wedi newid dwylo, ac wedi'i hail-enwi ers blynyddoedd, a dim s么n am unrhyw Gymry'n ei mynychu'n gyson! Roedd y New Ely hefyd yn denu Cymry Cymraeg yn y 70au, ynghyd 芒'r Half Way, y Romilly, y Robin Hood ac, yn ddiweddarach, hen dafarn y Rhymney gyferbyn 芒'r carchar - adeilad sydd bellach wedi hen ddiflannu (y dafarn, nid y carchar!)
Ydyn, mae ffasiynau'n newid, a does dim darogan pa leoedd fydd yn ffasiynol ymhen 10 mlynedd a mwy!
Dwi'n cofio'r Tennis Courts 'nol yn y chwedegau ac yn arbennig yr hen skittle alley yn y cefn.
Hen bryd i ti lusgo dy hun allan o'r dafarn, Vaughan... mae'r Blaid yn apwyntio SpAds.
Ydw i'n iawn i ddweud mai "The End" yng Nghathays ydi'r New Ely bellach? Un o'r tafarnau trendi hynny sy'n amlwg yn prynu'u dodrefn a phopeth o'r un siop Ikea 芒 rhan fwyaf o bybs y ddinas, yn anffodus. Dim math o Gymreictod yn perthyn i'r lle bellach os dw i'n meddwl am y lle cywir.
Ti'n gywir, Dylan. Mae diflaniad yr enw yn anffodus. "The New Ely Hotel" oedd yr enw llawn a chafodd yr enw gan mai hwn oedd y tarfarn cyntaf i gael ei godi gan yr "Ely Brewery" ar ol yr ail rhyfel byd. Yr enw oedd yr unig beth ar ol o'r cwmni hwnnw wnaeth cael ei lynci gan Rhymney ac yna Whitbread. Mae'r bragdy ei hun yn Nhrelai wedi diflannu er bod rhan o fragdy cyfagos Creswells bellach yn cael ei ddefnyddio fel Swyddfa Heddlu Tyllgoed.