Pwy fase'n credu?
Ydych chi'n cofio dadl fawr yr aelodau seneddol Llafur hynny oedd yn gwrthwynebu clymblaid a Phlaid Cymru? Gadewch i mi eich atgoffa. Honnodd yr aelodau hynny y byddai'r cytundeb yn golygu y byddai'r cynulliad yn gwastraffu ei amser yn trafod materion cyfansoddiadol yn hytrach na'r hyn oedd yn bwysig i bobol Cymru sef ei gwasanaethau cyhoeddus a'r economi.
Dyma ddywedodd aelod y Rhondda ;
鈥淚 think the people of Wales are far more interested in issues that affect them like the state of local schools and the services provided by their GP surgeries than the rather anoraky subject of lawmaking powers for the Assembly.鈥
Gan hoelio ei sylw yn llwyr ar y pynciau sy'n poeni pobol Cymru mae Mr Bryant wedi cyflwyno'r.
That this House notes that the announcements at all railway stations in Wales are made in Welsh first and then in English; wholly supports the policy of bilingual announcements; but believes that it would be far more sensible and far more convenient for passengers, whether regular commuters or local visitors, if announcements at each station were made first in the language used by the majority of the local population.
SylwadauAnfon sylw
Ie ond edrychwch pwy sydd yn ei gefnogi....neb llai na:
Ann Clwyd ac Alun Michael wedi arwyddo'r EDM.
Y C*chgwn!!!
Efa dyna'i gyd yw ateb y stalinists??? Gynta'n pwdu yn y Senedd, a nawr grawnwyn sur yn San Steffan? Mae'n fab dau oed yn fwy aeddfed na'r rhain!
Fel pob plentyn drwg yn trio cael sylw, mae'n well anwybyddu nhw...
Ydi Jack Brown yn cymryd bets ar bwy fydd gyntaf i gyhuddo Plaid Cymru o wthio'r Gymraeg lawr ein corn gyddfau?
Beth yw diben y 'motion' hwn. Oes unrhyw bwer cyfansoddiadol gan ddatganiad o'r fath, neu ai jest siarad gwag gan blant yn pwdu yw hi?
Oddiwrth fy mhlog :
"This time it was Alun Michael (on Radio Wales) who said his piece, using the argument that English is spoken more widely than Welsh in Wales. No matter that Welsh is the natural and native language of the nation, which happens to be Wales and not England, or that Welsh is a living vibrant language which is widely spoken nowadays and which is reputed to have the oldest living literature in Europe. From the tenor of the comments received by phone-in on Radio Wales, it would seem that the majority of people were astonished by the suggestion, and did the Welsh MPs have nothing better to do than to bring up this absurd proposal? What of the urgent and pressing needs of the Valleys, they said? What of the fact that so many live below the poverty line and what of the deprivation of the children of Wales, the real issues which should and must be confronted?
Alan in Dyfed
Onid y cynnig hwn yw'r ergyd gyntaf ers ffurfio clymblaid yn y bae yn y frwydr i sicrhau na fydd modd bwrw ymlaen gyda'r referendwm yn ystod y trydydd cynulliad?
Oni ddywedodd Chris Bryant wrth y wasg yn syth wedi'r gynhadledd arbennig na fyddai referendwm am flynyddoedd lawer?
Sut gwell i gorddi'r dyfroedd ymhlith y di-gymraeg nag i ddefnyddio'r Gymraeg fel bwgan am flynyddoedd cyn unrhyw referendwm?
Ai gwrth-ddatganolwyr yw'r rhai sydd wedi'i gefnogi'n syth byn?
A fydd hwn yn gosod y patrwm o sut y bydd llywodraeth Gordon Brown yn cynnal y garfan yn ein Cynulliad?
A fydd yn cymryd camre i sicrhau bod pawb pawb yn derbyn ymrwymiad i ddatganoli ymhellach yng Nghymru neu a welwn eto penrhyddid i rhain arwain y frwydr yn erbyn grymoedd ehangach?
Mae'n swnio i mi fel ymgais rhywun arall i gynhyrfu'r dyfroedd, efallai am nad oes ganddo ar y funud ddim byd gwell i'w wneud. Os yw'r rhai sy'n disgwyl am drenau wedi arfer 芒 chlywed y Gymraeg gyntaf ers blynyddoedd a heb gwyno dim, pam codi'r mater yn awr, beth bynnag? Mae'r digwyddiad yn fy atgoffa am ymgais rhywun nid anenwog o Sir F么n yn y 70au i danseilio polisi addysg y Wynedd oedd ohoni ar y pryd, trwy honni bod rhyw athro cynradd yn rhywle'n gwrthod gadael i blentyn fynd i'r ty bach am nad oedd wedi gofyn yn Gymraeg! Yn y pen draw, profwyd nad oedd dim gwirionedd yn yr honiad hwnnw, ond roedd y bwriad yn amlwg .....