Ymlaen a ni...
Gyda phopeth ar stop o herwydd salwch Rhodri roedd hi'n ddiwrnod i'r ardd ddoe. Maddeuwch i mi am beidio bostio ond roedd y winwydden yn bygwth goresgyn hanner Sir Forgannwg a'r pysgod aur yn dechrau codi braw ymhlith nofwyr Amity.
Ta beth mae'n ddydd Mawrth, diwrnod y cynadleddau newyddion.
10.15 Llafur; Dywedodd Jane Hutt ei bod wedi cwrdd â Rhodri neithiwr a bod y Prif Weinidog mewn hwyliau da. Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn cael ei benodi fel ei ddirprwy yfory. Ei ddyletswydd gyntaf fydd cynrychioli Cymru yn y gwasanaethau coffa yn Passchendaele yng Ngwlad Belg i nodi nawdeg mlynedd ers trydedd frwydr Ypres. Yn y frwydr waedlyd honno y bu farw Hedd Wyn ynghyd â miloedd o filwyr Cymreig eraill. Fe fydd gweddill y penodiadau yn ymddangos ymhen rhai dyddiau yn dilyn trafodaethau rhwng Ieuan a Rhodri.
11.00 Y Ceidwadwyr; Fe ddywedwyd ambell beth diddorol iawn yng nghynhadledd y Ceidwadwyr. Efallai mai'r peth mwyaf arwyddocaol oedd y cyhoeddiad y byddai'r blaid yn fodlon cymryd rhan yn y confensiwn cyfansoddiadol sydd i'w sefydlu o ganlyniad i gytundeb Cymru'n Un. Fe aeth Nick Bourne allan o'i ffordd hefyd i ganmol Ieuan Wyn Jones. Wrth ei longyfarch ar ei benodi’n ddirprwy brif weinidog disgrifiodd Ieuan fel "arweinydd da iawn i'w blaid" ac yn ddyn y gellid "ymddiried ynddo a dibynnu arno". Dyw'r enfys ddim cweit wedi diflannu eto!
12.00 Plaid Cymru; Dywedodd Ieuan fod y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn "daith ryfeddol" iddo fe'n bersonol. Ychwanegodd ei fod yn bwriadu gwneud datganiad yn siambr y cynulliad yfory yn amlinellu blaenoriaethau'r llywodraeth newydd.