大象传媒

Help / Cymorth

Archifau Awst 2007

Wil Edwards

Vaughan Roderick | 17:37, Dydd Gwener, 17 Awst 2007

Sylwadau (8)

Bu farw Wil Edwards, aelod seneddol Meirionnydd o 1966 tan Chwefror 1974. Doeddwn i ddim yn nabod Wil yn dda ond ces i groeso digon cynnes yn ei gartref yn Llangollen ar ambell i achlysur a'i gael yn ddyn ffraeth a dymunol.

Roedd Wil yn perthyn i genhedlaeth ddiddorol o wleidyddion wnaeth ddod i'r amlwg yn ystod cyfnod pan oedd hi'n ymddangos bod Llafur ar fin disodli'r Rhyddfrydwyr fel plaid naturiol yr ardaloedd Cymraeg. Cledwyn Hughes oedd eu hysbrydoliaeth a phan ymunodd Megan Lloyd George a Llafur roedd hi'n ddealladwy bod gwleidyddion Cymreig uchelgeisiol yn barnu mai'r blaid honno oedd plaid y dyfodol.

Denwyd Elystan Morgan o rengoedd Plaid Cymru, ymunodd y cyn-weriniaethwr, Gwilym Prys Davies, hefyd. Gyda ffigyrau huawdl eraill fel Ednyfed Hudson Davies, Gwynoro Jones a Denzil Davies ym mlaen y gad gellid dadlau bod Llafur wedi denu y rhan fwyaf o wleidyddion Cymraeg mwyaf disglair eu cenhedlaeth.

Plaid Cymru, wrth gwrs oedd y drwg yn y caws. O fewn misoedd i ethol Wil ym Meirionnydd cynhaliwyd is-etholiad Caerfyrddin. Gwilym Prys oedd yr ymgeisydd Llafur aflwyddiannus. Fe gipiodd Llafur y sedd honno yn 么l yn 1970 ond roedd cyfle Llafur i sicrh芒i ei gafael ar y Cymry Cymraeg wedi ei golli. Trechwyd Wil Edwards gan Dafydd Elis Thomas. Collodd Elystan i Geraint Howells ac fe gymerodd Wyn Roberts le Ednyfed fel aelod Seneddol Conwy.

Yn etholiad cyffredinol 1966 enillodd Llafur ym M么n, Arfon, Meirionnydd, Ceredigion a Chaerfyrddin. Pan gyrhaeddodd y blaid benllanw tebyg yn 1997 enillwyd dim ond un o'r seddi hynny.

Mae 'na ddigonedd o Gymry Cymraeg, wrth gwrs, sy'n pleidleisio i Lafur, ond mae 'na lawer mwy sydd ddim yn gwneud ac mae'r dyddiau lle y gallai Llafur obeithio ennill mewn ardal fel Meirionnydd wedi hen ddiflannu.

Pam? Wel dyna yw 'r cwestiwn y bydd Cymdeithas Cledwyn yn ceisio ei ateb dros y misoedd nesa baratoi adroddiad ar ddyfodol y blaid ymysg y Cymry Cymraeg. Fe fynegwyd hanfod y broblem efallai ar 么l etholiad 1974 gan un o etholwyr Meirionnydd. Fe ddywedodd hyn; 鈥減roblem Llafur yw bod 'na o leiaf un George Thomas am bob Cledwyn Hughes.鈥

O'r Silff

Vaughan Roderick | 17:50, Dydd Llun, 13 Awst 2007

Sylwadau (3)

Yn draddodiadol Mis Awst yw'r mis mwyaf tawel o safbwynt newyddion yng Nghymru ac ar 么l yr Eisteddfod mae llenwi rhaglenni yn dipyn o dasg. Unrhyw eiliad nawr fe fydd y stori flynyddol am y 鈥渨eaver fish鈥 gwenwynig yn ymddangos oddiar arfordir Sir Benfro yn dechrau hawlio sylw. Pan mae'r pysgodyn bach yna yn y penawdau mae'r arwydd bendant fod na argyfwng diffyg newyddion.

Heddiw felly dw i am gop茂o un i syniadau O bryd i gilydd mae'n rhestri'r llyfrau y mae'n ei ddarllen. Gan fy mod wedi dod o hyd i ambell i gyfrol ddifyr o ganlyniad dw i wedi penderfynnu dilyn ei eisiampl. Dw i ddim am fanylu am gan fy mod wedi addo adolygiad i dudalennau'r cyngor llyfrau ond mae na ddau lyfr Saesneg hynod ddifyr yr hoffwn eu trafod.

Y cyntaf yw 鈥淕od's Terrorists鈥 gan Charles Allen sy'n taflu goleuni cwbwl newydd ar Al Qaeda a'r Taliban. Nod yr awdur yw dangos nad rhywbeth newydd yw'r cysylltiad rhwng llwythi Pathan y 鈥淣orth West Frontier鈥 a phiwritaniaeth canol-oesol Wahabiaid Arabia. Mae'r awdur yn adrodd hanes sy'n estyn yn 么l hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyrchoedd aflwyddiannus Prydain yn erbyn yr Affganiaid. Gan ddefnyddio dogfennau swyddogol y Raj a llythyrau gan frodorion ac imperialwyr mae'n dylunio'r ffordd y daeth y Wahabiaid a'r Pathaniaid at ei gilydd i gesio Jihad yn erbyn moderniaeth a'r gorllewin. Mae Charles Allen yn dadlau'n gryf mae'r cymod hwnnw yn anad dim arall sydd wrth wraidd y derfysgaeth bresenol.

Yr ail lyfr dw i'n ail-ddarllen ar hyn o bryd yw 鈥淜ing Leopold's Ghost鈥 gan Adam Hochschild. Hanes ymerodraeth gwaedlyd Brenin y Belgiaid yn y Congo yw'r llyfr ond mae'n arbennig o ddiddorol o safbwynt Cymreig gan fod y ddau brif gymeriad yn dod o Glwyd. Mae'r darlun a gyflwynir o H.M Stanley, y gwr oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r drefedigaeth yn un hynod anffafriol. E.D Morrell o Benarl芒g, ar y llaw arall yw arwr y llyfr a mae'r hanes ynghylch y ffordd y trodd y clerc llongau i fod yn un o ddyngarwyr mwyaf ei ganrif yn un ysbrydoledig.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod y ddau lyfr yn canfod gwreiddiau rhai o ryfeloedd mwyaf gwaedlyd ein cyfnod ni yn nwfn yng nghyfnod yr ymerodraethau Ewropeaidd gan awgrymu efallai nad ydym eto wedi llwyr ddianc o gysgod y cyfnod hwnnw.

Sylwadau'r Sul

Vaughan Roderick | 19:54, Dydd Sul, 12 Awst 2007

Sylwadau (1)

Ymddiheuriad i ddechrau. Oherwydd problemau technegol roedd hi'n amhosib postio nifer o'ch sylwadau tan heno. Sori.

Dw i'n siwr eich bod wedi sylwi fy mod wedi bod yn slacio'r wythnos 'ma. Adeiladu'r 鈥減ergola鈥 oedd un rheswm ond roddwn hefyd yn teimlo ychydig allan o gysylltiad gan nad oeddwn yn mynd i'r Steddfod eleni. OCE Mae 'na wleidyddiaeth y tu hwnt i'r maes ond roeddwn yn tybio mai yn Yr Wyddgrug y byddai'r rhan fwyaf o bethau fyddai'n diddori darllenwyr y blog yma yn digwydd.

Ta beth,mae'n bryd i mi geisio dychwelyd at y gwasanaeth arferol. Dw i'n gweld y Sunday Times yn hynod ddiddorol. Gyda Llafur deg pwynt ar y blaen mae'r posibilrwydd o etholiad cynnar yn codi ei ben o ddifri.

Yn sgil yr arolygon diweddaraf mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod, o bosib, wedi bod yn anghywir mewn dau beth. (Diawl dw i'n dweud 鈥渟ori鈥 lot heddiw). Yn gyntaf roeddwn mwy neu lai wedi diystyru'r posibilrwydd o etholiad eleni gan feddwl mai Mis Mai nesaf fyddai'r dyddiad cynharaf posib. Dw i'n dechrau newid fy meddwl am ddau reswm.

Yn gyntaf, nid yn unig mae mis mel Gordon Brown yn parhau ond mae'r ffigyrau yn gwella o ddydd i ddydd. Fe fyddai gwireddi arolwg y Sunday Times, er enghraifft, yn golygu sicrh芒i mwyafrif tebyg i fwyafrifoedd 1997 a 2001. Yr ail ffactor yw'r cynnwrf yn y marchnadoedd arian. Os ydy'r trafferthion yn parhau (ac mae hynny'n os fawr) fe fydd hynny'n effeithio ar yr economi go-iawn, ond dim am rai misoedd. Mae'r pethau yma'n cymryd amser. Fe allai fod yn demtasiwn i gynnal y bleidlais cyn i'r stormydd daro.

Yr ail le dw i'n meddwl i mi wneud camgymeriad oedd yn y gyfres o erthyglau rhai wythnosau yn 么l ynghylch maes y gad yr etholiad cyffredinol. Roeddwn yn sgwennu gyda'r rhagdybiaeth y byddai Llafur yn colli rhiw faint o dir, o leiaf. Ar y pryd fe ddywedodd rhyw un (Cai Larsen dw i'n meddwl) fod hynny'n beryglus. Efallai ei fod e'n iawn.

Fel 么l-nodyn felly os oedd Llafur yn ymgyrchu'n ymosodol yn hytrach na'n amddiffynnol pa etholaethau y byddai'r blaid yn gobeithio eu cipio?

O'r seddi Ceidwadol yn sicr fe fyddai Gorllewin Clwyd yn darged a Phreseli hefyd. Fe fyddai Mynwy, fe dybiwn i, y tu hwnt i'w cyrraedd. Dw i ddim chwaeth yn rhagweld sefyllfa lle byddai Llafur yn gallu ail-gipio Canol Caerdydd na Dwyrain Caerfyrddin.

Mae hynny'n gadael yr Arfon newydd ac Aberconwy. Mewn blwyddyn dda i lafur gallai'r ddwy fod yn ymylol gyda Arfon yn fwy addawol nac Aberconwy. Fe fyddai angen cythraul o bleidlais bersonol i Beti i Lafur ennill y sedd honno, hyd yn oed os ydy'r arolygon yn gywir. Dw i wedi dweud o'r blaen, ac fe ddwedai eto, fe fyddai gan Beti well gyfle yn Arfon.

Trwbwl yn yr iard gefn

Vaughan Roderick | 17:02, Dydd Gwener, 10 Awst 2007

Sylwadau (6)

Beth sy'n digwydd pan mae Plaid Genedlaethol yn ffurfio llywodraeth gyda'i harweinydd yn Brif Weinidog? Ydych chi'n cofio'r holl genedlaetholwyr yna oedd yn darogan trychineb etholiadol pe bai Ieuan Wyn Jones yn dewis bod yn brif weinidog yn hytrach na'n ddirprwy?

Wel dyma sy'n digwydd yn yr Alban yn 么l i'r Scottish Daily Mail.

SNP; 48%
Llafur; 32%
Ceid; 8%
Dem. Rhydd; 6%

Mae'n fis mel i lywodraeth Alec Salmond, wrth reswm, ond pedwardeg wyth y cant? Ydy Gordon Brown yn mynd i fentro galw etholiad cynnar pan mae na arolygon fel na yn ei iard gefn?

Wythnos bant

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Iau, 9 Awst 2007

Sylwadau (6)

Dw i wedi bod i ffwrdd o'r cyfrifiadur am rai dyddiau- sori am hynny. Nid fy mod wedi bod yn unrhyw le egsotig- dim yn y Steddfod hyd yn oed. Ers dechrau'r flwyddyn rwyf wedi addo codi "pergola" yn yr ardd ac roedd hi'n bryd cyflawni'r addewid. Ta beth mae bod yn saer coed yn fwy o sbort na saern茂o geiriau ym Mis Awst!

Beth wnes i golli felly? Wel,fe wnaeth rhywun doeddwn i ddim yn nabod o'r Rhondda newid ei blaid ac oherwydd ein bod ni yn nyddiau'r c诺n fe wnaeth y cyfryngau (neu rhai Llundain o leiaf) m么r a mynydd o'r peth.

Fe draddododd Dafydd Wigley ddarlith hynod ddiddorol yn yr Eisteddfod yn galw ar Lafur y cynulliad i bwyso am ragor o arian o Lundain er mwyn cyflawni addewidion "Cymru'n Un". Roedd yr alwad honno yn wleidyddiaeth glyfar iawn yn fy marn i. Mae 'na duedd mewn unrhyw glymblaid i'r pleidiau unigol geisio cymryd y clod am bob llwyddiant a beio'i gilydd am bob methiant. Yr hyn mae Dafydd Wigley yn cynnig i Lafur y Bae yw sefyllfa lle y gellir beio San Steffan am y methiannau. A fydd Rhodri Morgan yn llyncu'r abwyd? Fe gawn weld.

Yr un mor ddiddorol oedd sylwadau ar "" gan yr aelod seneddol Ceidwadol Mark Field. Wrth drafod dyfodol cyfansoddiadol y DU dywedodd hyn

"I would prefer to see the creation of a completely new federal parliament. Four, full, national parliaments in England, Scotland, Wales and Northern Ireland with most of the existing powers of the House of Commons and over them a federal United Kingdom parliament, which would debate defence and foreign affairs, make treaties and administer a cohesion fund for the poorer parts of the UK."

Mae hynny'n mynd llawer ymhellach na pholisi swyddogol ei blaid, wrth gwrs, ac mae'r fath o seneddau cenedlaethol y mae Mr Field yn awgrymu yn llawer mwy pwerus na senedd bresennol Caeredin. Mewn gwirionedd o dan y fath o drefn y mae Mr Field yn awgrymu fe fyddai'r pwerau a fyddai ar 么l ar lefel y DU yn debycach i rai'r Undeb Ewropeaidd neu NATO nac i bwerau cenedl-wladwriaeth.

Dw i wedi dadlau ers tro byd mae'r "cwestiwn Seisnig" fyddai'n gwthio'r broses ddatganoli ymlaen yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae sylwadau Mr. Field yn cadarnhau hynny.

Bedydd T芒n

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Sadwrn, 4 Awst 2007

Sylwadau (2)

Mae bod ar feinciau'r gwrthbleidiau yn gallu bod yn brofiad digon rwystredig ond mae na bris i dalu am fod mewn llywodraeth hefyd. Mae Elin Jones yn gwybod hynny nawr wrth iddi orfod rhoi'r gorau i'w gwyliau yn Seland Newydd a dychwelyd i Gymru i ddelio a'r posibilrwydd o achosion o glwy'r traed a gennau. Gobeithio'n wir na ddaw'r clwyf i Gymru- fe fyddai hynny'n fedydd t芒n go iawn.

Yn y cyfamser mae Ieuan yn gorfod delio a'r llu o gwynion am gyhyd y caewyd yr M4 yn sgil y ddamwain yng Nghasnewydd. O weinidogion Plaid Cymru dim ond Rhodri Glyn fydd yn weddol fodlon ei fyd. Mae'n debyg mai fe fydd y gweinidog cyntaf i allu ymweld a'r Eisteddfod gan wybod na fydd Dafydd Morgan Lewis neu Ffred Ffransis yn ei ddilyn o gwmpas y maes gan waeddi sloganau!

Gwenu at y Gwyrddion

Vaughan Roderick | 12:15, Dydd Gwener, 3 Awst 2007

Sylwadau (4)

Pan oeddwn yn grwt yn fy arddegau roeddwn yn hela cryn dipyn o amser yng Nghwm Gwaun. Roedd y Dyffryn Arms (Tafarn Bessie) yn rhan o'r atyniad ond roedd presenoldeb nifer o fewnfudwyr diddorol a difyr yn reswm arall dros fynd i'r ardal. I rai o bobol y cylch 鈥渂lydi hippies鈥 oedd y newydd-ddyfodiaid ond mewn gwirionedd roeddynt y llawer mwy na hynny.

Yn Fachongle Isaf roedd y diweddar John Seymour yn ffermio. John oedd sylfaenydd y mudiad hunan gynhaliaeth ac mae ei lyfr 鈥" o hyd yn Feibl i'r bobol rhamantus hynny sy'n prynu tyddyn yn y gobaith o fyw oddi ar y tir. Roedd hi'n ddigon hawdd gwneud sbort o syniadau John. Yn wir fe wnaeth y 大象传媒 hynny hyd syrffed yn y gyfres "The Good Life". Ond y dyddiau 'ma gyda'r holl s么n am bwysigrwydd bwyta bwyd iachus lleol efallai ei bod hi'n bryd i'r rhai oedd yn ei ddilorni ail feddwl.

Nid nepell i ffwrdd, lle mae Canolfan yr Urdd, Pentre Ifan heddiw roedd Satish Kumar yn cyhoeddi ei gylchgrawn . Satish oedd y person cyntaf erioed i gerdded o gwmpas y byd. Fe wnaeth hynny fel protest dros heddwch gan gerdded ar draws ffiniau'r rhyfel oer. Mae Satish wedi treulio ei fywyd yn ceisio llunio sylfaen athronyddol i'r mudiad amgylcheddol. Roedd Resurgence yn lwyfan pwysig i yr economegydd o Awstria oedd yn ysbrydoliaeth i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd fel ei gilydd.

Gyda meddylwyr fel John a Saitish yn ymgartrefu yma yn y saithdegau a phrosiectau fel y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dewis Cymru fel cartref gellid dadlau mai fan hyn oedd man geni gwleidyddiaeth gwyrdd ym Mhrydain. Os felly mae'r babi wedi tyfu i fod yn grwt digon gwan a salw. Tra bod y Blaid Werdd wedi cael dipyn o lwyddiant yn Lloegr a'r Alban plaid ddigon di-nod yw hi yng Nghymru. Dim ond yng Ngheredigion ac Abertawe y mae hi wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau gan ymladd etholiadau yn gyson, er yn aflwyddiannus.

Mewn erthygl yn "" mae Adam Price yn awgrymu y dylai Plaid Cymru ystyried cynghreirio gyda'r Gwyrddion yn yr etholiadau Ewropeaidd nesaf. Mae'n dadlau y gallai cynghrair o'r fath drechu Llafur yn yr etholiadau gan ennill dwy allan o'r pedair sedd Gymreig yn senedd Ewrop.

Mae'n wir bod cyfanswm pleidleisiau'r ddwy blaid yn fwy na'r cyfanswm Llafur yn etholiad Ewropeaidd 1999 ond doedd hynny ddim yn agos at fod yn wir yn 2004 ac er bod cynghrair rhwng y ddwy blaid wedi llwyddo yng Ngheredigion yn 1992 doedd pleidleisiau'r pleidiau efo'i gilydd ddim yn ddigon i drechu Screaming Lord Sutch yn is-etholiad Mynwy yn 1991.

Mae na broblemau eraill da'r syniad hefyd. Tra bod y Blaid Werdd yn yr Alban yn blaid annibynnol sy'n ffafrio annibyniaeth mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn rhan o blaid Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu'r syniad o annibyniaeth. Mae na wahaniaethau sylfaenol eraill hefyd. Mae'r Blaid Werdd yn gwrthwynebu'r Undeb Ewropeaidd ar ei ffurf bresenol ac yn dymuno gweld diwedd ar dyfiant economaidd- safiadau sy'n gwbwl groes i safbwyntiau Plaid Cymru.

Os mai bwriad awgrym Adam Price ydy sicrhai aelod ychwanegol i gr诺p y Gwyrddion/EFA (y gr诺p yn Strasbourg y mae'r ddwy blaid yn aelodau ohono) yna digon teg. Ond os taw'r prif nod yw sicrh芒i bod Llafur yn colli ei hail sedd yng Nghymru mae na ffordd arall fyddai bron yn sicr o wneud hynny. Fe fyddai cynghrair rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol bron yn saff o ennill dwy allan o'r pedair sedd Gymreig. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd, wrth gwrs. Ar 么l profiadau'r misoedd diwethaf go brin y bydd unrhyw un am fentro cyrraedd cytundeb a phlaid y canol yn y dyfodol agos.

Dathlu yn Derry

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 2 Awst 2007

Sylwadau (8)

Mae na rywbeth swreal weithiau yn perthyn i wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon. Yn sicr roedd gohebu o na'n gallu bod yn brofiad rhyfedd iawn ar adegau.

Ar un achlysur dw i'n cofio gohebu gyda Kate Adie yn Dundalk, cadarnle'r IRA ar y ffin rhwng y De a'r Gogledd. Roedd dirprwy arweinydd y DUP Peter Robinson a chriw o'i gefnogwyr yn ymddangos gerbron llys ar 么l 鈥済oresgyn鈥 pentref yn y weriniaeth fel stynt gwleidyddol. Dw i ddim yn cofio canlyniad yr achos ond ar ei ddiwedd bu'n rhaid i'r unoliaethwyr redeg o'r llys i lawr y stryd fawr ac i fewn i'r afon wrth i dorf fawr eu bygwth a thaflu cerrig a bomiau petrol tuag atynt.

Tra'n ffilmio hyn oll daeth boi enfawr, bygythiol ei olwg, tuag atom gyda briscen mewn un llaw a gwn yn y llall. Syllodd ar Kate am gyfnod maith cyn gofyn yn swrth 鈥渁re you Kate Adie?鈥. Nawr dwt fach yw Kate ond safodd ei thir am ychydig eiliadau cyn cadarnhau ei henw. Torrodd gwen enfawr ar wyneb y boi 鈥渕y wife loves you... can you autograph my brick please?鈥

Roeddwn yn meddwl na fyddai'r un stori o'r dalaith yn fy synnu ar 么l honna nes i mi ddarllen . Mae'r murluniau yn ardaloedd dosbarth gwaith y dalaith yn dipyn o ryfeddod. Mae dawn ac ymroddiad yr artistiaid yn amlwg beth bynnag eu cymehellion. Mae na gasgliad llawn ohnyn nhw yn .

Yheb os yw un o'r rhai symlaf. Ar dalcen t欧 teras islaw muriau Derry y peintiwd y gweirau 鈥淵ou are now entering Free Derry鈥. Mae'r wal o hyd yna, er bod y t欧 y tu 么l iddi wedi hen ddiflannu Ond am wythnos mae 'na rhywbeth yn wahanol. Yn lle'r cefndir gwyn arferol peintiwyd y mur yn binc llachar. Gwnaethpwyd hynny i nodi cynnal y 鈥淔ree 2b Me festival鈥 sef gw欧l i bobol hoyw y dalaith.

Nawr arhoswch am eiliad. Hollt crefyddol oedd wrth wraidd y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon- hollt rhwng Protestaniaid ffwndamentalaidd a Chatholigion. Hyd i mi wybod dyw'r Eglwys Gatholig na'r Eglwysi Protestannaidd ddim yn gyfeillion penna i'r gymuned hoyw. Yn sicr dyw ddim yn ryddfrydol ei agwedd. Mae eraill wedi synhwyro rhywbeth pwysig. Wrth agor yr w欧l fe ddywedodd Martyn McGuiness hyn;

"Free Derry wall has been used since its inception by all sorts of community groups and all sorts of causes. That is what the wall is for and why should the gay community be denied that?"

Fe wnai wrthsefyll y temtasiwn i ddyfynnu geiriau Pastor Niemoeller yn fan hyn ond mae'r pwynt yn un syml. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr moesol i frwydro dros hawliau dynol un garfan o bobol tra'n eu gwrthod i garfan arall. Yn anffodus mae'n rhan o'r natur dynol i wneud hynny. Meddyliwch am y gwleidyddion hynny sy'n uchel eu cloch dros y Cwrdiaid neu'r Palistinaid tra' n gwatwar ymgyrchwyr iaith, neu'r Cymry Cymraeg hynny sy'n mynnu eu hawliau eu hun tra'n diawlio eraill. Mae 'na wers i'w dysgu yn Derry.


Lembit Whittington

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Sylwadau (8)

Mae'r stori yma'n ymddangos yn rhu aml i'w hanwybyddu. Mae Lembit wedi gwadu'r peth droeon ond dyma sy gan i ddweud;

"The Liberal Democrat leader's chief of staff has said that Lembit Opik would "make a much better mayor than Boris Johnson or Ken Livingstone". Senior MP Ed Davey made the statement in an ePolitix.com podcast..."聽

Nid am y tro cyntaf mae stori yngl欧n ac aelod Maldwyn yn fy nrysu'n llwyr. Mae gan Lembit gysylltiadau cryf a sawl ardal, Cymru, Gogledd Iwerddon, Newcastle ac Estonia i enwi pedair- ond hyd y gwn i dyw e ddim yn hawlio bod yn Lundeiniwr.

Ond nid dyna yw'r brif broblem wrth ystyried yr awgrym. Y cwestiwn sy gen i yw hyn- pam y byddai Lembit yn dewis cyflawni hunanladdiad gwleidyddol? Hyd yn oed o gofio bod ail-ddewisiadau yn cyfri wrth ethol y Maer Llundain go brin y byddai Lembit yn ennill a thrwy sefyll fe fyddai'n pechu mwy o bobol Maldwyn lle mae ei afael ar y sedd eisoes yn sigledig.

Mae na gwestiwn arall hefyd. Pam y mae'r pleidiau i gyd yn meddwl bod angen 鈥渃ymeriadau鈥 wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon. Fe fyddai ras rhwng Ken Livingstone Boris Johnstone a Lembit yn lot o sbri os mai dewis panelwyr i sioe deledu oedd y bwriad. Ond mae Maer Llundain yn ddyn pwerus yn gyfrifol am wariant blynyddol o biliynau o bunnau. Onid ddyled dewis ymgeiswyr ar sail polisi a sylwedd yn hytrach na nifer eu hymddangosiadau ar dudalennau'r Daily Star?

LINCS

Vaughan Roderick | 12:49, Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Sylwadau (1)

Yn anffodus rhywbeth a ddyfeisiwyd ar 么l fy nyddiau i oedd y syniad o 鈥済ap year鈥. Dw i'n eiddigeddus. Dw i ddim yn nabod Dafydd Ll欧r Pearson o Aberystwyth ond mae e wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn teithio'r byd gan ddysgu yn Japan cyn symud ymlaen i Awstralia, Seland Newydd a'r Wladfa. Mae ganddo gasgliad gwych o luniau ar yn enwedig rhai Patagonia. Mae e hefyd wedi cadw .

Dw i wedi lincio droeon i'r safle lle mae'n bosib darllen popeth bron sy'n cael ei bostio yn y blogfyd Cymraeg. Yn ddiweddar sefydlwydsafle sy'n gwneud yr un peth ond yn cynnwys blogs gwleidyddol Saesneg eu hiaith. Mae'n hynod ddefnyddiol. Gyda llaw gwnes i ddim crybwyll hyn o'r blaen rhag ofn i bobol feddwl fy mod i'n canfasio ond mae enillwyr yn cael eu dewis ar hyn o bryd.

Y Frwydr Fawr Nesaf- Gwent

Vaughan Roderick | 12:14, Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Sylwadau (0)

Mae'n bryd i ni ddiweddu'n taith trwy'r etholaethau fydd yn cyfri yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf trwy edrych ar seddi'r De-ddwyrain. Ar un adeg yr unig sedd ddiddorol yn y rhan yma o Gymru oedd Mynwy ac, i fod yn deg, roedd yr amryw ornestau rhwng Huw Edwards a Roger Evans yn hynod ddifyr. Mae Roger wedi diflannu bellach a dyw Huw ddim yn bwriadu ymgeisio ym Mynwy eto. Mae'n annhebyg felly y bydd David Davies yn colli llawer o gwsg wrth edrych tua'r dyfodol.

Am gyfnod byr ar noson cyfri etholiad y cynulliad roedd na sibrydion ar led bod Llafur wedi colli'r ddwy sedd yng Nghasnewydd, y sedd orllewinol i'r Ceidwadwyr a'r sedd ddwyreiniol i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd y gwrthbleidiau yn orobeithiol ond roedd canlyniadau Llafur yn y ddinas yn siomedig. Dw i ddim yn sicr pa mor berthnasol yw hynny i'r etholiad seneddol.

Mae 'na ddau beth sydd angen yn cofio fan hyn. Mae'r nifer sy'n bwrw eu pleidlais mewn etholiad Cymreig yn sylweddol is na'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau San Steffan - yn enwedig mewn etholaethau dinesig. Mae'n weddol amlwg mai cefnogwyr Llafur yn bennaf yw'r bobol sy'n cadw draw o'r gorsafoedd pleidleisio. Yn ail mewn llefydd fel Caerdydd a Chasnewydd mae'n ymddangos bod patrymau pleidleisio'r cynulliad yn debyg iawn i batrwm pleidleisio etholiadau cyngor. Ar draws Caerdydd, fel enghraifft, roedd safleoedd y pleidiau yn y gwahanol etholaethau yn adlewyrchiad perffaith bron o'u cryfder mewn etholiadau lleol. Mae patrwm San Steffan yn wahanol iawn.

Dw i yn meddwl bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol siawns go dda o ennill sedd Dwyrain Casnewydd ym Mae Caerdydd y tro nesaf ond dw i'n amau bod sedd San Steffan tu hwnt i'w cyrraedd- y tro nesaf, o leiaf.

Fe edrychwn ni'n olaf ar sedd fwyaf rhyfedd Cymru, Blaenau Gwent. Ar 么l gwario 拢113,000 ar geisio ennill y sedd yn yr is-etholiad yn 2006- a cholli beth yw gobeithion Llafur y tro hwn? Fe fydd llawer yn dibynnu ar berfformiad Dai Davies fel aelod seneddol lleol. Mae ganddo un fantais (anheg yn 么l Llafur). Yn ystod y blynyddoedd nesaf fe fydd nifer o gynlluniau hir-dymor i wella economi ac ansawdd bywyd Blaenau Gwent yn dechrau dwyn ffrwyth. Fe fydd safle'r gwaith dur yn cael ei weddnewid, y rheilffordd i Gaerdydd yn ail-agor ac mae Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cael ei gwella. Mae na hyd yn oed s么n am sefydlu 鈥淧rifysgol y Cymoedd鈥 yno. Heb os fe fydd Dai a Trish yn ceisio cymryd y clod. Mae'r neges yn un syml - mae aelodau annibynnol yn delifro. Mae'n annheg efallai, ond yn effeithiol.

A fydd Owen Smith yn sefyll eto? Dw i ddim yn gwybod. Dw i'n nabod Owen yn dda o'i gyfnod yn y 大象传媒 a dyw e ddim yn ddyn sy'n hoff o golli. Yn reddfol fe fyddai'n dymuno sefyll eto ond y peth call i wneud fyddai disgwyl i weld beth yw cynlluniau ei fentor gwleidyddol Paul Murphy. Gallai Torfaen gynnig hafan fwy diogel iddo.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.