Brown a British Jones
Un o gymeriadau mwyaf rhyfedd gwleidyddiaeth Cymru oedd Brisbane Jones. Yn 么l yn 1970 roedd Mr Jones, pensiynwr Cymraeg ei iaith o ardal Pontypridd wedi ei gythruddo gan ddiffyg gwladgarwch Prydeinig yng Nghymru. Y diffyg hwnnw credai oedd wedi arwain at ethol Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin.
Penderfynodd yr hen soldiwr fynd ar un cyrch olaf. Newidiodd ei enw i "British Jones" a cheisiodd sefydlu plaid i frwydro dros Brydeindod yng Nghymru. Daeth fawr ddim o'r syniad er y cafodd Mr Jones gryn dipyn o gyhoeddusrwydd am gyfnod.
Roeddwn yn meddwl am British Jones heddiw wrth wrando ar araith Gordon Brown. Defnyddiodd y Prif Weinidog y term "British" dros ddeg ar hugain o weithiau yn ei bregeth a dw i'n sicr mai nid cyd-ddigwyddiad oedd hynny. Mae cenedligrwydd Prydain a gwladgarwch Prydeinig yn themau y mae'n dychwelyd atynt yn gyson a sy'n agos at galon ei weledigaeth gwleidyddol.
Mae hynny wrth reswm yn deillio i raddau helaeth o'r ffaith bod Gordon Brown yn wleidydd Albanaidd. Yn wahanol i wleidyddion o Loegr efallai mae'r Prif Weinidog yn deall yn iawn mai rhywbeth goddrychol yw cenedligrwydd, rhywbeth sy'n rhaid ei leisio a'i amddiffyn. Ar un lefel felly rhan o frwydr am galonnau a meddyliau pobol yr Alban yw'r holl s么n yma am Brydeindod, ymdrech i ymateb i ap锚l emosiynol cenedlaetholdeb Albanaidd trwy feithrin balchder mewn Prydeindod.
Ond nid yr Alban yw'r unig reswm dros bwysleisio Prydeindod. Er nad yw Llafur yn derbyn disgrifiad David Cameron o'r 鈥渂roken society鈥 does dim dwy waith bod 'na bolareiddio cynyddol yn rhai o ddinasoedd mawrion Lloegr gyda phobol o wahanol grefyddau a chefndiroedd yn cadw oddi fewn eu cylchoedd eu hun. Gallai balchder Prydeinig ddwyn y cymunedau hynny at ei gilydd ym marn Mr Brown. Dyna pam mae'r Prif Weinidog am weld baner yr undeb yn cael ei hedfan ar adeiladau cyhoeddus a Phrydeindod yn cael ei dysgu yn yr ysgolion.
Yr eironi yw bod gallu'r llywodraeth i feithrin ymdeimlad o Brydeindod yn gyfyng y tu fas i Loegr. Does ond rhaid mynd i unrhyw ysgol gynradd yng Nghymru i weld bod balchder cenedlaethol yn cael ei ddysgu i blant ond balchder yng Nghymru yw hwnnw. Does dim byd y gall Gordon Brown wneud i newid hynny.
SylwadauAnfon sylw
Cenedlaetholwr Brydeinig yw Brown, British Nationalist. Pryd wyt ti Vaughan a'r newyddiadurwr eraill am gyfeiriad ato fel hyn yn yr modd a byddwch chi'n cyfeirio at IWJ neu Alex Salmond fel cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd?
Fel rwyt yn dweud, mae'n dilyn agenda a strategaeth genedlaetholgar y mae wedi ei weld a'i ddysgu gan yr SNP.
Nid sen yw ei alw'n genedlaetholwr Brydeinig, dim ond disgrifiad o'r ffenomenon wleidyddol mae'n ei hyrwyddo.
Dwyt ti'm ofn hacs y Blaid Lafur wyt ti Vaughan? Neu a wyt ti'n ceisio awgrymu fod rhywbeth amneus am syniadau cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd tra fod Prydeindod yn 'normal' ac uwchben hynny?
Cenedlaetholwr Brydeinig yw Brown, British Nationalist. Pryd wyt ti Vaughan a'r newyddiadurwr eraill am gyfeiriad ato fel hyn yn yr modd a byddwch chi'n cyfeirio at IWJ neu Alex Salmond fel cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd?
Fel rwyt yn dweud, mae'n dilyn agenda a strategaeth genedlaetholgar y mae wedi ei weld a'i ddysgu gan yr SNP.
Nid sen yw ei alw'n genedlaetholwr Brydeinig, dim ond disgrifiad o'r ffenomenon wleidyddol mae'n ei hyrwyddo.
Dwyt ti'm ofn hacs y Blaid Lafur wyt ti Vaughan? Neu a wyt ti'n ceisio awgrymu fod rhywbeth amneus am syniadau cenedlaetholwyr Cymreig ac Albanaidd tra fod Prydeindod yn 'normal' ac uwchben hynny?
Sori am y dyblygu!
D.enw, Dw i'n cytuno a phob gair. Dyna'r union bwynt yr oeddwn yn ceisio gwneud.
Efallai mai'r prif broblem sy'n wynebu 'cenedlaetholwyr' Prydeinig ydi'r ffaith bod y cysyniad o 'Brydeindon' yn colli ei ystyr yn Lloegr, heb son am Gymru a'r Alban.
Y rheswm am hyn yw oherwydd ei fod wedi colli ei gysactrwydd. Yn amlach na pheidio term sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl a'u cefndir yn y gymanwlad newydd yw 'British'. 'English' ydi'r term a ddefnyddir gan Saeson brodorol i'w disgrifio nhw eu hunain.
Vaughan, wyt ti'n gyfarwydd a llyfr bach R. Tudur Jones, 'The Desire of Nations' (1974), ei unig lyfr penodol ar athroniaeth wleidyddol? Er mai llyfr sy'n gweithio fel apologia i Genedlaetholdeb Gymreig ydyw mae rhan helaeth onid y rhan fwyaf o'r llyfr yn trafod Cenedlaetholdeb Brydeinig - hynny yw yr hyn daw'r Cymru ar ei draws. Mae Dr. Tudur yn dadlau fod Cenedlaetholdeb fel bodau eich traed - mae gan bawb rai ond dim ond pan fo rhywun yn sathru arnyn nhw y dowch chi i sylwi fod rhai gyda chi!
Cenedlaetholdeb Brydeinig yw'r cenedlaetholdeb mwyaf rhyfygus a gorthrymol trwy'r Byd - ac yn wleidyddol a diwylliannol mae cyn gryfed heddiw ag erioed. Mae academyddion dros y glob wedi bod yn trafod 'post-colonialism' ers tro nawr, ond mae e dal i ddigwydd yn ddyddiol fan yma - Cymru oedd y coloni cynta ac maen debyg mae ni fydd yr olaf.
Oherwydd y Prydeinrwydd yma sydd yn hanfod y Blaid Lafur (nid plaid y gweithwyr mo llafur nac a fu llafur, ond plaid ganoledig brydeinig farcsaidd i ddechrau a bellach gyfalafol brydeinig) yr oeddwn ni'n gwrthwynebu'r glymblaid i ddechrau. Roeddw ni wedi dechrau dod i arfer a'r syniad ond pan fod Rhodri Morgan a Peter Hain yn rhyddhau datganiadau sy'n dweud eu bod nhw'n synnu fod Pleidwyr dal am weld Annibyniaeth 'nawr eu bod nhw mewn pwer' mae'n gwneud i ddyn dagu ar ei gorn fflecs.
Rhys, dw i'n cofio gwrando ar Dr. Tudur yn darlithio ar y pwnc yng nghylch trafod Bala-Bangor! Mae llyfr Gwynfor Evans "Diwedd Prydeindod" hefyd yn ddiddorol yn y cyswllt yma.
O safbwynt cenedlaetholdeb Prydeinig fe fyddai Gordon Brown yn dadlau dw i'n sicr mai gwladgarwch yn seiliedig ar bethau fel safiad Prydain yn yr ail ryfel byd a sefydlu'r wladwriaeth les sydd ganddo mewn golwg nid Imeperialeth hen ffasiwn.
Mae Rhys Llwyd wedi mynd ychydig yn OTT yn ei ail baragraff. Byddai trigolion Tibet, lleiafrifoedd Rwsia, siaradwyr Llydaweg a ieithoedd llai Ffrainc, rhai o frodorion brodorol de America i enwi dim ond rhai, yn tybied fod byw dan 'orthrwm' Prydain yng Nghymru yn braf iawn.
Gorthrwm rhyfedd iawn sy'n rhoi i ni S4C, Cynulliad, deddf iaith, swyddi sector gyhoeddus yn mynnu'r Gymraeg ayb. Hyd yn oed yn hanesyddol mae honiad Rhys yn hurt - o ddarllen gwaith Roger Casement, y cenedlaetholwr gwyddelig, y mae'n werth nodi fod Gwlad Belg yn y Congo wedi lladd mwy o frodorion na'r hyn a wnaeth Prydain trwy'r ymerodraeth.
Pe na byddai Rhys wedi ei ddallu gan ei genedlaetholdeb efallai na fyddai yn gwneud datganiadau mor ddi-sail.
Ac i orffen, onid dadl hurt yn hanesyddol fyddai disgrifio Cymru fel 'colony' cyntaf Lloegr? Onid dymuniad dosbarth rheolaethol Cymru oedd deddf uno 1536?
Tydi cenedlaetholdeb Prydeinig ddim yn berffaith ond mae dtaganiadau eithafol Rhys yn dweud mwy am ei ddiffyg meddwl agored ef na dim arall.
Vaughan,
Oes na rywbeth mawr wedi digwydd o fewn y Blaid Lafur Gymreig...a dwi wedi methu y digwyddiad? O'n i'n meddwl fod yna ddwy garfan lafurol yng Nghymru, sef cenedlaetholwyr ar unoliaethwyr. Rwan mae ganddo ni Eluned Morgan a Carwyn Jones yn siarad oddi ar yr un sgript a Touhig/Murphy a Kinnock. Ydy'r dynamics cyfansoddiadol wedi newid o fewn y blaid...eglurhad plis!
Oce oce, digon teg Guto, rhaid mi gyfaddef fod argyhoeddi wedi goddiweddyd goddrychedd academaidd yn y sylwad diwethaf. Ond y pwynt oeddwn ni'n trio gneud oedd yng nghyd destun Cymru a'r Cymry nid yw bod dan law coloneiddio yn hen-hanes fel yn achos rhai o wledydd Affrica ond ei fod yn parhau er, diolch i Dduw, nid trwy drais.
Mae'r pschyi imperialaidd yn bodoli gan y Saeson o hyd oherwydd ei fod yn rhan anatod o'i hunaniaeth nhw bod nhw actully gyda trefedigaethau neu beidio.
Parthed sylw fy nghymydog Guto Bebb ynglyn a chyfraniad Rhys Llwyd.
Mae Guto鈥檔 dyfynu Casement 鈥 a oedd yn ei ddydd yn ymgyrchydd brwd yn erbyn gwahanol erchyllderau ym Mheriw a鈥檙 Congo 鈥 er mwyn amddiffyn yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae sylwadau Casement yn cael eu dyfynu鈥檔 aml gan bobl sy鈥檔 lled edmygu Ymerodraeth, neu sydd o leiaf yn ei hystyried yn ymarferiad cymharol ddi niwed.
Awgrymaf bod y sawl sy鈥檔 coleddu鈥檙 agwedd yma at yr Ymerodraeth Brydeinig yn cael cip ar "Late Victorian Holocausts", Mark Davies. 鈥楻wan mae Davies yn dod o gyfeiriad gwleidyddol arbennig, ac mae pob amser yn beth peryglys barnu鈥檙 gorffennol wrth safonau cyfoes 鈥 ond mae鈥檙 llyfr yn ddigon a chodi gwallt pen dyn.
Byrdwn y llyfr ydi bod llawer o鈥檙 newynau erchyll a laddodd ddegau o filiynau o bobl yn negawdau olaf Oes Victoria yn ganlyniad uniongyrchol i bolisi llywodraeth Prydain, ac i ddeddfau senedd Prydain 鈥 megis yr "Anti-Charitable Contributions Act 1877".
G Bebb,
Tybed a newidiodd Casmement ei farn am yr ymerodraeth Brydeining.....ar ol i'w wddwg gael ei ymestyn rhai modfeddu......?