Cyfri Ceiniogau
Dyn diwyd yw Mark Hoban, Aelod Seneddol Fareham. Yn ddiweddar gofynnodd tri ar ddeg o gwestiynau ysgrifenedig ynglŷn â gwariant Swyddfa Cymru. O ganlyniad rydym yn gwybod, er enghraifft, bod yr adran wedi gwario deugain punt ar flodau a dwy fil a hanner o bunnau ar dacsis yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Gwariwyd yr un geiniog ar daliadau diswyddo na thribiwnlysoedd diwydiannol.
Ar gyfartaledd mae ateb cwestiwn ysgrifenedig yn costio cant a deugain o bunnau. Mae rhiw bymtheg can punt o arian cyhoeddus wedi ei wario ar ateb cwestiynau Mr Hoban felly.
Cewch chi farnu p’un ai Swyddfa Cymru ai Mr Hoban sy'n wastraffus.
SylwadauAnfon sylw
Cefnogi Mr Hoban yn llwyr mae o'n cario allan ei ddyletswydd fel AS i wneud y llywodraeth yn agored a chyfrifol. Mae yna ffordd hawdd i stopio unrhyw wastraff yn y Swyddfa Gymreig a hyny yw ei dileu hi'n gyfan gwbwl a rhoi hawliau deddfwriaethol llawn i Senedd Cymru.
Mae yna beryg mawr mewn beirniadu Mr Hoban, sef y gall hyny gael ei weld fel beirniadaeth o'n hawliau ni i gyd i gael gwybodaeth o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth...dydy'r llywodraeth ddim isio ryw lawer o esgus i wanhau y ddeddfwriaeth yma.