Dwylo dros y môr
Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia wedi ei groniclo hyd syrffed ond mae 'na ran arall o'r byd sy'n cyfri Cymru fel ei ffrind penna -ei hunig ffrind efallai. Mae ei gwleidyddion yn ymwelwyr cyson a Bae Caerdydd ac ar hyn o bryd mae Alun Michael AS yn y wlad honno yn rhoi cyngor i'w llywodraeth.
Fel y rhan fwyaf o bobol mae fy ngwybodaeth o Somalia yn gyfyngedig i'r hyn dwi'n gweld ar deledu a'r hyn dw i'n cofio o "Black Hawk Down" ond mae artaith y wlad honno, lle na fu llywodraeth weithredol am bron i ugain mlynedd, yn boen dyddiol i filoedd o drigolion Caerdydd.
Nol yn oes Fictoria pan oedd glo'r de'n pweru llyngesau'r byd dynion o British Somaliland oedd yn bwydo ffwrneisi'r llongau. Rhain, meddid, oedd yr unig bobol oedd yn gallu dioddef y gwres a'r stŵr yng nghrombiliau’r llynges. Mae disgynyddion y dynion caled hynny yn byw yng Nghaerdydd hyd heddiw ac wedi gorfod gwylio eu mamwlad yn goddef anarchiaeth.
Ond dyw hynny ddim cweit yn wir. Tra bod y rhan fwyaf o Somalia yn gwaedu mae'r rhan ohoni oedd yn drefedigaeth Brydeinig, y rhan lle mae gwreiddiau Somaliaid Cymru, yn heddychlon gyda'i llywodraeth, senedd a'i system gyfreithiol ei hun.
Pymtheg mlynedd yn ôl cyhoeddodd Somaliland ei hannibyniaeth o weddill Somalia ac ers hynny mae ei thrigolion wedi llwyddo i osgoi'r erchyllterau sy'n digwydd yng ngweddill y wladwriaeth fethedig.
Y broblem sy gan lywodraeth Somaliland yw nad oes 'na'r un llywodraeth arall na'r un corff rhyngwladol yn cydnabod ei hawdurdod. Neb, hynny yw, ar wahân i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd llefarydd senedd Somaliland yn westai swyddogol yn agoriad adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Gweithred symbolaidd oedd honno, wrth gwrs, ond roedd hi'n weithred o bwys ac mae gwaith cyson, tawel gwleidyddion fel Alun Michael a Lorraine Barrett wedi bod yn gysur cyson i wlad fach anghofiedig sy'n haeddu gwell. Mae Alun, yn arbennig, wedi gweithio'n ddyfal fel cadeirydd grwp aml-bleidiol yn San Steffan i hyrwyddo achos y wlad.
Y gobaith yn y tymor hir yw y bydd hi'n bosib meithrin yr un fath o berthynas rhwng Somaliland a Chymru a'r un sy'n bodoli a Lesotho er y bydd hi'n anodd cyflawni hynny yn wyneb statws ansicr y wlad. Serch hynny mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim. Dw i ddim yn dweud hyn yn aml ond yn yr achos yma mae'n gwleidyddion yn haeddu clod.
SylwadauAnfon sylw
Roedd na raglen ddifyr ar Somaliland cwpl o flynyddoedd yn ol ar ´óÏó´«Ã½3 yn y gyfres Holidays in Places that Don't Exist. Roedd Taiwan yn un o'r gwledydd eraill yn y gyfres. Os cofiaf yn iawn roedd na ferch o dras Somali o Gaerdydd oedd yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Somaliland ar y rhaglen.
Petai Cymru'n rhydd fe fasai cydnabod anibyniaeth ddemocrataidd Somaliland yn rhan o'n polisi tramor wrth gwrs.
Neges i Alun Michael a Lorraine - rhyddid i Gymru a Somaliland - dwy am bris un!