´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mwynder Medi

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Mawrth, 4 Medi 2007

Dyna ni felly. Mae'r haf hirfelyn (?) tesog (??) yn tynnu at derfyn ac mae'n bryd i mi glirio'r dwst o'r stafell a dechrau ail-ddodrefni.

Dyma ychydig o ddolenni diddorol i ddechrau. Yn mae 'na drafodaeth ddifyr rhwng Ian Dale a Robert Waller ynglyn a maes y gad yr etholiad cyffredinol yng Nghymru. Almanac Waller yw'r Beibl i newyddiadurwyr adeg etholiad ac mae ei sylwadau'n graff. Un rhybudd - mae'r ynganu yn boenus ar brydiau.

. Mae meibion y fflam wrthi yn Ne Ffrainc.

Dros yr haf cyhoeddodd Huw Lewis a Peter Black daflenni yn dadansoddi perfformiadau eu pleidiau yn etholiadau'r cynulliad. Gellir darllen llith Huw yn ac un Peter yn .

Mewn gwirionedd does 'na ddim llawer o gig yn y naill daflen na'r llall. Gwella'r drefniadaeth a llunio perthynas agosach a'r undebau yw rysáit Huw ar gyfer dyfodol Llafur. Haws dweud na gwneud.

Ailadrodd yr hen fantra Rhyddfrydol mae Peter " Where we work we win". Fel Boxer y ceffyl yn "Animal Farm" gweithio'n galetach yw'r ateb. Ie, dyna chi rhagor o daflenni!

Mae Peter hefyd yn awgrymu y dylai'r blaid bwysleisio ei "neges unigryw radicalaidd" sef...

" tackling poverty and inequality, taking the hard decisions that will improve our environment and our quality of life, that will remove barriers and offer people the educational and employment opportunities to better their lives and which will open up government and make it more transparent and accountable."

Mae'n anodd gweld unrhyw beth unigryw yn y neges honno. Fe fydd angen gwell os ydy Peter yn bwriadu herio Mike German am yr arweinyddiaeth.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:18 ar 4 Medi 2007, ysgrifennodd meurig:

    Croeso nol!
    Cytuno'n llwyr a'r postiad yma. Roeddwn yn dechrau meddwl fy mod ar fy mhen fy hun yn gweld dim byd newydd na beiddgar ym mhamffledi'r ddau wr yma. Er tegwch a Peter Black, mae e'n nodi mai 'cychwyn trafodaeth' yw ei amcan. Ond bydd, bydd rhaid dweud mwy os am osod trywydd newydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae'r ymgais i ail-sgwennu hanes trwy wadu fod a wnelo'r Dem Rhyddiaid unrhywbeth a methiant y glymblaid enfys yn chwerthinllyd.

  • 2. Am 20:57 ar 5 Medi 2007, ysgrifennodd Guto:

    Ai fi syrthiodd i gysgu am funud neu ddau ta ydi Ian Dale a Robert Waller anghofio'n llwyr am Ceredigion?

    Cytuno efo Meurig gyda llaw fod ymgais Peter Black i newid hanes a dweud nad oedd Plaid erioed wedi gwir feddwl mynd mewn i'r Enfys bach yn chwerthinlyd.

  • 3. Am 22:53 ar 5 Medi 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Roedd methu Ceredigion yn dipyn o gamp ond dw i'n meddwl bod Ian yn tueddu "obsesio" am y Ceidwadwyr!

  • 4. Am 23:49 ar 5 Medi 2007, ysgrifennodd dewi:

    gweithio yn Llundain a wir ddim yn gwybod - pwy yw ymgeisydd y blaid yng nheridigion ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.