´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pan oeddwn yn ifanc a ffôl

Vaughan Roderick | 11:28, Dydd Mawrth, 11 Medi 2007

Deng mlynedd yn ôl i heddiw roeddwn yn ffilmio Carys Pugh a Betty Bowen ar fws yr ymgyrch Na ar drothwy'r refferendwm datganoli. Rhiw gymysgedd digon rhyfedd oedd yr ymgyrch honno gyda'r Ceidwadwyr ac ambell i aelod seneddol Llafur yn llechu yn y cysgodion a dwy hen fenyw o'r Rhondda yn ffryntio'r cyfan. Hyd heddiw mae'n ryfeddodd i mi eu bod wedi dod mor agos at drechu'r cynllun.

Go brin y gall unrhyw un anghofio cyffro noson y cyfri, er ein bod yn gwybod erbyn hyn bod 'na elfen o lwyfannu yn y cyfan gyda chanlyniadau Gwynedd a Sir Gar yn cael eu dal nôl er mwyn ychwanegu at y ddrama

Beth bynnag am hynny, wrth edrych ymlaen at y posibilrwydd o drydydd refferendwm mae'n werth cofio pa mor ddiawledig o anodd y gallai hi fod i gefnogwyr datganoli yn enwedig os ydy Aelodau Seneddol Llafur yn ymgyrchu yn erbyn.

O fewn y cynulliad mae'r farn wedi hollti ynghylch pa mor ennilladwy fyddai'r bleidlais ond yn fy marn i mae 'na ambell i ffactor oedd yn bwysig yn 1979 a 1997 na fyddai'n berthnasol y tro nesaf. Yn y ddwy bleidlais ddiwethaf dadleuon mwyaf effeithiol yr ymgyrchoedd Na oedd cost cynulliad a gwrthwynebu creu rhagor o wleidyddion proffesiynol. Y tro nesaf mae'n annhebyg y byddai cynyddu'r pwerau'r cynulliad yn ychwanegu at y gost ac mae'r gwleidyddion eisoes yno. Gallai "Rhowch mwy o waith i'r diawled" fod yn slogan bur effeithiol i'r ymgyrch Ie!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:06 ar 11 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae cydraddoldeb â'r Alban yn rheswm arall dros ehangu pwerau'r Cynulliad - pam y dylem ni fod ar eu holau? Hefyd, os daw'n fater o rannu'r Deyrnas Unedig ar ddiwedd y dydd, dylem ni a'r Alban fod ar dir cyfartal i ddechrau, fel y byddwn yn gallu ymsefydlu'n wledydd annibynnol ar y cyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.