Sibrydion
O fewn y dyddiau nesaf rydyn ni'n debyg o wybod rhagor am yr ELCO ynghylch yr iaith Gymraeg. Hwn yw'r cais a gyflwynir gan y cynulliad i'r senedd yn gofyn am yr hawl i ddeddfu yn y maes. Does 'na ddim manylion eto ond dw i'n deall bod y cais yn debyg o gythruddo’r aelodau seneddol hynny sy'n dymuno cadw pwerau deddfu'r cynulliad yn gyfyng.
Yn ôl yr hyn dw i'n clywed fe fydd hi'n amlwg bod llywodraeth y cynulliad yn ystyried cyflwyno cyfres o fesurau deddfwriaethol yn ymwneud a'r iaith mewn ystod eang o feysydd. Mae hynny'n wahanol iawn i'r mesur cyfyngedig i greu swydd y Dyfarnydd y bu Llafur yn son amdani adeg yr etholiad.
Mae 'na arwydd fach arall o'r ffordd mae'r gwynt yn chwythu. Yfory fe fydd y gweinidog diwylliant Rhodri Glyn Thomas yn dadorchuddio'r cerflun newydd o Owain Glyndŵr yng Nghorwen. Tybed a fyddai Alun Pugh wedi mynd?
SylwadauAnfon sylw
".. a fyddai Alun Pugh wedi mynd?" a fydde ni wedi cael rhywbeth amgennach na "Dyfarnydd iaith" - erm, na.
Llafur yw plaid y 'can't do'. Wnaethon nhw nesa peth i ddim mewn 8 mlynedd o reoli. Mae Plaid a'r SNP yn dangos agwedd 'can do'. Diolch i'r nef am hynny. A diolch i'r nef hefyd ein bod yn dechrau cydnabod gwladweinydd fel Glyndwr.
Da iawn Rhodri Glyn - mae angen dangos gweledigaeth lachar o Gymru. Bydd hynny'n tanseilio Prydeindod hesb Llafur.