Trafferth am deitlau
Mae 'na dri datganiad i'w wasg o'm mlaen- y tri gan wleidyddion neu swyddogion llywodraeth Bae Caerdydd. Mae'r cyntaf yn defnyddio'r teitl swyddogol "Llywodraeth Cynulliad Cymru". "Llywodraeth Cymru'n Un" yw hi yn yr ail a'r "Labour-led Assembly Government" yn y trydydd.
Mae 'na rym mewn geiriau ac mae teitlau'n gallu cyfleu llawer. Dyna'r rheswm, mae'n debyg, am benderfyniad Alec Salmond i fabwysiadu'r enw "Llywodraeth yr Alban" ar gyfer ei gabinet -penderfyniad sydd wedi gwylltio rhai gwleidyddion Llafur sy'n mynnu mae'r enw "Executive" sy'n gywir. Yng ngeiriau un gweinidog yn San Steffan "They can call themselves the White Heather Club if they want, but they will never be the Scottish government."
Yn dechnegol y gwleidyddion Llafur sy'n gywir. Ond pan benderfynodd Rhodri Morgan ddefnyddio'r teitl "Prif Weinidog" yn hytrach na'r teitl swyddogol "Prif Ysgrifennydd" fe dderbyniwyd hynny gan y pleidiau eraill a'r cyfryngau. Beth am fynd un cam ymhellach a mabwysiadu'r enw "Llywodraeth Cymru"?
SylwadauAnfon sylw
Cytunaf y byddai Llywodraeth Cymru'n addas ar gyfer y glymblaid sydd gennym, am fod ganddi fandad gan y mwyafrif a bleidleisiodd ar 3 Mai. Hefyd, dylai dewis enw ar lywodraeth fod yn fater i'r Cynulliad (neu i Senedd yr Alban, o ran hynny) benderfynu'n ddemocrataidd arno, ac nid i ryw anghenfil o gorff allanol.
....neu Senedd Cymru