A hithau'n hanner tymor mae pethau'n dawel yn y Bae. Dwi'n llenwi'r oriau hesb trwy ddarllen cofiant Alison Halford "Leeks from the Back Benches" -a fu 'na deitl salach erioed dwedwch? Dw i ddim yn bwriadu torri'r embargo ond fe ddywedai hyn. Os ydych chi'n disgwyl sgandalau mawr a rhannu cyfrinachau ciaidd gwell yw disgwyl am hunangofiant Siân Lloyd "Sunshine and Showers"!
Un fydd yn disgwyl am eiddgar am y gyfrol honno yw Glyn Davies. Mae Glyn yn y Bae heddiw yn chwilio am ateb i gwestiwn diogon syml sef beth ar y ddaear yw pwynt y Confensiwn Cyfansoddiadol? Mae Glyn, wrth gwrs, am weld y cynulliad yn derbyn pwerau deddfwriaethol ond mae fe, fel fi, wedi drysu'n llwyr gan y syniad o gonfensiwn.
Un peth na fedr y confensiwn fod yw corff tebyg i'r un a luniodd setliad datganoli'r Alban. Roedd aelodau'r corff hwnnw yn cychwyn o'r cychwyn gyda thudalen wag o'u blaenau. Fe fydd y Confensiwn Cymreig ar y llaw arall yn wynebu dewis syml- p’un sydd orau- y setliad presennol neu'r setliad mwy pwerus sydd ar gael ar ôl cynnal refferendwm. Mae hyd yn oed y dewis hwnnw yn un artiffisial gan fod pleidiau'r cynulliad eisoes yn gytûn mae'r ail ddewis sydd orau.
Gallai'r corff trafod materion eraill wrth gwrs. Mae nifer yr aelodau yn y Bae neu yn San Steffan yn enghreifftiau amlwg ond fe fyddai angen deddfwriaeth bellach yn San Steffan i gyflwyno unrhyw newidiadau y tu hwnt i'r rhai a gynhwysir ym Mesur Llywodraeth Cymru. Go brin y bydd na unrhyw awydd ymhlith yr Aelodau Seneddol i gydymffurfio.
Nid wyf am eiliad yn cwestiynu gallu na niwtraliaeth Syr Emyr Jones Parry ond beth ar y ddaear fydd ganddo fe a'i gonfensiwn i wneud na wnaed eisoes gan Gomisiwn Richard? Fel mae pethau'n sefyll mae'n anodd iawn anghytuno a honiad David Davies mai "ymgyrch Ie ar draul y cyhoedd" fydd y confensiwn.
Mae Chris Bryant AS wedi cyhoeddi taflen difyr a diddorol ynghylch dyfodol darlledu yng Nghymru. Gellir ei darllen yn .
Dim ond un isetholiad Cyngor oedd yng Nghymru ddoe a hwnnw yn ward Stansty (sef ardal Plas Coch) yn Wrecsam. Mae'n bosib mai ffactorau lleol oedd yn gyfrifol ond cafwyd gogwydd sylweddol iawn o'r Democratiaid Rhyddfrydol i Lafur.
Llafur; 370
Dem. Rhydd.; 271
Ceid.; 50
Plaid Cymru 45.
( 2004; Dem. Rhydd.; 365, Llafur 134, Cymru Ymlaen; 123).
Mae un o'n cydweithwyr yn y Cynulliad sef gohebydd Golwg Carwyn Fowler yn ein gadael yr wythnos hon. Gellir clywed gwirioneddau mawr ganddo trwy wasgu'r botwm ar y dde.
Mae'r rhyfel cartref sy'n mudferwi yn rhengoedd y ceidwadwyr ynglŷn â datganoli wedi codi ei ben eto. Aelod Seneddol Preseli Penfro Stephen Crabb sy'n rhoi proc i'r tân y tro hwn gydag ymosodiad chwyrn ar y Cynulliad a'i gyd-geidwadwyr sy'n aelodau o'r corff.
Mae'n werth darllen sylwadau Mr Crabb ar yn eu cyfanrwydd ond dyma flas bach;
"Together with uncontrolled immigration and relentless European integration, devolution has the potential to cause huge and permanent damage to our country. The United Kingdom is being slowly dismembered and hollowed-out in full view, and with the tacit consent, of the political classes."
Fel David Davies mae Mr Crabb yn cynrychioli ffrwd bwysig o fewn Ceidwadwyr Cymru- y mwyafrif mud o bosib. Mae Ceidwadwyr y Cynulliad yn tueddu anwybyddu neu wfftio'r garfan honno ond mae 'na un sylw gan Mr Crabb sy'n anodd dadlau yn ei erbyn sef hwn;
"What is striking about the Assembly now is the huge level of agreement between all the parties. In fact, the principal political fault-line lies not between the parties in Cardiff Bay but between all the Assembly politicians and what is known down there as 'Westminster'."
Does ond angen edrych ar safbwyntiau Aelodau Seneddol Llafur Cymru i weld y gwirionedd yn y geiriau. Ar ei flog yntau mae yn gwneud pwynt digon tebyg;
"Politics is becoming more territorial, less ideological...we’re all nationalists now."
Mae hwn yn dir newydd yn nhermau gwleidyddiaeth Prydain ond yn rhywbeth oedd yn gwbwl bosib ei broffwydo. Hwn yw'r "llwybr llithrig at annibyniaeth" y bu Neil Kinnock yn rhybuddio yn ei gylch yn y saithdegau neu'r "creative conflict" y bu John Osmond yn ei drafod yn ei lyfrau chwarter canrif yn ôl.
Y broblem i'r aelodau seneddol yw nad oes ganddynt glem sut mae rhwystro'r broses. Mae Stephen Crabb ei hun yn cyfaddef hynny;
"Abolition of the devolved institutions is not currently saleable... I am not convinced that a re-balancing of the one-way devolution project will ultimately make it safe."
Mae'r aelodau Llafur yn wynebu'r un dryswch. Ac eithrio gosod ambell i rwystr yn llwybr ambell i ELCO a gobeithio am bleidlais negyddol mewn refferendwm does fawr ddim y gall yr aelodau wneud i rwystro newidiadau sydd bellach yn ymddangos bron yn anorfod.
Os oes unrhyw un o hen ddisgyblion Ysgol Emrys ap Iwan yn darllen hwn gai ofyn i chi chwilio yn eich casgliadau fideo. Dw i'n fodlon talu arian da i weld tap o un o sioeau cerddorol yr ysgol gyda'r prif rannau yn cael ei chwarae gan Lisa Scott-Lee (Steps gynt) a... Darren Millar AC. Does gen i ddim clem beth oedd y sioe...y Blues Brothers neu Loves Tory efallai!
Mae gwleidyddion y gogledd yn hen gyfarwydd â pha mor sensitif yw etholwyr Aberconwy ynghylch eu gwasanaethau iechyd. Cymaint felly nes i Gareth Jones ddewis sefyll fel ymgeisydd "Plaid Cymru- Achubwch Ysbyty Llandudno" yn etholiad y cynulliad.
Mae'n newyddion drwg iawn i Gareth felly bod cefnogwyr Hosbis Dewi Sant yn y dref yn poeri gwaed ynghylch cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad ynglŷn â chymorth i'r canolfannau hynny. Tra bod y sector yn gyffredinol yn ddiolchgar am y cymorth ychwanegol mae Hosbis Llandudno wedi colli allan. Mae'r rheswm am hynny'n gymhleth ond yn y bôn mae'r cymorth i'r canolfannau yn y dyfodol yn dibynnu ar y symiau a hawliwyd ganddynt yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Canlyniad hynny yn ôl cefnogwyr Hosbis Llandudno yw bod y symiau wedi eu pennu nid ar sail angen ond ar sail pa mor llwyddiannus mae'r gwahanol ganolfannau wedi bod wrth godi arian yn lleol- gyda'r canolfannau mwyaf llwyddiannus yn cael eu cosbi.
Fy fydd hon yn gythraul o ffrae!
Mae gan ambell i aelod Llafur llysenw newydd i'r Western Mail. "Y "Daily Price" yw'r enw hwnnw- enw sy'n deillio o barodrwydd y papur i roi cyhoeddusrwydd i Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mae 'na elfen o eiddigedd yn y gwatwar. Yn sicr mae gan Adam Price allu arbennig i sicrhâi sylw i'w safbwyntiau trwy fathu sylwadau bachog a dethol ei dargedau’n ofalus. Dim ond Lembit Opik sy'n gallu cystadlu ac Adam yn y frwydr am sylw'r wasg ac mae ei ddull yntau o sicrhâi sylw yn bur wahanol!
Swyddfa Cymru yw targed diweddaraf Adam. Yn ôl yr Aelod Seneddol dyw Cymru ddim yn cael gwerth ei harian gan drigolion Tŷ Gwydr ar roedd yr honiad hwnnw yn ddigon i sicrhâi cyhoeddusrwydd eang.
Gan adael y cyhuddiad ei hun i'r naill ochor mae'r cymhellion y tu ôl i'r ymosodiad yn ddiddorol. Gyda Llafur a Phlaid Cymru mewn clymblaid yng Nghaerdydd mae'n amlwg bod Adam Price am ddefnyddio ei lwyfan yn San Steffan i gadw dipyn o ddŵr clir rhwng y ddwy blaid ond mae 'na gymhelliad posib arall.
Dros y misoedd diwethaf, yn enwedig ers ffurfio'r glymblaid, mae'n amlwg bod tensiynau’n dechrau datblygu rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a llywodraeth Rhodri Morgan. Yr enghraifft ddiweddaraf o hynny oedd ymateb Ysgrifennydd Cymru i benodiad Syr Emyr Jones Parry fel cadeirydd y Confensiwn Cyfansoddiadol. Dyma oedd gan Peter Hain i ddweud mewn datganiad; "Emyr is a good friend of mine, we worked closely for many years at the Foreign Office. He is an excellent choice for Chair of the Convention. This is a positive step, but the MP and AM group have yet to convene to decide the composition of the convention."
Mae'r frawddeg olaf yn ddadlennol. Mae'n anodd credu nad geiriau o gerydd yw rhain. Er bod Peter a Syr Emyr yn gymaint o fêts mae'n amlwg bod yr ysgrifennydd yn anhapus tost bod Rhodri ac Ieuan wedi gwneud y penodiad cyn i'r aelodau seneddol gael dweud eu dweud.
Mae meithrin drwgdeimlad rhwng Llafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn rhan amlwg o strategaeth Plaid Cymru a chan fod Peter Hain yn gallu bod yn hynod groendenau ar brydiau gellir disgwyl rhagor o ymdrechion i dynnu blew o'i drwyn.
Carwyn Jones a Paul Davies yw'r gwesteion ar CF99 am 9.30 heno. Ymhlith y pynciau mae can niwrnod y glymblaid a thrafferthion cau ysgolion bach. Yn ogystal fe fydd 'na gyfle i weld yn y cnawd wrth i ni drafod byd y blogs.
Gydag arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn syrthio fel dail yr Hydref prin yw'r sylw sy'n cael ei roi i arweinyddiaeth pleidiau eraill y cynulliad. Eto i gyd dw i'n synhwyro bod 'na symudiadau ar droed ymhlith y Ceidwadwyr a allai arwain at newid.
Does 'na ddim anniddigrwydd mawr ynghylch arweinyddiaeth Nick Bourne ymhlith Ceidwadwyr y cynulliad. Ar y llaw arall does fawr neb ohonynt yn disgwyl iddo arwain y blaid yn etholiad 2011. Y disgwyl tan yn ddiweddar oedd y byddai Nick yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth ar ol yr etholiad cyffredinol nesaf gan dderbyn sedd yn NhÅ·'r Arglwyddi fel gwobr am ei wasanaeth. Roedd hynny'n gwneud synnwyr tra roedd dyddiad etholiadau San Steffan yn ansicr ond nawr bod Gordon Brown wedi awgrymu na fydd 'na etholiad tan 2009 mae ambell i un yn gofyn oes 'na reswm dros oedi.
Aelod Gogledd Caerdydd Jonathan Morgan yw'r ymgeisydd amlwg i olynu Nick ac mae 'na sawl rheswm iddo fe obeithio am ornest gynnar. Fe fyddai dewis arweinydd newydd cyn etholiadau San Steffan yn fodd i sicrhâi na fyddai Alun Cairns, sydd a'i fryd ar Dŷ'r Cyffredin, yn sefyll yn ei erbyn a bod newydd-ddyfodiaid y blaid yn rhu dibrofiad i fentro.
Mae un o'r newydd-ddyfodiaid hynny yn wers i bawb i beidio credu sbin gwleidyddol. Pan ddewiswyd Darren Millar fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd roedd rhai o fawrion y Blaid yn ddigon dilornus ohono. Roedd hi'n gyfrinach agored mai Dylan Jones-Evans oedd yr ymgeisydd yr oedd yr arweinyddiaeth yn ffafrio yn yr etholaeth a rhoddwyd yr argraff bod y gŵr a'i trechodd yn perthyn i oes y cerrig o safbwynt ei ddaliadau moesol a gwleidyddol. Ychwanegodd Alun Pugh at y darlun hwnnw gan geisio dylunio Mr Millar fel rhyw fath o Ian Paisley Cymreig oedd yn berwi o ragfarnau crefyddol.
Mae'n anodd cysoni'r ddelwedd honno a'r gwleidydd craff a chwrtais sydd eisoes wedi gwneud cryn argraff yn y Bae. Fel cyfathrebwr effeithiol gyda sedd yn y gogledd gallai Darran dyfu i fod yn ddarpar arweinydd yn ystod y blynyddoedd i ddod. Ydy Jonathan yn gwylio ei gefn tybed?
Reit, fi nôl a do, diolch yn fawr, ces i amser da iawn 'da teulu'r dwyrain.
Mae'r llywodraeth wedi bod yn dathlu ei chan niwrnod y bore 'ma gan gyhoeddi mai cyn llysgennad Prydain yn y Cenhedloedd Unedig, Syr Emyr Jones Parry, fydd yn cadeirio'r confensiwn sydd i fod i liniaru'r ffriodd ar gyfer y refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad.
Heb os mae hwn yn benodiad da. Serch hynny dw i'n synnu bod y llywodraeth wedi gwneud y penodiad heb ymgynghori a'r gwrthbleidiau. Dw i ddim yn meddwl y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol na'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu dewis Syr Emyr ond onid yw hi'n bwysig eu bod yn teimlo rhyw faint o berchnogaeth dros y confensiwn yn hytrach na chael eu trin fel gweision bach i chwarae eu rhan pan ddaw'r amser?
Yn y cyfamser fe wnaeth Rhodri'r honiad mwyaf rhyfedd yn ystod ei gynhadledd newyddion gan gyfeirio at adroddiad y swyddfa ystadegau bod poblogaeth Cymru ar gynnydd fel arwydd o lwyddiant y llywodraeth. Am y tro cyntaf mewn degawdau, meddai, mae na fwy o enedigaethau nac o farwolaethau yng Nghymru.
Beth yw'r esboniad am hyn tybed? Ydy'r ffaith bod Rhodri ac Ieuan wedi neidio i'r gwely da'i gilydd wedi sbarduno pobol ar hyd a lled Cymru i ddilyn eu hesiampl? Go brin.
Eluned Morgan (yr aelod seneddol ewropeaidd llafur) a'r ceidwadwr Guto Bebb fydd yn cadw cwmni i mi yn oriel y cynulliad heno. Wrth i Gordon Brown bacio'i fag i fynd i Lisbon i drafod y cytunded ewropeaidd fe fyddwn ni'n gofyn pa mor bendant ydi llinellau coch Prydain ac i ble aeth yr addewid yna gan Tony Blair i gynnal refferendwm.. ?
A hefyd fe fyddwn ni'n edrych ar brinder prentisiaethau (dipyn o lond ceg!) yng Nghymru, ac fe fydd Dewi Knight o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno a ni i drafod pam bod pawb i weld yn ymddiswyddo o frig y blaid..
Oes oes ganddo chi gwestiwn i'r gwesteion heno, gadewch sylw ar y blog neu ebostiwch ni CF99@bbc.co.uk
CF99 yn fyw o'r senedd heno am 9.30 ar S4C.
Wel wel - erbyn canol Rhagfyr fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol arweinydd newydd. Eisioes ma 'na ddau geffyl blaen.. Chris Huhne, llefarydd y blaid ar yr amgylchedd, cyn ddyn busnes a newyddiadurwr ddaeth yn ail i Syr Ming y tro diwetha ydi'r naill..a'r llall a ffefryn y bwcis ar hyn o bryd ydi llefarydd y blaid ar faterion cartref, Nick Clegg. Mae'r cyn aelod seneddol ewropeaidd yn gyfaill a chydweithiwr agos iawn i Syr Ming. Yn wahanol i Mr Huhne, fe ddewisodd Mr Clegg beidio mynd am y swydd y tro dwetha ..Pam? Wel, yn gyhoeddus, pryder ei gefnogwyr, a fo, oedd ei fod yn rhy ifanc, yn ddi-brofiad ac yn rhy brysur fel tad i deulu ifanc. Yn breifat, y gofid oedd ei fod yn edrych ac yn swnio llawer yn rhy debyg i David Cameron.
Yn ol y son fe ddaeth i "ddealltwriaeth" gyda Syr Ming y byddai'n ei gefnogi yn lle ei herio ac o ganlyniad yn cael swydd flaenllaw fyddai'n ei baratoi am yr ornest y tro nesa... Rhyw sgwrs debyg i honno gafodd Gordon Brown a David Miliband y llynedd mae'n siwr.. Ar ben hynny, roedd Mr Clegg a'i gefnogwyr yn hyderus iawn ar y pryd y byddai David Cameron wedi hen fynd erbyn i Syr Ming roi'r gorau iddi ac felly y byddai'r broblem fawr wedi diflannu - rhyfedd o fyd!
Hyd yma mae Nick Clegg yn ystyried maint ei gefnogaeth ac yn gwrthod cadarnhau y bydd yn sefyll am y swydd - efallai ma'i arwydd cyntaf ei fod ar fin gwneud hynny fydd rhyw unrhyw ymgais ar "makeover" - steil gwallt newydd falla neu bar sydyn o sbectol - unrhyw beth i osgoi cael ei gymharu a'r gelyn..!
CSR,PBR, fformiwla barnett, Mr Pioden ..wedi drysu? wedi laru? Cofiwch am CF99 heno pan fyddwn ni mynd i'r afael a'r diweddara o Fae Caerdydd a San Steffan yng nghwmni llwyth o siocled... o ac ambell i wleidydd hefyd .. Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas, aelod Llafur yn y cynulliad, Alun Davies ac Eleanor Burnham ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn fyw o'r Senedd heno am 9.30 ar S4C.
Felly dim etholiad ... ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal Vaughan rhag dianc i ymchwilio'r sedd ymylol allweddol honno yn Malasyia am bythefnos a 'ngadael i yng ngofal ei flog.... ac CF99. Ati'n syth felly at faterion mwyaf dwys y dydd..
Ar ol deffro am bedwar ar fore hyll i gyflwyno Good Morning Wales - braf oedd cael cadarnhad cynnar bod gwleidyddiaeth Cymru dal yn secsi.. ac i un o aelodau cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, mae'r diolch. Hi yw'r unig wleidydd i gyrraedd rhestr y Western Mail o 50 o ferched mwyaf deniadol Cymru. Ymhlith y WAGs a'r divas, mae Bethan yn hawlio rhif 49, rhwng Gabby Logan a Fiona Phillips o GMTV.. A dyma gofio'n sydyn yn y swyddfa ei bod hi nol ym Mis Mawrth wedi cyrraedd rhif 19 yn rhestr Wales on Sunday o "Bachelorettes" y flwyddyn. Felly dyma fynd ati i ddadansoddi arwyddocad y newid yma yn y polau piniwn.. ..Un esboniad posib - mae Plaid Cymru bellach mewn grym ac felly roedd Kissinger yn anghywir pan awgrymodd "Power is a great aphrodisiac". Esboniad arall yw nad ydi gwleidyddion Cymru yn cymryd digon o sylw o gyngor "What not to Wear" Helen Mary Jones sydd i'w gael yn glir iawn yng nghylchgrawn Adran y Menywod Plaid Cymru "Jemeima"...O wel 'sgwn i lle fydd aelodau gwrywaidd y cynulliad arni pan aiff y Western Mail ati i restru dynion dela Cymru tro nesa ...? Vaughan - brysia nol!
Dw i ffwrdd am bythefnos yn dathlu Eid ul-Fitr. Galwch heibio'n achlysurol am ambell i sylw gan Bethan Rhys Roberts ac ambell i bodlediad. Fe fyddai yn ôl ar Hydref 23ain.
Paul Davies AC yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Ymunwch a Paul a finnau yn Coffee Mania trwy wasgu'r botwm ar ochr dde'r blog.
"I think with the climate change as it is that's moving far quicker than what we are as a species. How do we progress this forward?"
Brinle Williams AC
Fe fydd ein cyfres wleidyddol newydd CF99 yn cychwyn heno am 9.30 ar S4C. Gwesteion Bethan Rhys Roberts a finnau fydd y Gweinidog Cefn Gwlad Elin Jones, y Ceidwadwr Alun Cairns a Dawnswyr Gwerin yr Hendy- cewch weld pam!
Mae croeso i chi adael sylwadau ac awgrymiadau ar y blog.
Os oeddwn i'n Ddemocrat Rhyddfrydol fe fyswn i'n poeni fy mol am y posibilrwydd o etholiad cynnar. Dyw hwn ddim yn gyfnod da i'r blaid ta beth ond mae 'na un ffactor ychwanegol a allai'n costi'n ddrud i'r blaid. Y ffactor honno yw oed y rhestr etholwyr ac effaith tebygol hynny ar bleidleisiau myfyrwyr.
Dyw'r rhestr newydd ddim yn dod i rym tan y cyntaf o Ragfyr. Mae hynny'n golygu nad yw'r mwyafrif llethol o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi eu cofrestri a bod nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n wedi eu cofrestri mewn hen gyfeiriadau.
Mae hi'n bosib wrth gwrs i ymuno a'r rhestr ar fyr rybudd ac i bleidleisio heb gerdyn pleidleisio ond faint fydd yn gwneud hynny mewn gwirionedd?
Yn etholiad 2005 roedd pleidleisiau myfyrwyr yn allweddol mewn sawl etholaeth, Ceredigion a Chanol Caerdydd yn eu plith. Roedd safiad Charles Kennedy yn erbyn rhyfel Irac yn hynod ddylanwadol ymhlith yr ifanc ond mae'n ymddangos bod pwysigrwydd y pwnc hwnnw wedi gostegu ers ymadawiad Tony Blair.
Gallai etholiad ar yr hen restr fod yn hunllefus i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Does ond angen edrych ar restr o'i seddi i weld pam. Gorllewin Rhydychen... Caergrawnt...Gorllewin Caeredin...Hazelgrove... a llawer mwy.
Dw i'n mynd i Lanelli heno blygio CF99 ar Wedi Saith. Mae ymddangos ar y rhaglen honno wastad yn bleser gan fod nifer o hen ffrindiau'n gweithio i Tinopolis a bod y lle ei hun mor swrrealaidd. Mae'n anodd credu bod un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf Prydain yn dal i gael ei redeg o hen Descos concrit sy'n bloryn ar wyneb tre'r sosban.
Fel sy'n digwydd yng Nghymru nid edmygu a dathlu llwyddiant y cwmni rydyn ni'n tueddu gwneud ond cwyno bod hwn a'r llall yn gyrru car drudfawr neu fod XYZ bellach yn filiwnydd. Mae 'na rywbeth yn ddwfn yn niwylliant Cymru sy'n golygu ein bod yn gweld gwneud arian fel rhywbeth brwnt ac yn dilorni llwyddiant mewn busnes. Gwell yw bod yn feddyg, yn gyfreithiwr neu'n brifathro na chychwyn busnes sy'n cynnig gwaith i ddegau neu gannoedd o bobol.
Dw i ddim yn dweud unrhyw beth mawr nac arbennig o newydd yn fan hyn. Mae diffyg menter y Cymry a'u heiddigedd tuag at y rheiny sy’n llwyddo yn gwyn cyson gan wleidyddion o bob plaid. I ddyfynnu faux pas enwog Nicholas Edwards "there isn't even a Welsh word for entrepreneur".
Mae'r Gweinidog Menter newydd Ieuan Wyn Jones wedi ceisio mynd i'r afael a'r broblem trwy drefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer busnesau bach ac mae'r Torïaid hefyd wedi cychwyn a'r broses hir i ddatblygu cynllun economaidd i Gymru. Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd David Melding a Dylan Jones-Evans yn cynnal ymgynghoriad hir i ddatblygu polisi menter newydd. Hyd y gwn i hwn yw'r tro cyntaf i wrthblaid wneud gwaith mor fanwl ers i Dafydd Wigley a Phil Williams llunio cynllun economaidd i Gymru yn ôl yn y chwedegau.
Mae ffawd y ddogfen honno'n ddiddorol. Cafodd nifer o'r syniadau ei bachu gan wleidyddion o bleidiau eraill a gweision sifil ac roeddynt yn sylfaen i bolisïau’r Swyddfa Gymreig am flynyddoedd lawer. Os ydy David a Dylan yn llwyddo i feddwl am ffyrdd o dorri ein gorddibyniaeth ar y sector gyhoeddus fe ddylai Rhodri ac Ieuan fod yr un mor ddigywilydd!
Anghofiwch am Gwpan y Byd. y dylai Rygbi fod.
Pump rheswm dros alw etholiad
1.Momentwm; Efallai mai tacteg i anesmwytho'r Torïaid oedd y sôn am etholiad i ddechrau ond fe fyddai tynnu yn ôl nawr ymddangos yn wan. Fe fydd hanes Jim Callaghan yn1978 yn chwarae ar feddyliau Llafur.
2.Yr economi; Mae'r rhagolygon economaidd yn gymylog a dweud y lleiaf. Dyw hi ddim yn amhosib bod yr Unol Daleithiau yn wynebu dirwasgiad- sefyllfa a fyddai'n pery problemau byd eang. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn newyddion gwleidyddol drwg. Mae'n bosib y byddai'r etholwyr yn troi at hen law profiadol fel Gordon mewn argyfwng ond dyw hynny ddim yn sicr.
3.Yr arolygon; Mae'n anodd dychmygu y bydd 'na well arolygon barn i Lafur na'r rhai presennol. Os nid nawr...pryd?
4.Yr aelodau awyddus. Mae aelodau'r Blaid yn awchu am etholiad. Mae hynny'n wir ym mhob rhan o'r DU ond yn enwedig yng Nghymru lle mae'r blaid yn awyddus i ddangos mai storom Awst oedd etholiad y cynulliad.
5.Arweinwyr anwadal; Mae arweinwyr y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymddangos yn simsan ar hyn o bryd. Does dim pwrpas rhoi cyfle iddynt adfer eu sefyllfaoedd nac i'w pleidiau newid y llaw wrth y llyw.
Pump rheswm dros beidio galw etholiad
1.Yr Alban; Yn ôl yr arolygon diweddaraf fe fyddai Llafur yn ennill 40% o'r bleidlais mewn etholiad cyffredinol gyda'r SNP yn denu 35%. Nid yn unig y byddai Llafur yn colli seddi ond fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dioddef gan danseilio opsiynau Llafur mewn senedd grog. A beth am y sibrydion y gallai Alec Salmond sefyll yn erbyn Gordon Brown yn Kirkcaldy?
2.Arian; Mae sefyllfa ariannol y Ceidwadwyr yn hynod o iach o gymharu a Llafur. Gyda'u trysorydd Michael Ashcroft yn bwriadu rhoi hyd at £25,000 i bleidiau lleol mewn etholaethau ymylol gallai hi fod yn anodd i Lafur gystadlu.
3.Oedran y rhestr; Fe fydd y rhestr etholwyr newydd yn dod i rym ar ddechrau Mis Rhagfyr. Amcangyfrifir y gallai miliwn o bobol golli eu pleidlais oherwydd oedran y rhestr bresennol. A phwy yw'r bobol hynny? Yr ifanc yn benna sef yr union grŵp sydd fwyaf cefnogol i Lafur.
4.Y tywydd; Wyt Tachwedd yn oer a'th farrug yn wyn...
5.Fi; Dw i fod ar wyliau.