Ai cranc yw Crabb?
Mae'r rhyfel cartref sy'n mudferwi yn rhengoedd y ceidwadwyr ynglŷn â datganoli wedi codi ei ben eto. Aelod Seneddol Preseli Penfro Stephen Crabb sy'n rhoi proc i'r tân y tro hwn gydag ymosodiad chwyrn ar y Cynulliad a'i gyd-geidwadwyr sy'n aelodau o'r corff.
Mae'n werth darllen sylwadau Mr Crabb ar yn eu cyfanrwydd ond dyma flas bach;
"Together with uncontrolled immigration and relentless European integration, devolution has the potential to cause huge and permanent damage to our country. The United Kingdom is being slowly dismembered and hollowed-out in full view, and with the tacit consent, of the political classes."
Fel David Davies mae Mr Crabb yn cynrychioli ffrwd bwysig o fewn Ceidwadwyr Cymru- y mwyafrif mud o bosib. Mae Ceidwadwyr y Cynulliad yn tueddu anwybyddu neu wfftio'r garfan honno ond mae 'na un sylw gan Mr Crabb sy'n anodd dadlau yn ei erbyn sef hwn;
"What is striking about the Assembly now is the huge level of agreement between all the parties. In fact, the principal political fault-line lies not between the parties in Cardiff Bay but between all the Assembly politicians and what is known down there as 'Westminster'."
Does ond angen edrych ar safbwyntiau Aelodau Seneddol Llafur Cymru i weld y gwirionedd yn y geiriau. Ar ei flog yntau mae yn gwneud pwynt digon tebyg;
"Politics is becoming more territorial, less ideological...we’re all nationalists now."
Mae hwn yn dir newydd yn nhermau gwleidyddiaeth Prydain ond yn rhywbeth oedd yn gwbwl bosib ei broffwydo. Hwn yw'r "llwybr llithrig at annibyniaeth" y bu Neil Kinnock yn rhybuddio yn ei gylch yn y saithdegau neu'r "creative conflict" y bu John Osmond yn ei drafod yn ei lyfrau chwarter canrif yn ôl.
Y broblem i'r aelodau seneddol yw nad oes ganddynt glem sut mae rhwystro'r broses. Mae Stephen Crabb ei hun yn cyfaddef hynny;
"Abolition of the devolved institutions is not currently saleable... I am not convinced that a re-balancing of the one-way devolution project will ultimately make it safe."
Mae'r aelodau Llafur yn wynebu'r un dryswch. Ac eithrio gosod ambell i rwystr yn llwybr ambell i ELCO a gobeithio am bleidlais negyddol mewn refferendwm does fawr ddim y gall yr aelodau wneud i rwystro newidiadau sydd bellach yn ymddangos bron yn anorfod.
SylwadauAnfon sylw
Dyma brofi’r pwynt wnes i dro’n ôl - mai ceidwadwyr ac unoliaethwyr yw’r torïaid yn y bôn, a hynny er gwaethaf cymedroldeb yr unigolion hynny o dorïaid sy’n ffurfio prif wrthblaid y Cynulliad.
Fodd bynnag, gwelaf un eironi mawr ynglŷn â safiad y Cranc, sef bod llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig (??) yn dibynnu ar y gwledydd ymylol, sef Cymru a’r Alban, i barhau mewn grym, gan mai’r Ceidwadwyr, ran amlaf, yw’r blaid fwyaf yn Lloegr. Yn ôl y rhesymeg hon, y Blaid Lafur ddylai fod y blaid fwyaf unoliaethol, nid y torïaid.
Mewn gwirionedd, byddai'n gwneud synnwyr i'r torïaid wthio am rannu'r Deyrnas Unedig er mwyn ennill grym yn Lloegr a pharhau mewn grym am ddegawdau, yn ôl pob tebyg (oni bai fod rhyw drychineb enfawr yn digwydd nes siglo'r boblogaeth Seisnig i ysu am gael newid)!