Mentro Mas
Dw i'n mynd i Lanelli heno blygio CF99 ar Wedi Saith. Mae ymddangos ar y rhaglen honno wastad yn bleser gan fod nifer o hen ffrindiau'n gweithio i Tinopolis a bod y lle ei hun mor swrrealaidd. Mae'n anodd credu bod un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf Prydain yn dal i gael ei redeg o hen Descos concrit sy'n bloryn ar wyneb tre'r sosban.
Fel sy'n digwydd yng Nghymru nid edmygu a dathlu llwyddiant y cwmni rydyn ni'n tueddu gwneud ond cwyno bod hwn a'r llall yn gyrru car drudfawr neu fod XYZ bellach yn filiwnydd. Mae 'na rywbeth yn ddwfn yn niwylliant Cymru sy'n golygu ein bod yn gweld gwneud arian fel rhywbeth brwnt ac yn dilorni llwyddiant mewn busnes. Gwell yw bod yn feddyg, yn gyfreithiwr neu'n brifathro na chychwyn busnes sy'n cynnig gwaith i ddegau neu gannoedd o bobol.
Dw i ddim yn dweud unrhyw beth mawr nac arbennig o newydd yn fan hyn. Mae diffyg menter y Cymry a'u heiddigedd tuag at y rheiny sy’n llwyddo yn gwyn cyson gan wleidyddion o bob plaid. I ddyfynnu faux pas enwog Nicholas Edwards "there isn't even a Welsh word for entrepreneur".
Mae'r Gweinidog Menter newydd Ieuan Wyn Jones wedi ceisio mynd i'r afael a'r broblem trwy drefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer busnesau bach ac mae'r Torïaid hefyd wedi cychwyn a'r broses hir i ddatblygu cynllun economaidd i Gymru. Dros y blynyddoedd nesaf fe fydd David Melding a Dylan Jones-Evans yn cynnal ymgynghoriad hir i ddatblygu polisi menter newydd. Hyd y gwn i hwn yw'r tro cyntaf i wrthblaid wneud gwaith mor fanwl ers i Dafydd Wigley a Phil Williams llunio cynllun economaidd i Gymru yn ôl yn y chwedegau.
Mae ffawd y ddogfen honno'n ddiddorol. Cafodd nifer o'r syniadau ei bachu gan wleidyddion o bleidiau eraill a gweision sifil ac roeddynt yn sylfaen i bolisïau’r Swyddfa Gymreig am flynyddoedd lawer. Os ydy David a Dylan yn llwyddo i feddwl am ffyrdd o dorri ein gorddibyniaeth ar y sector gyhoeddus fe ddylai Rhodri ac Ieuan fod yr un mor ddigywilydd!
SylwadauAnfon sylw
Yn ol cyfweliad Ieuan yn y Western Mail, mae'n hollol hapus hefo'r ffaith fod 54% o gyfoeth Cymru yn dod o'r sector gyhoeddus.
Felly dwi ddim yn gweld un rhyw symyd gan Plaid Cymru i wneud mwy i helpu'r sector breifat, yn arbennig busnesion newydd.
Hefyd, mae'n glir mi fydd yn rhaid i Rhodri ymddeol cyn i unrhyw un of fy syniadau economaidd cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth y Cynullaid!
Ond os ydi'r comisiwn newydd yn medru cael y Cynulliad i sysmny mwy tua help busnesion Cymru, hyd yn oed drwy ddwyn syniadau newydd, fydd hanner y job wedi ei wneud.
DYLAN
Sylwadau difyr. Er mod i 'ar y chwith' dwi'n gredwr cryf mewn chydig bach o entruperneriaeth yn enwedig pan fo'n seiliedig ar sgil sy'n eiddo i chi. Er mai Diwinydd/Syniadaethwyr ydy fy ngwaith dydd i ddydd i dydy e, fel alle chi ddisgwyl, ddim yn dod a llawer o arian i fewn. Dyna pam bod genna i gwmni dylunio yn rhedeg ar yr ochr - dwi'n gneud arian da allan o'r gwaith a wela i ddim problem cysoni hynny gyda bod 'ar y chwith' oherwydd yr unig beth dwi'n gwneud ydy cyhoeddi fod gennyf sgiliau ym maes dylunio ac yna daw pobl atat i am fy ngwasanaeth. Nunlle yn y broses yna dwi'n 'cymryd mantais' ac yn tanbrisio neb - ma pobl moyn fy ngwasanaeth ac rwy'n darparu.
Wedi dweud hynny mae yna elfen ohonof, sef y 'cymro gostyngedig gwasaidd' bid iswr, sy wastad yn teimlo yn euog wrth anfon quote allan i gwsmer ac ar ol gwneud y gwaith anfon invoice yn gofyn am daliad. Mae ffrindiau wedi dweud y gallw ni godi tipyn mwy am fy ngwasanaeth ond rhywsut ni fuasai'r nerf genna i wneud hynny.
Er mod i'n gwneud chydig bach o arian da ar yr ochr i'm cynnal trwy fy mlynyddoedd PhD gyda'r dylunio yma dwi ddim yn cyfri fy hun yn 'entroupener', ddim o gwbl, jest hel pres i brynnu llaeth a rhoi petrol yn car ydw i. Beth felly sy'n mynd a chi i fyny o'r lefel syml yma? Cenfigen? Chwennych? Bod yn farus? Dim ond procio.
Hollol gywir i ddisgrifio'r Cymry fel pobl sy'n dirmygu cyfoeth. Roedd y ddau brif crefydd o'n bobl y ganrif ddiwethaf - Anghydffurfiaeth Cymraeg y capel a Marcsiaeth y glowyr, yn pregethu'r un efengyl.
Hyd at heddiw, yn bersonol rwy'n teimlo'n euog os rwy'n gwerthu rhywbeth ar E - bay hyd yn oed. Fel wedi pechodi yn erbyn rhyw rheol moesol..heb cweit di derbyn bo gwneud elw yn rhywbeth da.
Mae'r ddamcaniaeth nad yw'r Cymry'n gallu creu cyfoeth yn hen stereoteip Seisnig sy'n cael ei drafod yn llyfr Mike Parker - Neighbours from Hell.
Mae'n wir bod y sector gyhoeddus yn rhy fawr yng Nghymru (o'i gymharu a'r sector breifat).
Mae'n ddigon naturiol lle ceir sector gyhoeddus sylweddol bod bri i'r swyddi sydd ar ben y sector honno ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.
Mi fyddai cenedlaetholwr fel fi yn dadlau bod y diffyg cydbwysedd economaidd yma yn ganlyniad i'r ffaith ein bod yn wleidyddol yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn cael ein rheoli'n wleidyddol ac yn economaidd o wlad arall.
Gyda llaw, yn groes i'r stereoteip mae'n ffaith bod y cyfraddau o bobl hunan gyflogedig yn y Gymru Gymraeg ymysg yr uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae yna wahaniaeth mawr rhwng fod yn hunan-gyflogedig a cychwyn busnes eich hunan. Mewn busnes mae rhan fwyaf o'r arian yn mynd ar bethau fel cyflogau (rhai teg os ydych am gael staff da a theyrngar), rhent swyddfa/dodrefn, prynu offer, treuliau, costau cyfrifydd/cyfreithwyr.
Mae canran go dda o'r cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i geisio am waith nad ydych chi'n ei ennill yn y pendraw (yn wahanol i ffrilans lle fyddwch chi'n cael cynnig jobsys bach gan ffrindiau).
Mae pwysau di-ddiwedd yn y sector breifat i gadw'ch costau lawr a'ch prisiau yn gystadleuol (ac ar yr un pryd rhoi digon o arian i'ch staff i rhoi bwyd ar eu bord).
Y broblem yw fod y sector breifat 'SME' yng Nghymru yn rhy ddibynnol ar gael gwaith o'r sector gyhoeddus heb sôn am y grantiau di-ri. Mae hyd yn oed Tinopolis wedi tyfu yn bennaf ar gomisiynau drwy arian cyhoeddus y ´óÏó´«Ã½ ac S4C. Ychydig iawn o gyfalaf preifat sydd yna yng Nghymru, dyw'r term 'cyfalafiaeth menter' ddim yn un cyfarwydd i unrhywun.
Mae yna wahaniaeth mawr rhwng fod yn hunan-gyflogedig a cychwyn busnes eich hunan. Mewn busnes mae rhan fwyaf o'r arian yn mynd ar bethau fel cyflogau (rhai teg os ydych am gael staff da a theyrngar), rhent swyddfa/dodrefn, prynu offer, treuliau, costau cyfrifydd/cyfreithwyr.
Mae canran go dda o'r cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i geisio am waith nad ydych chi'n ei ennill yn y pendraw (yn wahanol i ffrilans lle fyddwch chi'n cael cynnig jobsys bach gan ffrindiau).
Mae pwysau di-ddiwedd yn y sector breifat i gadw'ch costau lawr a'ch prisiau yn gystadleuol (ac ar yr un pryd rhoi digon o arian i'ch staff i rhoi bwyd ar eu bord).
Y broblem yw fod y sector breifat 'SME' yng Nghymru yn rhy ddibynnol ar gael gwaith o'r sector gyhoeddus heb sôn am y grantiau di-ri. Mae hyd yn oed Tinopolis wedi tyfu yn bennaf ar gomisiynau drwy arian cyhoeddus y ´óÏó´«Ã½ ac S4C. Ychydig iawn o gyfalaf preifat sydd yna yng Nghymru, dyw'r term 'cyfalafiaeth menter' ddim yn un cyfarwydd i unrhywun.