Cyfri ceiniogau
Yfory fe fydd Cynghorau Cymru yn cael gwybod faint yn union o arian fydd yn cyrraedd eu coffrau o lywodraeth y cynulliad flwyddyn nesaf. 2.2% yw'r cynnydd ar gyfartaledd ond fe fydd nag amrywiadau. Os ydy'r sibrydion yn gywir fe fydd Powys, er enghraifft, ond yn derbyn cynnydd o gwmpas un y cant. Ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth mae hynny'n gyfystyr a thoriad o un a hanner y cant.
Er bod y cynghorau yn gandryll a'r setliad gallai'r sefyllfa bod yn waith. Mae'n debyg mai 1.7% o gynnydd oedd wedi ei glustnodi ar gyfer llywodraeth leol yn y fersiwn gyntaf o'r gyllideb.
Pam, felly mae'r llywodraeth wedi penderfynu colbio'r cynghorau? Wel mae 'na sawl reswm, dybiwn i. Yn gyntaf mae'n weinidogion yn wleidyddion craff. Er bod y cynghorau yn bygwth cynyddu trethi cyngor yn sylweddol go brin y bydd unrhyw awdurdod yn gwneud hynny ar drothwy'r etholiadau lleol sydd i'w cynnal ym Mis Mai. Mae cynghorwyr ar eu mwyaf cyfrifol a chybyddlyd adeg etholiad. Arbedion, gohirio cynlluniau a man doriadau fydd y patrwm, mae'n debyg.
Fe fydd prinder arian hefyd yn cynyddu'r pwysau ar gynghorau i gydweithio a'i gilydd a rhannu adnoddau. Yn dawel fach mae gwleidyddion o bob plaid yn y Bae o'r farn bod gan Gymru ormod o gynghorau gyda rhai fel Merthyr ac Ynys Môn yn gwasanaethu llai na thrigain mil o bobol.
Yn wleidyddol dyw adrefnu'r cynghorau ddim yn bosib ar hyn o bryd. Mae cefnogaeth cynghorwyr Cymru yn hanfodol i sicrhâi llwyddiant y refferendwm arfaethedig i gynyddu pwerau'r cynulliad. Wedi'r cyfan y cynghorwyr, yn fwy na unrhyw un arall, oedd yn gyfrifol am fethiant refferendwm 1979. Yn y tymor byr felly ceisio gorfodi cydweithio rhwng y cynghorau yw'r unig ddewis sydd gan y llywodraeth.
SylwadauAnfon sylw
Os yw'r Cynulliad eisieu bod yn radicalaidd ma na ddadl dros chwalu'r drefn presennol o lywodraeth leol a/neu symud cyfrifoldeb dros addysg a gwasanaethau cymdeithasol i'r cynulliad.
Dwi ddim yn gweld hwn yn digwydd ar chwarae bach yn enwedig gyda'r Toriaid yn pwysleisio "localism". Efallai syniad wirioneddol radical i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn y tymor byr ac yn y Gogledd dwi'n gweld angen dileu o leiaf un cyngor ar ymgeisydd amlwg yw Sir Ddinbych.
Mae angen cofio bod yr hinsawdd wleidyddol yn wahanol yn ôl ym 1979, a Mr Kinnock-a-dime a'i debyg wrthi'n taranu'n groch ynglyn â'r effeithiau andwyol, chwedl hwythau, a gâi Datganoli ar Gymru. Gobeithio, yn wir, fod y dyddiau hynny ar ben am byth.
Hefyd, mae angen cadw mewn cof yr athroniaeth oedd y tu ôl i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn ôl ym 1996 - David Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol torîaidd ar y pryd, oedd yn benderfynol o fwrw'r maen i'r wal, gan ddefnyddio Cymru fel arbrawf wrth gyflwyno awdurdodau unedol, heb unrhyw arwydd o gydsyniad gan bobl y wlad - nodweddiadol o unbennaeth dorïaidd arnom, heb ddim mandad o gwbl gan yr etholwyr! Y cwbl a wnaeth John Redwood wrth olynu Hunt oedd gohirio'r cynllun am flwyddyn. Gellid cymharu hyn yn deg â'r hyn roedd y torïaid wedi'i wneud ychydig ynghynt yn yr Alban, gan gyflwyno treth y pen yno gyntaf, ar sail arbrofol.
Rwy'n credu bod yr anhawster a brofwyd yn Sir Gaerfyrddin wrth chwilio am Gyfarwyddwr Addysg beth amser yn ôl yn awgrym o'r anawsterau sy'n wynebu gwlad fach os oes gormod o awdurdodau lleol - prinder ymgeiswyr addas am swyddi o bwys allweddol. Hefyd, mae angen cyfri'r gost (heb sôn am union gostau'r ad-drefnu yn y 1990au) - h.y. costau cyflogi'r holl uchel swyddogion hynny! Byddai cyflogi llai o Benaethiaid Adrannau yn debygol o ryddhau arian tuag at wella gwasanaethau.
Rwyf yn bendant o'r farn fod y torïaid yn y 90au wedi defnyddio'r Alban a Chymru, h.y. gwledydd bach na fyddent dros eu crogi wedi rhoi mandad i'r math hwnnw o lywodraeth, i gynnal arbrofion heb ystyried barn y bobl. O'r herwydd, mae angen edrych yn awr ar ffyrdd o gael gwared â'r awdurdodau lleol niferus sydd gennym, a chreu awdurdodau lleol mwy ymarferol, o gofio maint a nodweddion y wlad rydym yn byw ynddi (a hefyd i gael gwared â'r hyn a wthiwyd arnom oddi allan fel symbol o ormes).