Och gwae fi
Dw i wedi bod braidd yn esgeulus da'r blogio'r wythnos 'ma wrth i mi geisio deall y gyllideb a setliad y cynghorau. Mewn gwirionedd hwn yw'r darn anoddaf o'r job a chan nad wyf yn gyfrifydd na'n broffwyd mae ceisio barnu pwy sy'n dweud y gwir wrth i'r cynghorau ddarogan gwae a'r llywodraeth fynnu bod pethau "yn dynn ond yn deg" yn dasg digon anodd.
Blynyddoedd yn ôl roeddwn arfer troi am gymorth i ddeall y setliad at gyfaill oedd yn drysorydd Cyngor Abertawe. Roedd y sgwrs wastad yn cychwyn yn yr un modd gyda'r cyfaill yn dweud hyn "Right, Vaughan. There are only three people who understand this; one's dead, one's on holiday...and I'm expensive!"
Gan fod y cyfaill hwnnw bellach yn aelod o'r dosbarth cyntaf dyw'r cymorth hwnnw ddim ar gael. Serch hynny dw i'n meddwl bod y darlun yn dechrau dod yn eglur.
Er bod ambell i gynghorydd yn meddwl fy mod yn siarad rwtsh ac yn mynnu y bydd 'na ddiswyddiadau gorfodol a thoriadau mewn gwasanaethau yn y flwyddyn ariannol nesaf dw i'n amheus o hynny.
Gyda chynnydd o bump y cant yn y trethi cyngor a chyfri'r ceiniogau wrth gynllunio gwasanaethau a llenwi swyddi gweigion dw i'n amau y bydd y rhan fwyaf o gynghorau’n gallu dygymod a'r sefyllfa.
Yn eironig efallai, gan fod y setliad ychydig yn fwy hael, gallai pethau fod anoddach yn y ddwy flynedd ddilynol ar ôl i'r arbedion "hawdd" gael eu gwneud.