Wel...wel...wel
Rhai wythnosau yn ôl fe godais i a nifer o'm cydweithwyr gwestiynau ynghylch faint o amser oedd hi'n cymryd i benodi olynydd i Peter Clarke fel Comisiynydd Plant. Ar y pryd fe sgwennais i hyn;
"Bu farw Comisiynydd Plant Cymru Peter Clarke ym Mis Ionawr eleni. Roedd sefydlu ei swydd yn un o gyflawniadau mawr y cynulliad cyntaf, rhywbeth yr oedd gwleidyddion o bob plaid yn brolio amdani. Ond dyma i chi beth rhyfedd. Os ydy'r swydd mor bwysig pam ar y ddaear y mae'n cymryd cymaint o amser i'w llenwi?
Ymddangosodd yr hysbyseb am y swydd ym Mis Awst wyth mis ar ôl marwolaeth Mr Clarke ac mae'n annhebyg y bydd ei olynydd wrth ei waith tan Mis Chwefror neu Fis Mawrth flwyddyn nesaf."
Synnwyd aelodau'r llywodraeth gan y sylwadau hyn. Doedd neb o'r aelodau yn poeni am y sefyllfa... pam felly yr oedd newyddiadurwyr yn creu ffwdan? Wel, dw i ddim yn ceisio cymryd y clod am hyn ond heddiw cyhoeddwyd enw'r comisiynydd newydd sef Keith Towler. Cwestiwn arall felly. Beth ddigwyddodd i'r holl brosesau a rheolau oedd yn golygu na ellid disgwyl penodiad cyn y gwanwyn?