Cyffro'r Cynghorau
Diwrnod prysur heddiw yn ceisio gohebu i bob twll a chornel o ´óÏó´«Ã½ Cymru ynglÅ·n â biliau treth cyngor flwyddyn nesaf. Mae 'na ryw fyth yn fan hyn mai fi yw'r unig un yma sy'n deall system ariannu llywodraeth leol. Gwrandewch bobol, dydw i ddim. Dim ond tri o bobol sy'n deall y system ac mae un wedi marw, un arall ar wyliau a'r olaf yn gwrthod dweud.
Ta beth, cynnydd o rywle rhwng tri a phump y cant fydd yn wynebu'r rhan fwyaf ohonom pan ddaw'r biliau, mwy na chwyddiant ond llai na'r ffigwr mewn ambell i flwyddyn arall. Go brin fod y codiadau’n ddigon i ysgogi gwrthryfel ar ran yr etholwyr... fe fyddai toriadau mewn gwasanaethau’n debycach o wneud hynny, dybiwn i.
Serch hynny dwi'n dechrau edrych 'mlaen at ornestau Mis Mai. Mae gwleidyddiaeth cyngor Cymru yn fwyfwy difyr wrth i nifer y caerau un-blaid leihau gyda bron pob un cyngor bellach yn gystadleuol. Y broblem fydd wrth gwrs geisio dirnad unrhyw wers genedlaethol o frwydrau sydd o'u hanfod yn lleol ac yn wahanol i'w gilydd.
Dw i wedi sgwennu o'r blaen am y bygythiad enfawr y mae Llafur yn wynebu ym Mis Mai ond maen nhw'n brawf hynod o bwysig i'r Ceidwadwyr hefyd. Os oes 'na sylwedd i adfywiad y Blaid mae’n bryd profi hynny trwy ddechrau adennill y tir a gollwyd gan y Blaid yn yr wythdegau a'r nawdegau cynnar- erydiad lleol oedd yn arwydd o'r hyn oedd i ddod ar lefel San Steffan.
Gadewch i ni gofio ychydig o ffeithiau fydd yn rhyfeddu rhai ohonoch chi dan eich deg ar hugain. Ar yr un adeg roedd gan Ceidwadwyr fwyafrif ar gynghorau Casnewydd a Chaerdydd. Un ar hugain o gynghorwyr sy gan y Blaid rhwng y ddwy ddinas erbyn hyn. Mae hynny'n welliant ar yr un dyn bach oedd ar ôl ar droad y ganrif ond mae angen gwell.
Cynghorwyr yw asgwrn cefn unrhyw blaid wleidyddol. Dyw e hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod pob un Tori ar Gyngor Caerdydd yn cynrychioli wardiau yn etholaeth Gogledd Caerdydd, sedd a gipiwyd gan y Blaid yn etholiad y cynulliad. Drws nesaf yng Nghanol Caerdydd (hen sedd Ian Grist) does gan y Torïaid yr un cynghorydd ac yn etholiad y cynulliad enillodd y blaid lai na phymtheg y cant o'r bleidlais. Mae 'na gysylltiad.
Gallai adfywiad y Ceidwadwyr yn hawdd chwyth ei blwc oni osodir sylfaeni cadarn yn siambrau'r cynghorau.
SylwadauAnfon sylw
Efallai y bydd Plaid Cymru’n ennill seddau i lawr yn y De – synnwn i ddim pe bai’n cipio yn y cymoedd lle mae wedi bod yn gryf o’r blaen, ond rwy’n ofni y bydd y Blaid yn colli rheolaeth ar Wynedd ym Mai oherwydd Llais y Bobl, sy’n bygwth hollti pleidlais y cenedlaetholwyr mewn nifer o etholaethau. Mae cynghorwyr y Blaid mewn sawl etholaeth fel pe baent wedi tynnu nyth cacwn am eu pennau oherwydd y ddogfen gynhwysfawr a gyhoeddwyd ar ad-drefnu addysg gynradd yng Ngwynedd, felly byddaf yn synnu’n fawr os cadwiff y Blaid reolaeth ar y sir hon. Yr hyn fyddai’n ddiddorol fyddai pe câi pleidlais y cenedlaetholwyr yng Ngwynedd ei hollti i’r fath nes agor y drws i drydedd blaid sleifio i mewn oherwydd y system ‘cyntaf i'r felin’ hynafol sydd gennym o hyd. Mater arall fydd etholiadau San Steffan a’r Cynulliad, pryd y byddwn yn disgwyl i bleidleiswyr Llais y Bobl droi’n ôl at Blaid Cymru.