Darlith Dicw
Dw i newydd fod mewn darlith gan Richard Wyn Jones o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Fe fyddwn yn trafod hynny ar CF99 heno ac fe fydd hi'n bosib gwylio'r drafodaeth ar y safle yma yfory. Ond fel tamaid i aros pryd roedd gan Richard bethau mawr i ddweud heno yn enwedig wrth drafod Cymdeithas Sifil yng Nghymru.
Galwodd am gomisiwn i ymchilio i'r cyfryngau, tebyg i , i ystyried ffyrdd o sicrhâi plwraliaeth yn y cyfryngau Cymreig ond roedd ei feirniadaeth yn fwyaf hallt wrth drafod ei gyflogwyr ei hun- y sector addysg uwch.
Roedd hi'n feirniadaeth ers talwm bod Prifysgol Cymru yn gorff nad oedd yn fodlon edrych allan trwy ei ffenestri ei hun i astudio'r wlad a'r gymdeithas o'i chwmpas. Yn ôl Richard 'dyw pethau ddim wedi gwella ac mae'r ffaith nad yw hyd yn oed yr ymchwil academaidd mwyaf sylfaenol yn digwydd mewn meysydd fel tlodi, afiechyd a'r economi yn llesteirio gallu cyrff cyhoeddus Cymru i lunio polisïau ystyrlon ac effeithiol.
Annerch cynulleidfa o lobïwyr a gwleidyddion oedd Richard ac mae'n bosib ei fod yn gwneud dipyn o lobio ei hun. Wedi'r cyfan Adran Gwleidyddiaeth Aber yw un o'r ychydig adrannau sydd yn gwneud gwaith ymchwil i fywyd yng Nghymru. Serch hynny mae ganno bwynt. Llywodraeth y cynulliad yw prif ariannwr y sector. Ydy hin afresymol i ofyn i Brifysgolion Cymru roi rhywbeth yn ôl?
SylwadauAnfon sylw
Er gwybodaeth, mae Pwyllgor Menter a Dysgu'r Cynulliad - sy'n Bwyllgor Craffu trawsbynciol ac sydd ag addysg a'r economi o fewn ei gylch gwaith - yn ymgymryd ag ymchwiliad ar hyn o bryd i gyfraniad economaidd addysg uwch yng Nghymru. Disgwylir i'r Pwyllgor adrodd ar ei gasgliadau a gwneud argymhellion yn nhymor yr haf.
Mae Dicw yn gwneud pwynt diddorol ond, i fod yn onest, mae yna ddigon o sefydliadau yn canolbwyntio ac yn archwilio i fewn i economi Cymru dros y sector addysg uwch. e.e. dwi yn gyfarwyddwr yr Arsyllfa Mentergarwch Cymru sydd yn gwneud ymchwil i fewn i menter a busnesion bychain yng Nghymru. Hefyd mae yna Uned Ymchwil Economi Cymru, Arsyllfa Gwledig Cymru ac Uned Adfywio ym Mhrifysgol Caerdydd heb son am y brifysgolion eraill dros Gymru.
Felly d'oes dim problem hefo nifer y sefydliadau yma ond y faith nad ydynt yn cydweithio, siario gwybodaeth a rhwydweithio hefo'i gilydd!
Dim byd newydd, rydym ni fyfyrwyr wedi gwneud yr alwad yma i'r Brifysgol wneud mwy i Gymru ers tro ac mae hyn wrth gwrs yn un o'r rols pwysig dy ni'n rhagweld y bydd y Coleg Ffederal Cymraeg yn eich chwarae. Ceisiwch ddyfalu wrth draed pwy y bu i awduron y ddogfen strategaeth Coleg Ffederal Cymraeg ddysgu eu crefft?! Ond wrth gwrs dydy cyllideb Jane Hutt i'r polisi hwnnw ddim hyd yn oed yn cynnwys arian i gyflogi darlithwyr heb son am arian i gyflogi a chynnal canolfannau ymchwil.
Er gwybodaeth mae'r ddogfen yma.
Y pwynt perthnasol yw:
6.2.5 Meithrin cysylltiadau â chyrff a chwmnïau, sector breifat a chyhoeddus, fydd â diddordeb comisiynu ymchwil arbenigol fydd o ddiddordeb iddyn nhw. Fe fydd yr Adran Hyfforddiant yn cydweithio â’r Adran Ymchwil a Dysgu i hybu partneriaethau o'r fath rhwng y CFfC a chyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat.
6.2.5.1 Bydd yr adran hon (mewn partneriaeth â'r Adran Gyllid) yn ymgeisio am arian oddi wrth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a phreifat yn cynnig i'r CFfC ymchwilio mewn meysydd o ddiddordeb iddynt. Mae'r agwedd hon yn pwysleisio ymwybyddiaeth y coleg o'i rôl yn darparu gwybodaeth ac ymchwil arbenigol i wasanaethu Cymru.