Un i'r anoraciaid
Dyma gwestiwn bach diddorol. Ym mha etholaeth yn y Deyrnas Unedig mae nifer yr etholwyr wedi cynyddu fwyaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Pe na bawn i'n gwybod yr ateb byswn yn mentro swllt ar ryw le fel De Caerdydd a Phenarth neu etholaeth debyg yn un o ddinasoedd Lloegr lle mae fflatiau wedi bod yn codi fel madarch yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond nage wir. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol o'r chwe chant a rhagor o etholaethau yr un sydd a'r cynnydd mwyaf yw Cwm Cynon. Yn ôl y swyddfa mae'r nifer ar y gofrestr wedi cynyddu 5,523 neu ddeuddeg y cant. Gorllewin Belfast sydd nesaf ar y rhestr gyda chynnydd o ddeg y cant ond gan fod trigolion mynwentydd yr etholaeth honno â record dda am bleidleisio dw i ddim yn meddwl bod hi'n cyfri.
Beth sy'n gyfrifol am y cynnydd rhyfeddol yng Nghwm Cynon? Oes 'na ryw fflatiau moethus yn sydyn wedi ymddangos yn Abercwmboi? A welwyd stad enfawr o dai yn codi dros nos yng Nghwmbach? Go brin. Yr esboniad, dybiwn i, yw bod rhywun wedi bod yn recriwtio pleidleiswyr. Digwyddodd yr un peth yn y Rhondda rhai blynyddoedd yn ol gan ail-sefydlu'r ddau gwm fel cadarnleoedd Llafur. Os ydy Llafur yn gwneud yr un peth yng Ngwm Cynon mae gan Blaid Cymru le i fecso.
Cyn i unrhyw un fy nghamddeall mae unrhyw ymdrech gan unrhyw blaid i berswadio pobol i gofrestru a phleidleisio yn beth da ond does dim dwywaith bod pleidlais uchel yn Rhondda Cynon Taf wastad yn ffafrio Llafur.
Mae 'na fran i bob deryn du ac mae'n ymddangos bod y sefyllfa yn gwbwl gwahanol yng Nghaerffili- y fwrdeistref drws nesaf. Yr etholaeth lle mae'r nifer o bleidleiswyr wedi gostwng fwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf yw Islwyn (-10.4%) a chanlyniadau wardiau'r etholaeth honno sydd yn draddodiadol yn penderfynu p’un ai Llafur ai Plaid Cymru sy'n rheoli yn Ystrad Fawr.
SylwadauAnfon sylw
Anghwir yw eich dehongliad. Chi wedi anghofio bod ffiniau Cwm Cynon wedi newid - ychwanegwyd 2 ward i'r etholaeth ers yr etholiad diwethaf. Felly dyw'r ffigurau ddim yn golygu ddim byd.
Dyna oeddwn i'n meddwl i ddechrau ond digwyddodd y newid ffiniau ym Mis Gorffenaf 2006. Digwyddodd y cynydd rhwng Rhagfyr 2006 a Rhagfyr 2007.
Wedi edrych ar hwn mewn bach fwy o fanylder - ac wedi siarad gyda'r ONS. Newid ffiniau sy'n gyfrifol am hyn a dim oll arall! Arafwch RCT yn adrodd ffigyrau sy'n gyfrifol am y cynnydd ymddangosiadol, ond mae'n debyg nad yw ONS yn gwirio yn ofalus y ffigyrau chwaith.