Iaith ar waith
Pan oeddwn i'n grwt dw i'n cofio cael fy synnu o weld y geiriau "Dinas Caerdydd" yn ymddangos ar ochrau'r bysus oren. Hwnnw oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn unrhyw fath o ffordd swyddogol.Mae'n anodd cofio nawr pa mor anweladwy oedd y Gymraeg yn nwyrain Cymru tan ddiwedd y chwedegau. Ac eithrio ambell i arwydd capel ac ambell i enw stryd, Saesneg, a Saesneg yn unig oedd yn teyrnasu.
Mae pethau wedi newid erbyn hyn wrth gwrs ac mae'r newidiadau hynny'n parhau. Un newid nodweddiadol diweddar yw'r duedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig wrth enwi sefydliadau newydd. Ddoe er enghraifft cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer ysbyty cyffredinol newydd yng Nglyn Ebwy. "Ysbyty Aneurin Bevan" fydd enw'r lle. "Ysbyty Aneurin Bevan" sylwer nid "Ysbyty Aneurin Bevan Hospital". Yr un yw'r patrwm gydag Ysbyty'r Tri Chwm yn yr un ardal ac Ysbyty Ystrad Fawr yng Nghwm Rhymni.
Maw hwn yn gam bychan ond yn un reit bwysig o safbwynt normaleiddio'r Gymraeg. Cymerwch f'annwyl gyflogwyr fel esiampl. Ar raglenni Saesneg y gorfforaeth cyfeirir at "Ysbyty Gwynedd" gan mai hwnnw yw'r enw swyddogol ond "Glan Clwyd Hospital" sy'n cael ei ddefnyddio gan fod enw swyddogol y sefydliad hwnnw'n ddwyieithog.
Nawr dw i ddim yn dadlau am eiliad bod hyn yn achubiaeth i'r Gymraeg ond yn enwedig mewn ardaloedd fel cymoedd Gwent mae gwneud y Gymraeg yn weladwy ac yn rhan o fywyd bob dydd yn bwysig.
Cafwyd cam bach arall ymlaen i'r iaith gyda'r cyhoeddiad bod yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu cydnabod y Gymraeg fel "cyd-iaith swyddogol. Nawr dyw hynny ddim cweit cystal â bod yn iaith swyddogol- ac mae rhai o rheiny a llawer llai o siaradwyr na'r Gymraeg. Serch hynny mae'n golygu y bydd gan y Gymraeg yr un statws a'r Gatalaneg a'r Fasgeg. O hyn ymlaen fe fydd hi'n bosib defnyddio'r Gymraeg i ohebu â sefydliadau’r undeb ac i siarad Cymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Yr unig broblem yw mai'r cynulliad fydd yn gorfod darparu a thalu am y gwasanaeth. Mae cost gwasanaethau mewn ieithoedd swyddogol, y Wyddeleg er enghraifft, yn cael eu talu o goffrau'r undeb. Esgus arall dros eu wado nhw Ddydd Sadwrn.
SylwadauAnfon sylw
Mi fuasa hi'n ddiddorol gweld faint mae hi'n gostio i lywodraethau rhanbarthol Catalyunia ag Eskerra i ddefnyddio ei hiethoedd yn yr Undeb Ewropeiaidd.
Os rydan ni am weld y Gymraeg yn fwy amlwg mae angen newid y sustem gynllunio fel fod enwau strydoedd a stadau tai newydd yn enwau Cymraeg neu ar y lleia yn Saesneg ond hefo cysylltiad ar ardal leol. Dyma engreifftiau o enwau yn Gwersyllt, Wrecsam - Saxon Park, Dane Close, Viking Close ayb...Cymreigaidd iawn!!
Y gwaethaf i fi weld oedd "Chantrey Meade, Dowlais"!
Y cam nesaf fydd normaleiddio sillafiadau Cymraeg ar enwau a chael gwared â fersiynau Seisnigedig ohonynt – wedi’r cwbl, does dim angen ffurfiau fel ‘Resolven’ na ‘Caerphilly’ ochr yn ochr â ‘Resolfen’ a ‘Caerffili’. Rwy’n siŵr fod cant a mil o enghreifftiau felly ar gael!