Ceiniogau prin....
Pam fod 'na fwy o bobol wedi eu cofrestru â meddygon teulu Cymru na chyfanswm poblogaeth y wlad? Dyna yw'r cwestiwn sy'n poeni'r Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Yn ôl ffigyrau swyddogol roedd 'na 2,965,995 o bobol yn byw yng Nghymru yn 2006 ond 3,093,843 wedi eu cofrestri a'n meddygon teulu.
Yr esboniad yn ôl y Ceidwadwyr yw bod pobol o Loegr yn cofrestru â meddygon yng Nghymru er mwyn osgoi talu taliadau presgripsiwn a heddiw fe ryddhaodd y Blaid raff o ystadegau i geisio profi'r pwynt.
Yn anffodus i'r Ceidwadwyr mae'r ystadegau hynny'n amwys. Mae'n wir bod y nifer sydd wedi eu cofrestru wedi cynyddu'n gynt na'r twf yn y boblogaeth ers i daliadau presgripsiwn gael eu dileu. Y broblem yw bod yr un patrwm i weld ym mhob rhan o'r wlad, hynny yw, mae'r cynnydd gymaint yn Rhondda Cynon Taf ac yw hi yn Sir Fynwy a ffigwr Ceredigion yn ddigon tebyg i'r un yn Wrecsam. Pe bai dadansoddiad y Ceidwadwyr yn gywir oni fyddai'r cynnydd llawer yn fwy yn siroedd y ffin?
Mae honiad y llywodraeth bod y gwahaniaeth yn deillio o ffactorau megis myfyrwyr sy'n cofrestru ddwywaith a phobol sydd ar ddwy restr am gyfnod ar ôl symud tŷ yn cynnig cystal esboniad ac un y Ceidwadwyr.
Heb os mae 'na le i ddadlau dros ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd bod pobol o Loegr yn cymryd mantais o'r gyfundrefn feddygol yng Nghymru ond dyw'r Torïaid ddim wedi profi eu hachos hyd yma.
SylwadauAnfon sylw
Mi dybiwn fod rhywfaint o niferoedd dros ben yn anorfod hefyd wrth i bobl farw - tybed faint o amser y mae'n cymryd i'w henwau gael eu dileu o unrhyw beirianwaith swyddogol? Byddai'r un peth yn wir hefyd am unrhyw restr etholwyr - pe bai pawb oedd â hawl yn cofrestru i bleidleisio, byddai bob amser fwy o enwau nag o bleidleiswyr cig a gwaed tan y cyfrif nesaf yn yr hydref.