Nid fi oedd ar fai
Efallai eich bod yn credu fy mod wedi bod yn cysgu neu yn diogi. I ddyfynnu Shaggy "wasn't me"!
Am resymau technegol ni fu'n bosib diweddaru'r blog na chyhoeddi unrhyw beth yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Dylai pethau fod yn iawn o hyn ymlaen. Roedd yr eitem yma i fod i ymddangos Ddydd Iau diwethaf a chan bod y ddwy stori o hyd heb gael unrhyw sylw gwaeth i fi bostio hi nawr!
Ambell i waeth mae pethau'n digwydd yn y Bae a neb yn sylwi rhyw lawer. Roedd 'na ddwy enghraifft o hynny yr oeddwn yn dymuno tynnu sylw atyn nhw.
Yn gyntaf cafwyd y ddadl ar y cynllun i ddifa moch daear mewn ymdrech i leddfu ar effeithiau'r diciâu ar ein ffermwyr. Nawr er bod y ddadl yn un fywiog roedd sawl un yn gofyn beth oedd ei phwrpas. Wedi'r cyfan pam cynnal dadl ynglŷn â phenderfyniad oedd eisoes wedi ei gyhoeddi gan y llywodraeth? Mae'r pwynt yn un ddigon teg ond roedd canlyniad y bleidlais yn hynod ddadlennol.
Pwy oedd yn cefnogi'r llywodraeth? Yr ateb rhyfedd i'r cwestiwn hwnnw yw'r mwyafrif llethol o aelodau Plaid Cymru a'r ddwy wrthblaid. Roedd Llafur (prif blaid y llywodraeth ,cofiwch) wedi ei hollti lawr y canol. Pleidleisiodd aelodau Llafur o'r llywodraeth yn unfryd o blaid y cynllun. Ac eithrio Alun Davies fe bleidleisiodd pob un aelod Llafur o'r meinciau cefn yn erbyn. Oedd 'na arwyddocâd i hynny- rhyw hollt ddofn yn y rhengoedd Llafur efallai neu ydy hi'n adlewyrchu gwahaniaethau barn naturiol rhwng cynrychiolwyr ardaloedd gwledig a rhai trefol? Tipyn o'r ddau dybiwn i.
Yr ail beth rhyfedd yr wythnos ddiwethaf oedd y gystadleuaeth am y cyfle i gyflwyno mesur (hynny yw deddf) preifat. Yn San Steffan mae bron pob un aelod o'r meinciau cefn yn cystadlu am y fraint honno. Yn y Bae dim ond pedwar aelod wnaeth rhoi eu henwau i mewn- y pedwar, gyda llaw, yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Mae'n wir bod y meysydd lle mae gan y Cynulliad yr hawl i basio mesurau yn hynod gyfyng ar hyn o bryd ond gyda'r holl frefi am yr angen am gael ragor o hawliau i ddeddfu oni ddylai'r aelodau fod yn fwy brwdfrydig i ddefnyddio'r rheiny sy'n bodoli eisoes?
SylwadauAnfon sylw
Wrth siarad am ddigwyddiadau bant o'r radar (yn y Gymraeg o leia), beth am y pentre yn Sir Gaer sydd wedi pleidleisio i ymuno a Chymru (o achos presgrisiwns am ddim ayb)?
Ydy pwer deddfu'r Cynulliad am wirdroi dros mil o flynyddoedd o hanes?
Sgwn i beth mae Ceidwadwyr Sir Fynwy yn meddwl am hyn?