Cicio Pwyllgor
Mae pwyllgor craffu'r Adran Gyfiawnder wedi teithio o San Steffan i'r Bae heddiw fel rhan o ymchwiliad i gyflwr y llywodraethau datganoledig ddeng myned ar ôl eu sefydlu.
Uchafbwynt y prynhawn, heb os, fydd gwrando ar Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd Julie Morgan yn croesholi Prif Weinidog Cymru. A fydd y ddau yn siarad â'i gilydd dros y bwrdd brecwast yn Llanfihangel yfory tybed?
Mae'r sesiynau eraill wedi bod yn rhai sydd o ddiddordeb enfawr i anoracs cyfansoddiadol ac i neb arall. Nid bod hynny'n golygu nad yw'r pynciau sy'n cael eu trafod yn bwysig i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu.
Achubodd Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis Thomas ar y cyfle i roi cic i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig a'r ffordd mae'n ymdrin â cheisiadau'r Cynulliad am hawliau deddfwriaethol. Ar ôl canmol y ffordd y mae pwyllgor cyfansoddiadol Tŷ'r Arglwyddi yn ymdrin ag LCOs awgrymodd bod 'na wersi i'w dysgu gan Dy'r Cyffredin. Doedd dim rheswm cyfreithiol dros gyfeirio'r LCOs at y Pwyllgor Dethol Cymreig, meddai, oni fyddai'n well eu cyfeirio at bwyllgor llai gwleidyddola mwy gwrthrychol?
Os deallaf yr hyn yr oedd y Llywydd yn dweud yn iawn mae e wedi alaru ar yr hyn y mae'n gweld fel potsio gwleidyddol gan Aelodau Seneddol Cymru ac yn credu y byddai pwyllgor yn cynnwys Aelodau Seneddol o rannau eraill o Brydain yn llai tebygol o wneud hynny.
Ymhlith yr Aelodau Seneddol wnaeth holi'r Llywydd oedd Alun Michael, y cyn Brif Ysgrifennydd a gollodd ei swydd mewn sesiwn stormus o'r cynulliad ar ôl i Dafydd Elis Thomas wrthod derbyn ei ymddiswyddiad. Doedd na ddim arwydd bod drwgdeimlad yn parhau rhwng y ddau serch hynny go brin fod y cyfarfod yn brofiad cysurus i'r naill wleidydd na'r llall.