A'r enillydd yw...
Fedrai ddim ychwanegu rhyw lawer at yr helynt ynglŷn â'r gweinidog treftadaeth yn enwi'r awdur anghywir fel enillydd gwobr llyfr y flwyddyn. Doeddwn i ddim yno ac mae'r lluniau'n siarad drostyn nhw ei hun o safbwynt maint yr embaras.
Cofiwch chi, o gymharu â'r sefyllfaoedd mae ambell i wleidydd wedi ei wynebu go brin y bydd Rhodri Glyn yn cochi gormod. Fel cysur i'r gweinidog dyma ddetholiad bychan o sefyllfaoedd trwstan y mae gwleidyddion wedi wynebu.
Beth am y gwleidyddion hynny sydd wedi bod yn ddigon anffodus i golli eu trowsus? Fe ddigwyddodd hynny i Geoffrey Howe yn ôl yn 1982. Dihunodd canghellor Mrs Thatcher mewn caban cysgu ar drên i ddarganfod fod lladron wedi dwyn ei ddillad. Mae'n adrodd cyfrolau am Syr Geoffrey bod pawb wedi derbyn yr esboniad hwnnw!
Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach daethpwyd o hyd i gyn prif weinidog Awstralia Malcolm Fraser yn gwisgo dim byd ond tywel yn nerbynfa gwesty rhad ym Memphis oedd yn gyrchfan i buteiniaid a masnachwyr cyffuriau. Esboniad gwraig Syr Malcolm oedd ei fod wedi ei adael yn y fath gyflwr "fel jôc" gan aelodau eraill o'r "Commonwealth Eminent Persons Group" oedd yn ceisio datrys problem De Affrica ar y pryd.
De Affrica oedd wrth wraidd embaras mawr Peter Hain hefyd er yn yr achos hwn does dim amheuaeth bod y gwleidydd ei hun yn gwbwl di-fai. Arestiwyd Mr Hain am ladrad arfog o fanc yn 1974 o ganlyniad i gynllwyn gan wasanaethau dirgel De Affrica. Cafwyd e'n ddieuog o'r drosedd ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Awdur ei anffawd ei hun oedd Aelod seneddol Leith Ron Brown. Cafodd ei ddiarddel o'r Blaid Lafur ar ôl i lys ei gael yn euog o dorri fewn i fflat ei gariad a difrodi ei heiddo. Cafwyd e'n ddieuog o ddwyn rhai o'i dillad isaf. Roedd hynny yn ôl Mr Brown yn "fuddugoliaeth foesol"
Ond does dim un digwyddiad gwaeth na'r un diarhebol na wnaeth ddigwydd i Brown arall. Roedd George Brown yn yfwr o fri ac yn ddirprwy arweinydd ac Ysgrifennydd Tramor i Harold Wilson. Yn ôl yr hanes gofynnodd i fenyw ddeniadol ddawnsio ag e yn ystod ymweliad a De America. Derbyniodd yr ateb yma; "I will not dance with you for three reasons. The first is that you are drunk. The second is that the band is not playing a waltz, but the Peruvian national anthem. The final reason is that I am the Cardinal Archbishop of Montevideo". Yr hyn sy'n ddiddorol am y stori yma yw bod bron pawb yn y chwedegau yn ei chredu er nad oedd 'na fymryn o wirionedd yn perthyn iddi. Roedd hi'n haeddu bod yn wir rhywsut- ac efallai bod 'na wers yn hynny.
SylwadauAnfon sylw
Ychydig wythnosau nôl roedd Rhodri Glyn a'r pwyllgor darlledu yn cwyno nad oedd y cyfryngau yn Llundain yn rhoi digon o sylw o faterion Cymreig.
Diolch i'w gamgymeriad (sylw amlwg ar y wefan newyddion, a ´óÏó´«Ã½ Breakfast bore 'ma) mae gweddill Prydain nawr yn gwybod fod y fath beth a gwobrau 'Llyfr y flwyddyn' yn bodoli yng Ngymru. Mwy o gocyps plîs Rhodri!