´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

E(lfyn)-ddemocratiaeth

Vaughan Roderick | 12:04, Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2008

Difyr yw darllen maniffesto Elfyn Llwyd ar gyfer llywyddiaeth Plaid Cymru ac mae gen i slogan addas ar ei gyfer sef "Ymlaen i'r Gorffennol!"

Yn y dyddiau electronig e-ddemocrataidd yma mae'n ymddangos nad yw'r chwyldro digidol eto wedi cyrraedd Meirionnydd Nant Conwy. Does nemor ddim son am Facebook,My Space blogs a'u tebyg yng nghynlluniau Elfyn. Yn hytrach sonnir am daflenni, pamffledi, ysgolion haf a hyd yn oed canolfan breswyl.

Wrth gerdded adref neithwyr wnes i daro i mewn i rywun sy'n agos at Elfyn a chrybwyll y diffyg yma. Yr ymateb; "Os oeddwn i'n tecstio fo byswn i ddim yn disgwyl ateb am o leiaf pum mlynedd arall!"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:48 ar 5 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Mi yrais i ebost i'w gyfeiriad o ar y we, wythnosau'n ol a dwi'n dal i ddisgwyl ateb!! Mae Elfyn yn technophobe go iawn.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.