Ffrio yn Bae
Rwy'n dwli ar Ddydd Gwener yn y Bae. "Fry up Friday" yw llys enw'r diwrnod i'r rheiny ohonom sy'n gweithio yn NhÅ· Hywel. Gyda'r gwleidyddion wedi gwasgaru mae'r bwydydd iachus soffistigedig hefyd wedi diflannu o'r ffreutur. "Sausage in batter" felly yn hytrach na "Salmon en Croute" a phastai'r bugail yn lle pesto a pasta, Gwyn ein byd! Gan fod hi'n ddydd Gwener mae 'na bodlediad newydd. Y gwestai'r wythnos hon yw Daniel Davies gohebydd PA yn y cynulliad. Gasgwch y botwm ar y dde.
SylwadauAnfon sylw
Roedd pastai cig eidion ac arennau hyfryd heddi yn y ffreutur, ond rhaid fod gennych safonau isel o ran bwyd os credwch chi taw bwyd soffistigedig sydd yn cael ei gynnig yno gan amla!