Roedd y temtasiwn yn ormod i chithau hefyd rwy'n sicr. Yr eiliad y cyhoeddodd Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr fanylion eu treuliau doedd dim dewis ond mynd i gael cipolwg ar wariant yr aelodau Cymreig! Mewn gwirionedd does na ddim llawer gwerth nodi ac eithrio efallai bod Stephen Crabb yn cyflogi aelod o'i deulu a bod Cheryl Gillan yn hoff o aros yng Ngwesty'r Saint David's wrth ymweld a Chaerdydd.
Mae'n werth nodi bod y tri aelod wedi manteisio ar y lwfans cyfathrebu. Gwariodd David Davies £7,494.76 ar gyfathrebu a'i etholwyr. Fe wariodd Stephen Crabb £2,485.13 tra roedd David Jones yn dipyn o gybydd o safbwynt gwario arian cyhoeddus gan hawlio £96.
Hwn oedd y lwfans aeth a rhai o Aelodau Seneddol Plaid Cymru i drafferth yn ystod etholiad y cynulliad y llynedd. Mae'n lwfans cymharol newydd sy'n talu am gost cynhyrchu cylchlythyrau ayb i gyfathrebu ac etholwyr. Os ydych chi'n derbyn taflen trwy'r drws yn llawn o luniau o'ch Aelod Seneddol, yn lliwiau ei blaid ond heb enwi'r blaid honno gallwch fentro'n hyderus mai'r chi'r trethdalwr sydd wedi talu.
Mae 'na ddadleuon o blaid ac yn erbyn lwfans o'r fath. Mae'r ffin rhwng cyfathrebu a phropaganda yn gallu bod yn annelwig ond does dim dwywaith bod deiliad sedd yn elwa'n wleidyddol o'r lwfans hwn. Y peryg amlwg yw ei fod yn gam tuag at sefyllfa debyg i'r un yn yr Unol Daleithiau lle mae hi bron yn amhosib ennill etholiad yn erbyn deiliad sedd.
Yn eironig efallai, mae'n ymddangos bod cynrychiolwyr yr etholaethau mwyaf ymylol, fel David Jones, yn llai tebygol o ddefnyddio'r lwfans na'r rheiny mewn seddi mwy diogel. Efallai bod 'na rhyw fath o gydbwysedd rhyfedd yn fan hyn. Hyd y gwn i does neb yn credu y bydd David Davies yn colli Mynwy y tro nesaf. O'r herwydd mae'n annhebyg y byddai unrhyw yn ei gyhuddo o geisio mantais bleidiol anheg trwy ddefnyddio'r lwfans. Mewn etholaeth ymylol fe fyddai cyhuddiad o'r fath a mwy o sail iddo ac oherwydd hynny mae'r aelod yn llai parod i fanteisio.