Bil a Ben
Mae Gordon Brown newydd ennill cymeradwyaeth fyddarol ym Manceinion wrth iddo gyhoeddi na fydd pobol sy'n dioddef o gancr a chlefydau tymor hir eraill yn Lloegr yn gorfod talu am bresgripsiwn yn y dyfodol . Digon teg. Ond tybed beth fydd ymateb y Gweinidog Iechyd, Ben Bradshaw?
Dw i'n siwr eich bod chi'n cofio Mr Bradshaw- y dyn wnaeth ddweud wythnos union yn ol;
I get fed up being told by some of the media that England suffers from health apartheid ... because millionaires in Wales get their prescriptions free or Scotland plans to allow anyone who wants to to park in busy hospital car parks for free.What about the fact that in England you get your operation much more quickly, you don't have to wait for more than 4 hours in A and E any more and it's easier to see a GP when you want.These things matter more to the public, we're delivering them in England and we've doing so while spending less per head on health than in Scotland and Wales.
Dw i'n sicr hefyd eich bod chi'n cofio geirau Harold Wilson bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth!
SylwadauAnfon sylw
Y peth doniol am sylw Mr Bradshaw yw "millionaires in Wales". Sawl miliwnydd sydd 'na yng Nghymru 'te? Yn ôl ymchwil Coutts mae dros 4,400 miliwnydd 'posib' yng Nghymru ond mae rhan fwyaf o'r rheiny yn dibynnu ar werth eu tai a buddsoddiadau ar y farchnad stoc. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol felly, does dim llawer o werth i'w asedau.