Cwffio yn KL
Dyma i chi ffordd newydd o ddelio ac Aelodau Seneddol trafferthus. Mae 'na argyfwng gwleidyddol ym Malaysia ar hyn o bryd a allai arwain at newid llywodraeth yno am y tro cyntaf ers i'r wlad sicrhâi ei hannibyniaeth yn 1963.
Yn y bôn mae arweinydd clymblaid y gwrthbleidiau, Anwar Ibrahim, yn ceisio darbwyllo llond dwrn o gefnogwyr y llywodraeth i groesi llawr y Tŷ er mwyn diswyddo'r Prif Weinidog, Abdullah Ahmad Badawi. Mae Mr Abdullah wedi ymateb trwy ddanfon deugain o'i gefnogwyr mwyaf simsan ar daith i astudio amaethyddiaeth yn Taiwan!
Doniol efallai ond mae'n werth cadw llygad ar ddatblygiadau ym Malaysia gan fod y sefyllfa yno'n dirywio'n gyflym. Oherwydd cyfyngiadau ar ryddid newyddiadurol mae'r gwrthbleidiau wedi dibynnu'n helaeth ar y we i ledaenu ei neges. Y bore 'ma mae'r llywodraeth wedi dechrau arestio blogwyr a blocio safleoedd.
Nawr, mae hyn o ddiddordeb i mi gan fod gen i berthnasau yn Selangor a KL- ond fe ddylai fod o bwys i bawb. Mae gan Falaysia boblogaeth hynod o gymysg o ran crefydd ac ethnigrwydd ac mae'n un o'r ychydig wledydd a mwyafrif Mwslimaidd sydd yn gymdeithas fodern a chymharol agored. Trigain mlynedd yn ôl bu bron i'r wlad gwympo'n ddarnau gyda'r gwahanol grwpiau wrth yddfau ei gilydd. Os oedd hynny'n digwydd eto fe fyddai'r effeithiau yn ddifrifol nid yn unig i Asia a'r byd Mwslimaidd ond i bob un ohonom.