´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dy'n ni ddim am fynd i Firmingham...

Vaughan Roderick | 18:54, Dydd Sul, 28 Medi 2008

Draw ar flog Betsan mae 'na newyddion ynghylch adroddiad hir-ddisgwyliedig Wyn Roberts ar bolisi datganoli'r Ceidwadwyr. Yn ôl Betsan (a dyw fy nghyd-olygydd byth yn anghywir am y pethau hyn) dyw 'r adroddiad ddim yn mynd i gael ei gyhoeddi yn ystod Cynhadledd y Ceidwadwyr. Fe fydd hynny'n siomi nifer o Geidwadwyr Cymreig amlwg.

Ond pam yr oedi? Ydy'r adroddiad yn un ymfflamychol a allai ychwanegu at y rhwygiadau o fewn y blaid? O'r hyn dw i'n clywed y gwrthwyneb sy'n wir. Methiant Arglwydd Roberts i gyrraedd casgliadau pendant ar ddiwedd adroddiad hir a manwl sydd wrth wraidd y broblem. Hynny yw, mae'r dadansoddiad o broblemau'r cynulliad, mae'n debyg, yn un penigamp ond does na fawr o ymdrech i gyfeirio'r blaid i unrhyw gyfeiriad arbennig nac i gynnig atebion.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:24 ar 28 Medi 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Diddorol - rhaid bo na bwysau o Faldwyn a Chonwy.....ond wn i ddim am Fynwy a Chasnewydd..

  • 2. Am 22:16 ar 30 Medi 2008, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Methiant yr Arglwydd Roberts i gyrraedd casgliad !
    Wel , dyna syndod.
    Bu'r bonheddwr yma'n aelod seneddol arnaf am flynyddoedd. Serch ei fod yn wir wr bonheddig (ac ef oedd yr olaf i gynnal cyfarfodydd etholiadol traddodiadol ym Mangor) , ac yn A.S. ardderchog, ni chafodd erioed yr un syniad gwreiddiol yn ei fywyd. Gallai fwydro dros Gymru (neu Brydain, yn ei achos ef) heb ddweud dim. Gallai fod wedi cynrychioli'r bedair brif blaid heb newid mymryn ar ei ddaliadau. Druan o David Cameron os yw'n chwilio am argymelliad sylweddol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.