´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tan gwmwl

Vaughan Roderick | 10:34, Dydd Mercher, 17 Medi 2008

Pam mae argyfyngau ariannol wastad yn digwydd yn ystod cynadleddau'r Democratiaid Rhyddfrydol? Gall yr un newyddiadurwr oedd yn bresennol yn Harrogate yn ystod "black wednesday" anghofio'r diwrnod hwnnw. Wrth i'r cynadleddwyr barhau i drafod trethi gwyrdd, hawliau lleiafrifol neu beth bynnag oedd ar yr agenda fe wagiodd ystafell y wasg wrth i bawb heglu hi am Lundain. " Great story...great story...of course I've lost my house..." oedd geiriau un cyfaill i mi wrth iddo ymuno a'r exodus.

Gan fy mod wedi pechu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddiweddar fe ddylwn i ychwanegu'n syth nad ydw i'n beio'r blaid honno am yr hyn sy'n digwydd ar y marchnadoedd arian yn ddiweddar! Ar ôl dweud hynny fe fydd y blaid yn diawlio'i hanlwc bod ei chyfle mawr i gyflwyno ei pholisïau i'r etholwyr wedi ei golli - a hynny oherwydd ffactorau ymhell y tu hwnt i'w rheolaeth. Am wn i mae bran y Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o dderyn du i Gordon Brown gan ddenu'r sylw i ffwrdd o'r gwrthryfel yn erbyn ei arweinyddiaeth. Ar y llaw arall mae gorfod delio'r gyflafan ar y marchnadoedd yn gythraul o bris i dalu am gladdu newyddion drwg!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:27 ar 17 Medi 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Giyda arweinydd sy'n credu bod y pensiwn yn £30 yr wythnos rwy'n eithaf falch bo rhain ddim mewn grym ar hyn o bryd......

  • 2. Am 21:51 ar 17 Medi 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Pam dim sylwadau ??? Yr erthygl yn ardderchog!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.