Y Price Free Press
Un o'r pethau am flogio yw eich bod chi'n gallu gwyntyllu syniad neu sylw a pha mor bynnag wirion yw'r peth mae'n debyg y bydd rhywun yn rhywle yn ei ddarllen. Mae'n golygu ychydig bach o waith wrth gwrs ac mae'n ddigon posib na fyddai cyfanswm y gynulleidfa yn ddigon i lenwi'r festri.
Mae 'na ffordd haws a mwy effeithlon o rannu'ch safbwyntiau. Yr hyn sydd angen arnoch chi yw lladmerydd, rhiw oracl delffaidd i adleisio eich neges, pregethwr i ledaenu'r newyddion da.
Mae Adam Price yn ddyn ffodus. Mae e wedi llwyddo i ffeindio'r union ladmerydd, yr oracl perffaith, pregethwr huawdl sydd a deugain mil o bobol yn ei braidd. Mae'n ymddangos mae'r cyfan sydd raid i Adam ei wneud yw peswch a bydd y Martin Shipton yn sicrhâi bod y pesychiad hwnnw yn haeddu tudalen llawn yn y Western Mail.
Yr wythnos hon yn unig, cafwyd erthygl hir gan Martin am y ffaith bod aelod seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn dathlu ei ben-blwydd, dwy stori ynghylch ei alwad am gronfa cyfoeth sofran i Gymru ac un arall yn galw am drefnu dim rygbi Ewropeaidd i gymryd lle'r Llewod Prydeinig.
Dyna i chi bedwar neu pum tudalen o gyhoeddusrwydd mewn wythnos- faint fyddai hynny'n costi mewn hysbysebion tybed?
SylwadauAnfon sylw
Dyw hwn ddim yn teg iawn. Mae Adam yw un o gwleidyddion gorau sy da ni yng Nhymru. Os chi wir eisiau beirniadu ein gwleidyddion ni mae na targedau well na Adam.
Beth yw dy bwynt Vaughan? Efalle byddai'n gwell gennyt petai Shipton yn rhoi tudalenau di-ri at ryw wleidydd sy'n rhoi Prydain yn gyna'?
Mae'n fyd rhyfedd lle mae nodi gallu gwleidydd i sicrhai cyhoeddusrwydd yn cael ei ystyried yn feirniadaeth ohono!