Fan Hyn, Fan Draw
Mae'n beth amser ers i mi gynnig casgliad o ddolenni i'ch diddori. Mae datblygiadau ar y we Gymraeg yn rhoi'r esgus i mi wneud.
Yn gyntaf datblygiadau cyffrous ar wefan Barn...neu Barn 2.0 i ddefnyddio'i henw newydd. Dyma esboniad Dyfrig;
Bydd ymwelwyr i Barn 2.0 - y wefan newydd - yn gallu darllen erthyglau a cholofnau llawn o'r rhifyn diweddaraf, yn ogystal â deunydd wedi ei gomisiynu yn benodol ar gyfer y we. Wedi darllen yr erthyglau, bydd gan ymwelwyr i'r wefan y cyfle i adael sylwadau, a thrafod cynnwys yr erthyglau. Ar ben hyn i gyd, bydd modd darllen holl benawdau newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru ar Barn 2.0. Bydd y cyfan yn fyw ar 7fed o Hydref ymlaen.
Dyna i chi Barn felly yn ogystal â'r yn ceisio achub y blaen ar wasanaeth newydd . Cefnogwyr "Y Byd" - chi sy'n haeddu'r diolch am hyn. Gobeithio bod hynny'n gysur!
Mae ambell i raglen deledu Cymraeg wedi dechrau ymddangos ar iPlayer y ´óÏó´«Ã½ ynghyd a rhaglenni Radio Cymru a ´óÏó´«Ã½ Alba. Gyda llaw mae rhyngwyneb yr iPlayer ar gael yn Gymraeg. Y cyfan sydd angen gwneud yw clicio ar y botwm "Cymraeg" ar waelod yr hafan ddalen. Peidiwch a becso- cynnig dewis ychwanegol yw bwriad y datblygiadau yma. Does dim byd yn diflannu o safle gwylio rhagorol .
A dyma gasgliad o flogs a safleoedd rhyngwladol dw i'n eu darllen yn ddyddiol (heb fod mewn unrhyw drefn arbennig) (UDA) (UDA) (UDA)
(rhyddid gwleidyddol ar y we) (Seland Newydd) a'r dewraf o'r cyfan .