Dydw i ddim yn gwybod pam bod dynion yn obsesio ynglŷn â phethau. Ar y cyfan dyw merched ddim yn trafferthu i gasglu ystadegau chwaraeon neu etholiad neu dynnu lluniau o drenau ager neu adar.
Rwy'n ofni weithiau bod gen i obsesiwn am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Efallai mai fi yw'r unig berson yn y bydysawd sy ddim yn Ddemocrat Rhyddfrydol sydd a'r obsesiwn hynny. Am wn i mae'n deillio o'r ffaith fy mod fel y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn dod o deulu oedd am genedlaethau yn anghydffurfiol ei grefydd ac yn Ryddfrydol ei wleidyddiaeth. Mae ceisio deall sut yn union y trodd plaid Mabon a Lloyd George i fod yn blaid Opik a German a cheisio dyfalu a oes dyfodol iddi yn bwnc sydd bob tro yn hela fi i feddwl.
Y cwestiwn y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn casáu ei glywed yw "beth yw pwrpas y blaid?". Y gwir amdani, wrth gwrs, yw na fyddai'r cwestiwn yn parhau i gael ei ofyn pe bai na ateb da wedi ei gynnig.
Y broblem yw bod yr etholwyr yn deall, yn reddfol bron, beth sydd wrth hanfod y pleidiau eraill- beth sy'n symbyli ac ysbrydoli eu cefnogwyr. Amddiffyn Prydeindod traddodiadol yw sylfaen y weledigaeth Geidwadol, cyfartaledd cymdeithasol sy'n symbylu Llafur a diogelu arwahanrwydd Cymru yn prif bwrpas Plaid Cymru. Dyw'r pleidiau wrth gwrs ddim bob tro yn cyflawni eu hamcanion. Mae Prydain, er enghraifft, ar rai mesurau, yn llai cyfartal nawr nac oedd hi pan etholwyd Tony Blair ond mae "cyfartaledd cymdeithasol" o hyd yn angor athronyddol i'r Blaid Lafur.
Fedrai ddim meddwl am ddisgrifiad bachog tebyg ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyw dweud eu bod yn credu mewn "Rhyddfrydiaeth" ddim yn ddigon. Pa fath o Ryddfrydiaeth? Rhyddfrydiaeth economaidd Gladstone ac ysgol Manceinion neu egin sosialaeth Lloyd George a Beveridge? Mae hawliau sifil ac unigol yn sicr yn rhan o'u gweledigaeth ond dim ond rhai hawliau. Peidiwch â disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol amddiffyn eich hawl i smocio na gyrru SUV a thra eu bod yn fodlon amddiffyn eich hawl i wneud beth fynnoch chi yn yr ystafell wely maen nhw'n ddigon parod i i orchymyn i ba liw bag y'ch chi'n rhoi'ch sbwriel yn y gegin.
Eto i gyd mae'r gair "Rhyddfrydol" yna yn golygu llawer i aelodau'r Blaid. Rwy'n cofio Leighton Andrews (o bawb) yn ei ddagrau, bron, yn pledio i'r gair gael ei gynnwys yn enw'r blaid newydd a ffurfiwyd gan ddwy blaid y cynghrair. Ond yn rhyfedd ddigon efallai mai'r gair "Democratiaid" sy'n cyfleu gwir natur y blaid. Meddyliwch am y pethau y mae ei haelodau yn eu hystyried yn bwysig. System bleidleisio "teg", atebolrwydd mewn llywodraeth leol, system ffederal, sefydliadau rhyngwladol i ddiogelu hawliau sifil, rhyddid barn a mynegiant- mae'r rhain i gyd yn bethau y gellid ei ystyried yn hanfodol ddemocrataidd.
O edrych ar y blaid yng nghyd-destun Democratiaeth yn hytrach na Rhyddfrydiaeth mae'r gwahaniaeth rhyngddi a'r pleidiau eraill yn fwy eglur a'i sylfaen athronyddol yn fwy amlwg.
Beth sydd a wnelo hynny a strategaeth y Blaid? Dim ond hyn. Dydw i ddim yn meddwl bod y gair "Rhyddfrydol" yn golygu rhyw lawer i'r cenedlaethau iau o bleidleiswyr. Ydyn, maen nhw'n ryddfrydol yn eu moesoldeb personol - ond fel 'na y cawson nhw eu magu ar ôl i'w rhieni ennill rhyfeloedd diwylliannol y chwedegau. Mater o ffaith nid safbwynt gwleidyddol beiddgar yw eu hagweddau agored tuag at leiafrifoedd ethnig, crefyddol a rhywiol.
Ond mae'r cenedlaethau iau yn ddemocratiaid i'r carn. Beth sy'n fwy democrataidd na Facebook, My Space a Bebo, cymunedau o bobol yn cyfathrebu a'r gilydd ar delerau cwbwl cyfartal? Gallai cenhedlaeth sydd yn cymryd y gallu i ryngweithio yn ganiataol fod yn agored i blaid wleidyddol sydd a'i chryfder yn ei threfniadaeth leol a'i haelodau cyffredin ac sydd ddim yn dilyn y patrwm o wleidyddiaeth "top i lawr" sy'n nodweddi'r pleidiau eraill.
Os ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu cysylltu â'r "zeitgeist" yna fel y gwnaeth Democratiaid America efallai y byddai 'na ddyfodol disglair i'r blaid wedi'r cyfan.