Gwaed ar eu dwylo
Mae Llafur yn ceisio troi'r gyllell yng nghefn Nick Bourne. Mewn araith yng Nghaerdydd heno fe fydd Leighton Andrews yn honni bod dyddiau arweinydd yr wrthblaid wedi eu rhifo.
Dadl Leighton yw bod adroddiad Roberts wedi tanseilio awdurdod Nick ac mai'r aelodau seneddol Cymreig sydd bellach wrth y llyw.
The Roberts Report, which commits the Tories to yet another full-scale review of devolution, is personally humiliating for Nick Bourne who has spent the last decade trying to convince us all that the Tories really have changed. The Tories' acceptance of Wyn Roberts' report suggests that Nick Bourne is no longer in control of his party... the days of a pro-devolution Welsh Conservative party are over... Nick Bourne's days are numbered. He will be watching his back from now on.
Gan adael y ffaith bod yr un tensiynau rhwng San Steffan a'r Bae (os nad gwaith) yn bodoli yn rhengoedd y Blaid Lafur i'r naill ochor mae'n werth ystyried pa mor gadarn yw gafael Nick ar yr arweinyddiaeth.
Yn gyntaf does dim dwywaith bod Nick wedi gwneud drwg mawr i'w hun trwy gymeradwyo ac yna condemnio'r adroddiad a baratowyd gan ei staff ynghylch record Rhodri Morgan. Mae'r ffaith bod arweinydd y Ceidwadwyr wedi gorfod bychanu ei hun trwy ymddiheuro'n gyhoeddus i'w staff yn arwydd difrifol o wendid.
Y digwyddiad hwnnw yn hytrach nac adroddiad Roberts yw prif broblem Nick ar hyn o bryd. Dyw'r berthynas rhyngddo a'r grŵp Ceidwadol a'i staff personol heb ei hadfer eto ac mae rhai o aelodau mwyaf uchelgeisiol y grŵp yn arogli'r gwaed yn y dŵr.
Cyn belled ac mae adroddiad Roberts dan sylw mae 'na sawl ffordd o ddarllen geiriau'r hen lwynog. Mae gen i un dehongliad mae gan Betsan un gwahanol. Dyw e hi ddim yn syndod efallai bod Nick yn hoff o'n ddehongliad i. Mae eraill yn sicr mai Betsan sy'n iawn. Dwi'n amau bod angen diwinydd neu athronydd yn hytrach na newyddiadurwr i allu deall adroddiad Roberts- a dw i'n gwbwl sicr bod yr diffyg eglurdeb yn fwriadol.
Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu i raddau ar y rheiny sy'n chwennych yr arweinyddiaeth. Y ceffyl blaen o hyd yw Jonathan Morgan- ond dim ond o drwch blewyn. Mae gen i ryw deimlad y gallai Jonathan deimlo ei fod yn yr un twll a'r Tywysog Charles gan ddisgwyl a disgwyl am ddyrchafiad sydd byth yn dod- i fod yn fab darogan sydd byth yn cael ei ddeffro.
Mae'n sefyllfa anodd i Jonathan. Gallai oedi gormod rhoi cyfle i rywun arall, Darren Miller, efallai, ennill calonnau'r blaid . Gallai gweithredu'n fyrbwyll, ar y llaw arall, fod y beryglus. Yn y Blaid Geidwadol, yn amlach na pheidio, nid y dyn a'r gyllell sy'n cipio'r goron.
Serch hynny, fe fyswn i'n synnu pe na bai na rhyw fath o ymdrech i newid arweinydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae Nick wedi dweud droeon ei fod yn bwriadu arwain y blaid yn etholiad 2011. Mae hynny'n annhebyg iawn yn fy marn i. Dydw i ddim yn disgwyl Nick gytuno a'r dehongliad y tro hwn!