Mae hwn yn sugno!
Mae'r newyddion bod cwmni Hoover yn ystyried rhoi'r gorau i gynhyrchu ym Merthyr yn gnoc i'w gweithwyr ac i'r dref, ond mae'n fwy na hynny. Mae'n ddiwedd cyfnod diddorol a hynod berthnasol yn hanes y dref.
Un o'r gwleidyddion mwyaf hoffus i mi gwrdd ag ef erioed yw cyn Aelod Seneddol Merthyr Ted Rowlands, Arglwydd Rowlands erbyn hyn. Mewn sawl ffordd methodd gyflawni ei botensial. Roedd e'n un o'r gweinidogion ieuengaf erioed ond roedd e'n ddyn oedd yn siwtio bod mewn llywodraeth yn hytrach na gwrthblaid ac roedd Llafur yn wrthblaid am y rhan fwyaf o'i ddegawdau o wasanaeth yn NhÅ·'r Cyffredin.
Mae hanes lleol- yn enwedig hanes Merthyr yn yr ugeinfed ganrif- yn un o'i ddiddordebau mawr ac mae e wedi sgwennu a darlithio'n gyson am y pwnc. Damcaniaeth Ted yw bod Merthyr wedi elwa'n anhygoel oherwydd dau ddarn bach o hap a damwain.
Y cyntaf oedd ymweliad Edward VIII Cymru a Dowlais yn y tridegau pan oedd tri chwarter trigolion y dref yn ddi-waith. Yn ystod yr ymweliad hwnnw fe wnaeth y Brenin ei sylw enwog "something must be done " -teitl llyfr gan Ted Rowlands, gyda llaw. O fewn byr o dro roedd Edward wedi ildio'r goron ond roedd y llywodraeth yn teimlo nad oedd modd anwybyddu ei orchymyn. Un syniad oedd dymchwel; Merthyr yn gyfan gwbwl ac ail-leoli'r boblogaeth. Penderfynwyd y byddai hynny'n rhy gostus. Yn lle hynny, a heb fawr o obaith y byddai'r syniad yn gweithio, dechreuodd y llywodraeth arbrofi trwy godi ffatrïoedd parod- y tro cyntaf i lywodraeth Brydeinig wneud hynny. Ond gyda'r economi mewn twll pwy ar y ddaear byddai'n eu rhenti?
A dyna i chi'r ail ddarn o hap a damwain- y trasiedi mwyaf yn hanes gwaedlyd yr ugeinfed ganrif. Gyda'r Swastica yn taflu cysgod dros y cyfandir dechreuodd llif o ddynion busnes Iddewig gyrraedd Prydain fel ffoaduriaid. Doedd ganddyn nhw'r un ddimai goch ond roedd y rhain yn ddynion penderfynol, galluog a mentrus. Ym Merthyr, ac yn ddiweddarach yn Nhrefforest, roedd modd iddyn nhw adeiladu o'r newydd. Fe osododd y cwmnïau hyn sylfaen economaidd newydd i Ferthyr fel canolfan gynhyrchu. Fe gyrhaeddodd Hoover yn 1948 i goroni'r cyfan ac am drideg mlynedd roedd Merthyr yn dref gymharol lewyrchus.
Fe aeth yr hwch trwy'r siop eto yn yr wythdegau ac erbyn heddiw mae Merthyr unwaith yn rhagor, ar unrhyw fesur, yn un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Oes modd iddi adeiladu economi arall eto?
Mae 'na ambell i ddarn o newyddion da -adeiladu swyddfeydd newydd llywodraeth y cynulliad a dyblu'r nifer o drenau i Gaerdydd yn eu plith. Serch hynny fe fydd angen ymroddiad, gwaith caled ac efallai ambell i hap a damwain i ail-ddyrchafu crud y chwyldro diwydiannol.
SylwadauAnfon sylw
Rhaid peidio anghofio chwaith am gysylltiad Dafydd Wigely gyda'r cwmni Hoover. A'i dyne lle roedd e'n gweithio olaf cyn cael ei ethol yn AS? Roedd e hefyd, wrth gwrs, wedi gwneud cam drwy gael ei ethol fel cynghorydd yn yr ardal hefyd ac wedi chwalu'r monopoli ar hegemoni lwyr oedd gan y Blaid Lafurar fwrdd rheoli'r ffatri. Difyr...