O ddrwg i waeth
Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio'r hen jôc. Pam mae dadleuon academaidd mor ffyrnig? Oherwydd eu bod nhw mor ddibwys.
Draw ym myd y Lib Dems mae pethau'n troi'n gas iawn iawn. Drychwch ar . Nawr, mae'n ddigon posib wrth gwrs mai rhywun o blaid arall sy'n gyfrifol am ymosodiad sydd, a dweud y lleiaf, yn weddol giaidd. Os felly mae fe neu hi wedi llwyddo i achosi drwgdeimlad a phwyntio bysedd o fewn y blaid- cymaint felly nes i hyd yn oed papurau Llundain dalu sylw.
Yn y cyfamser fe wnes i fwynhau'r gwrthdaro rhwng y Llafurwr Rhys Williams a'r Democrat Rhyddfrydol Elgan Morgan ynglŷn â "hustings" y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasenwydd ar CF99 neithiwr.
Rhys; "Faint oedd 'na te?"
Elgan; "Roedd hi'n hanner llawn"
Rhys; "A beth oedd maint y stafell?"
Elgan; "Gwnes i ddim sylwi"
SylwadauAnfon sylw
Mae'r fidio fel dach chi wedi disgrifio Vaughan - ac yn dric reit chep adeg etholiad mewnol. Ond oes 'na rywbeth dyfnach fan hyn?
O fagu cefnogaeth fel plaid 'yr opsiwn arall' mae'r Lib Dems wedi denu cefnogwyr o wahanol gefndiroedd gwleidyddol mewn gwahanol ardaloedd. Be dwi'n ddeud ydi, mae'r Lib Dems yn blaid sy'n sefyll am un peth mewn un ardal a rhywbeth hollol wahanol mewn ardal arall. O ganlyniad - hawdd gweld bod y gwleidyddion yn ei chael hi'n anodd iawn i gyd-fyw o fewn y blaid.
Y cwestiwn i ni'r bobl ydi - am be maen nhw'n sefyll yn genedlaethol? Dwi ddim yn meddwl bod yr etholiad yma wedi dod a ni ddim nes at ateb.
Mae Albert yn berffaith iawn mae'r Rh Dem yn sefyll dros un peth mewn un ardal ac rywbeth arall yn rywle arall. Yn amal iawn 'tories in disguise' ydy Cynghorwyr lleol y Rh Dem...yn y gogledd ddwyrain beth bynag.
I know of nobody in the Welsh Liberal Democrats with the technological ability to produce that video. It was almost certainly made by our political opponents.