Wyddoch Chi eto
Ychwanegiad bach i'r post diwethaf.
Nid pawb sy'n cytuno a fy narlleniad i o argymhellion Wyn Roberts. Mae'n ymddangos ei bod hi'n bosib bod y Torïaid yn yr un twll a Llafur gyda rhai yn credu bod geiriau Syr Wyn yn golygu un peth ac eraill yn eu dehongli'n wahanol.
Mae un aelod cynulliad yn argyhoeddedig mae'r dehongliad cywir o'r adroddiad yw na fyddai ysgrifennydd gwladol Ceidwadol yn blocio refferendwm. Yn breifat mae'r blaid yn cadarnhau bod hi'n anodd dychmygu hynny'n digwydd ond mae'r geiriad braidd yn amwys.
Mae eraill yn y byd gwleidyddol yn anghytuno a'r dehongliad hwnnw gan gynnwys Elfyn Llwyd mewn datganiad i'r wasg. Mae 'na ddiffyg eglurdeb mewn gwirionedd- ac o gofio'r rhaniadau o fewn y blaid efallai bod hynny'n fwriadol!
SylwadauAnfon sylw
Chi wedi camddehongli'r adroddiad Vaughan. Dyma'r dyfyniad cywir:
"...[under] a referendum held in accordance with Part 4 of the 2006 Act, it will be for the Assembly to initiate the referendum process and for the Conservative Government at Westminster to consider the proposal on its merits."
Mae hynny yn golygu bod nhw dal eisiau cadw'r hawl gyda'r llywodraeth Ceidwadol San Steffan i atal y Cynulliad rhag cynnal refferendwm.
Dyna'r gwir Ceidwadwyr, gwrth-Gymreig.