Bournewatch (4)
Rwy'n dioddef o'r ffliw- felly mae'r Bournewatch yn digwydd o bell heddiw felly.
Yn ffodus mae Betsan yn cadw llygad ar bethau! Mae , a hefyd yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr.
Mae un sylw gan Bethan yn enwedig o berthnasol.
"I used my discretion, and more or less thought 'What would the public be happy with AMs claiming, within reason?"
Yn union. Fel mae un sylw ar flog Glyn yn nodi sut ar y ddaear yr oedd Nick Bourne a Brian Gibbons, ill dau yn ennill dros £90,000 y flwyddyn, yn credu bod hi'n iawn i hawlio pump punt am fylbiau golau (Nick) neu £16 ar gyfer torch o flodau ar Sul y Cofio (Brian)?
I fod yn deg a'n gwleidyddion mae 'na un peth sy'n werth cofio yn fan hyn. Fe rhyddhawyd y manylion hyn i gyd o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth gan y ´óÏó´«Ã½ a'r Western Mail. Oherwydd hynny mae rhai ohonynt yn dyddio yn ôl i 2006/2007. Mae cyfeirio at yr hinsawdd economaidd bresennol wrth feirniadu aelodau cynulliad braidd yn annheg felly. Efallai bod na (ychydig) fwy o gyfiawnhad dros hawlio am I-pod ddwy flynedd yn ôl na sy 'na nawr.
Mae hynny'n dod a ni yn ôl at Nick Bourne a sylw craff arall, gan Peter Black y tro hwn;
"There is no doubt that the Tories seem to have come off worse from this latest publication of expenses. This is partly because they have made some unusual claims but also because of the dissatisfaction within the Conservative Group about Nick Bourne's leadership and the fact that some are using his expenses as a stick to beat him with."
Gwir pob gair. Yr hyn sy'n bwysig i gofio yw bod Nick yn gwybod yn iawn, neu o leiaf yn amau, pa rai ar ei fainc flaen ac o fewn y blaid sy'n briffio yn ei erbyn. Mae ei fethiant i gymryd camau i'w disgyblu yn brawf o wendid difrifol ei sefyllfa. A fydd unrhyw beth yn digwydd cyn y Nadolig? 60:40 yn erbyn dybiwn i.
SylwadauAnfon sylw
Hmm..Rwyf i yn becso llai am bethau fel y pump punt am y bylbs a'r torch o flodau, achos mae llawer o bethau bach fel hynna yn galli costu lot, a heb unrhyw 'benefit' i'r person fyddai yn gorfod hwpo ei law yn ei boced.
Y pwynt am iPod neu deledu yw fod yr AM wedyn yn 'berchen' ar yr eitem - a dyw hynny ddim yn weld yn deg iawn.
Yn enwedig pan dylai eitemau fel hyn fynd drwy 'procurement' canolog i safio arian, a chael y pethau ar rhyw 'asset register' a cael eu pasio i bobl eraill os ydyw'r AM yn colli sedd.
Wrth gwrs, mae gwario 5000 o arian cyhoeddus ar eich stafell ymolchi yn annerbyniol, ond mae gen i broblem gyda chwynion am yr iPod.
Rydw i'n defnyddio iPod (wel, chwaraewr mp3) ar gyfer fy ngwaith. Dwi'n hefyd yn gallu dychmygu bod Nick Bourne yn gorfod gwrando ar bodlediadau ayyb ar ei iPod...