Chwech Peth Amhosib Cyn Brecwast
"Alice laughed: "There's no use trying," she said; "one can't believe impossible things."
"I daresay you haven't had much practice," said the Queen. "When I was younger, I always did it for half an hour a day. Why, sometimes I've believed as many as six impossible things before breakfast."
Alice in Wonderland.
Dyma fy hanner dwsin i.
1.Mae'r arfer o osod coeden yn y tÅ· adeg Nadolig a'i addurno a thlysau lliwgar yn unigryw i rannau o Sir Benfro.
2.Mae Alun Davies yn rhugl mewn naw o ieithoedd, yn eu plith Hopi, Sanscrit a'r Fanaweg.
3.Cyn ei ddyrchafu'n Dywysog roedd Llywelyn Fawr yn chwaraewr pêl-fasged proffesiynol.
4.Mae Elin Jones yn fam bedydd i Britney Spears.
5.Pe bai Cantre'r Gwaelod heb foddi fe fyddai'n rhan o etholaeth Ceredigion.
6.Fe fydd Nick Bourne yn arwain Ceidwadwyr Cymru yn etholiad 2011.
Dim ond un o rhain sy'n wir. Ond p'un?
SylwadauAnfon sylw
Mae Alun Davies yn rhugl mewn deg iaith. Anghofiast ti son am ei allu unigryw yn y Gacheg.
Cantre'r Gwaelod - Ceredigion neu Orllewin Dulyn.....
Chwe pheth amhosib:
Troith yr LCO iaith yn fesur sydd yn ddigon cryf i gyflwani'i swyddogaeth, heb godi gwrychyn nifer helaeth o Gymry Di-Gymraeg.
Pasith wythnos yn ystod 2009 heb i ni glywed dim gan David Davies Sir Fynwy (ydw i'n gywir i ddweud bod Adam Price wedi'i dawelu rhyw ychydig gan eich sylwadau diweddar?)
Daw dadl berthnasol yn erbyn rhagor o bwerau i'r Cynulliad (nid yw "bydd annibyniaeth yn rhy ddrud" yn cyfri' - perthnasol wetais i!)
Rhoith cyfryngau Llundain sylw cadarnhaol i bolisiau Cymru (neu'r Alban) rhywbryd yn y flwyddyn nesaf, yn hytrach na son am bwy mor lwcus 'y ni yn cael hyn a'r llall dan nawdd Lloegr.
Bydd pobl Cymru yn sylweddoli taw yn ein dwylo ni mae dyfodol yr iaith Gymraeg, a'r 300 a mwy o filoedd o Gymry Cymraeg rhugl yn mynnu defnyddio (neu jest yn mynnu...) gwasanaethau Gymraeg gan gwmniau preifat heb i unrhyw ddeddfwriaeth ein helpu.
Bydd Betsan Powys, druan, yn llwyddo i ysgrifennu un cyfnod ar ei blog sy ddim yn arwain at ddadl ynglyn a dilysrwydd y Cynulliad neu'r iaith Gymraeg.
Sori. Lwyddais i ddim i gael yr un oedd yn wir...
Cantre'r Gwaelod oedd yn wir!